Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 23 Mawrth 2021.
Diolchaf i Jenny Rathbone am hynna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad interim adolygiad Syr Peter Hendy o gysylltedd undebau. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at waith comisiwn Burns a'i gynigion ar gyfer buddsoddiad mewn prif reilffordd, gan greu gorsafoedd a gwasanaethau newydd i wella cysylltedd drwy well cludiant cyhoeddus.