Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 23 Mawrth 2021.
Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn olaf pwysig iawn yna. Llywydd, mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn wahanol ac yn heriol i lawer o bobl yng Nghymru, gydag effeithiau dilynol ar iechyd meddwl a llesiant. Wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud, mae sicrhau effeithiau cadarnhaol ar iechyd meddwl yn cael ei ystyried yn uniongyrchol gan y Cabinet ym mhob adolygiad tair wythnos, gan bob amser gadw Cymru yn ddiogel ar yr un pryd.