1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2021.
8. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i wella iechyd meddwl yng Nghymru wrth benderfynu llacio'r cyfyngiadau symud? OQ56482
Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn olaf pwysig iawn yna. Llywydd, mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn wahanol ac yn heriol i lawer o bobl yng Nghymru, gydag effeithiau dilynol ar iechyd meddwl a llesiant. Wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud, mae sicrhau effeithiau cadarnhaol ar iechyd meddwl yn cael ei ystyried yn uniongyrchol gan y Cabinet ym mhob adolygiad tair wythnos, gan bob amser gadw Cymru yn ddiogel ar yr un pryd.
Diolch. Prif Weinidog, mae manteision chwaraeon ac ymarfer corff i iechyd meddwl yn rhywbeth yr wyf i wedi sôn llawer amdano yn y Siambr ers i mi ymuno ddim mor bell a hynny yn ôl. Mae'r cysylltiad rhwng y ddau yn hysbys iawn, ac rwy'n credu y bydd yn chwarae rhan ganolog yn y cyfnod adfer yn sgil y pandemig hwn. Ar 1 Chwefror, dywedodd y Gweinidog iechyd meddwl bod cyfleusterau ffitrwydd a phyllau nofio yn hanfodol i iechyd y genedl. Felly, byddwch yn gallu deall syndod a dicter ein gweithredwyr gweithgarwch corfforol ledled Cymru at eich penderfyniad i ohirio ailagor campfeydd dim ond ychydig wythnosau ar ôl i'r Gweinidog addo y byddai clybiau iechyd a chanolfannau hamdden ymhlith y busnesau cyntaf i ailagor. Rydych chi wedi dweud y byddwch chi'n adolygu'r penderfyniad ar 22 Ebrill, sydd i'w groesawu, ond mae angen mwy o sicrwydd, Prif Weinidog, er mwyn i'r cwmnïau hyn, y busnesau hyn, baratoi ar gyfer ailagor, yn eironig, fel eu bod nhw'n ddiogel rhag COVID, yn ogystal â pharatoi meysydd, cyfleusterau a'r math hwnnw o beth yn amlwg. Onid ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, na ellir anwybyddu manteision eu hagor?
Yn sicr, nid wyf i'n bwriadu anwybyddu'r manteision o'u hailagor, Llywydd. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod wedi croesawu'r penderfyniad i ganiatáu i ailddechrau gweithgareddau awyr agored i blant yn ystod gwyliau'r Pasg, ac, wrth gwrs, mae campfeydd awyr agored eisoes ar agor yma yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o adroddiad y gell cynghori technegol sy'n nodi'r risgiau a achosir o hyd gan leoedd caeedig dan do lle mae pobl yn gwneud ymarfer corff yn ystod pandemig byd-eang. Rydym yn gobeithio y bydd yr amodau yng Nghymru yn gwella digon ar ôl 12 Ebrill fel y gellir ystyried ailagor campfeydd a chanolfannau hamdden, ac rwyf i eisoes wedi dweud y bydd yn un o bedwar peth a fydd ar y rhestr o bethau y byddwn yn eu hystyried ar gyfer y cyfnod tair wythnos nesaf hwnnw. Mae hynny'n gydnabyddiaeth o'r manteision corfforol a llesiant meddyliol a ddaw pan fydd pobl yn gallu defnyddio'r lleoliadau hynny. Ond rhaid ei gydbwyso yn erbyn y risgiau a achosir. Mae'r risgiau hynny'n rhai gwirioneddol, ac maen nhw wedi'u nodi yn adroddiad TAC. Os ydych yn gwneud penderfyniadau cyfrifol mewn Llywodraeth, mae arnaf ofn na allwch chi fforddio peidio â chymryd o ddifrif gyngor sydd ddim yn ddeniadol neu at eich dant. Fe fyddwn ni'n ailagor y sector. Fe fyddwn ni'n gwneud hynny'n ofalus. Fe fyddwn ni'n gwneud hynny yn unol â'r cyngor. Fe fyddwn ni'n gwneud hynny cyn gynted ag y bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn ei wneud yn ddiogel, ond nid cyn hynny.
Diolch i'r Prif Weinidog.