Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 23 Mawrth 2021.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Lynne Neagle am hynna? Rwy'n cofio yn dda iawn bod yn un o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd pan ofynnodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn ar y pryd, David Lidington, i ni gyfrannu at restr o'r sefydliadau Undeb Ewropeaidd hynny y byddem ni'n dymuno aros yn aelodau ohonyn nhw ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ei hun. Mae aelodaeth o Erasmus+ ar gael i wledydd ymhell y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, a gallaf sicrhau'r Aelod ei bod bob amser ar frig y rhestr o bethau y gwnaethom ni ddadlau drostyn nhw, ochr yn ochr â'r Alban, ochr yn ochr â Gogledd Iwerddon, i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny ar gael o hyd i bobl ifanc yma yng Nghymru. Ac roedd yn weithred o fandaliaeth ddiwylliannol syml gan Lywodraeth y DU i droi ei chefn ac, yn bwysicach, gwrthod cynnig i bobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig y cyfleoedd parhaus y byddai Erasmus+ yn eu cynnig.
Rydym ni wedi parhau i wneud y ddadl—rydym ni wedi dadlau a dadlau nad yw'n rhy hwyr i'r Deyrnas Unedig fanteisio ar y cyfle hwnnw—a dim ond Llywodraeth y DU sydd wedi gwrthod gwneud hynny, ac mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn eglur, heb unfrydedd ymhlith pedair gwlad y DU, nad ydyn nhw'n gallu cynnig y cyfle hwnnw i ni. Dyna pam y gwnaethom ni'r cyhoeddiad a wnaethom dros y penwythnos, cyhoeddiad yr wyf i'n hynod falch ohono: rhaglen aml-flwyddyn sy'n sicrhau ar gyfer tymor nesaf cyfan y Senedd y bydd ein pobl ifanc yn gallu teithio dramor, gweithio dramor, astudio dramor, ac y bydd pobl ifanc o fannau eraill yn y byd yn dod yma i Gymru. Rydym ni'n cael cymaint mwy allan o hynny nag yr ydym ni'n ei gyfrannu ato.
Roeddwn i'n bresennol yn ddiweddar ar Ddydd Gŵyl Dewi mewn digwyddiad gyda myfyrwyr Seren yn Unol Daleithiau America—pedwar o bobl ifanc o Gymru yn astudio ym mhrifysgolion Harvard, Yale, Chicago a Princeton, prifysgolion Ivy League bob un ohonyn nhw. Roedden nhw'n eistedd yno yn eu hystafelloedd gyda baner Cymru y tu ôl iddyn nhw. Maen nhw'n llysgenhadon dros Gymru bob un dydd, a'r bobl ifanc a fydd yn dod i Gymru a'r bobl ifanc a fydd yn mynd o Gymru i 50 o wahanol wledydd nawr, o ganlyniad i'r cynllun hwn, fydd ein llysgenhadon gorau. Ni allwn fod yn fwy balch o'r ffaith ein bod ni bellach wedi rhoi'r cyfleoedd hynny iddyn nhw a dylem ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw hefyd.