Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 23 Mawrth 2021.
Prif Weinidog, ers i chi ddod i rym ym mis Rhagfyr 2018, rydych chi wedi bod yn feirniad cyson o Lywodraeth y DU. Rydych chi, mewn gwirionedd, nid yn unig wedi bod yn feirniadol, ond rydych chi wedi ceisio tanseilio polisi Llywodraeth y DU yn rheolaidd, yn enwedig o ran Brexit, ac yn ddiweddar fe wnaethoch chi ddisgrifio Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, fel bod yn ofnadwy. Nid yw hynny yn hwyluso perthynas waith gadarnhaol rhwng Gweinidogion. A ydych chi'n derbyn, er mwyn i Lywodraeth nesaf Cymru gael perthynas waith dda â Llywodraeth y DU, y bydd angen i bobl bleidleisio dros y Ceidwadwyr ym mis Mai?