Cyd-bwyllgor y Gweinidogion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 23 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:11, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi a'r Cwnsler Cyffredinol wedi codi cwestiwn Erasmus+ yn y Cydbwyllgor Gweinidogion. O ystyried y penderfyniad hynod siomedig gan Lywodraeth y DU i droi eu cefnau ar y rhaglen hynod lwyddiannus hon o gyfnewidiadau dysgu, a fyddech chi'n cytuno â mi bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yn ariannu rhaglen ddysgu gyfatebol newydd ar gyfer tymor nesaf cyfan y Senedd yn hwb enfawr i bobl ifanc yng Nghymru?