Cyllideb Flynyddol Llywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 23 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:22, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, rydym ni wedi camu ymlaen i ddiogelu buddiannau pobl Cymru ar draws amrywiaeth o gyfrifoldebau nad ydyn nhw wedi eu datganoli, o drafnidiaeth i fand eang, o ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i gynorthwyo gwladolion yr UE sy'n gwneud cais am statws preswylydd sefydlog. Daeth comisiwn Thomas i'r casgliad bod 38 y cant o gyfanswm y gwariant ar gyfiawnder yng Nghymru—y rheini i gyd yn gyfrifoldebau nad ydyn nhw wedi eu datganoli—erbyn hyn yn dod gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru.