Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 23 Mawrth 2021.
A gaf i gymryd y cyfle yma i estyn cydymdeimladau dwys, yn y lle cyntaf, i bawb sydd wedi colli anwyliaid yn ystod creulondeb enbyd y 12 mis diwethaf a'r rhai sydd yn dal i ddioddef heddiw? Mae ein meddyliau ni i gyd gyda nhw i gyd. Fel y dywedoch chi yn eich datganiad, Brif Weinidog, fe fydd yn gryn amser nes i effaith y pandemig gael ei ddirnad yn llwyr gennym ni, ac rwy'n ofni y bydd y creithiau ar ein cymdeithas ni am yn hir iawn i'r dyfodol.
Ym mhob anobaith, mae yna obaith, a hyd yn oed yn yr oriau tywyllaf mae goleuni, ac mae ein gweithwyr allweddol wedi bod yn ffynhonnell goleuni ac wedi cynnal ni i gyd drwy'r dyddiau du hyn. Fe hoffwn i ddiolch hefyd o waelod calon iddyn nhw i gyd, i'r holl weithwyr yn y gwasanaeth iechyd; ein gweithwyr gofal; ein gofalwyr di-dal; ein hathrawon sydd wedi cynnal addysg hyd yn oed o bell; yr heddlu, sydd wedi rhoi eu hunain mewn perygl i sicrhau bod y rheoliadau yn cael eu cynnal er lles pawb ohonom ni; ein gweithwyr trafnidiaeth; y gweithwyr yn y siopau a'r archfarchnadoedd; ein cynhyrchwyr bwyd, sydd wedi diogelu ein cadwyni cyflenwi bwyd; ac i'r ymgymerwyr angladdau, sydd yn gwneud gwaith anodd ar y gorau, ond sydd wedi gorfod gwneud hynny o dan amodau gymaint yn anoddach. Diolch hefyd i bawb yng Nghymru sydd wedi chwarae rhan i gadw pawb yn ddiogel, drwy wneud yr holl aberth wrth ddilyn y rheoliadau a'r canllawiau di-gynsail sydd wedi eu gosod ar bob agwedd o fywyd. A gaf i ddiolch yn arbennig i'n pobl ifanc sydd wedi gorfod aberthu mwy na neb?
Mae yna wersi, fel y dywedodd Sir Mansel Aylward yn ddiweddar, o'r 12 mis diwethaf. Rŷm ni'n credu bod angen ymchwiliad Cymreig annibynol gan fod yna wersi sydd yn unigryw i Gymru y mae angen eu dysgu a fydd ddim yn cael ffocws, efallai, mewn ymchwiliad ymbarél Brydeinig. Ond sut ŷm ni'n gallu dysgu ac adnabod gwersi hyd yn oed nawr? Rwy'n cyfeirio at adroddiad Conffederasiwn GIG Cymru a phartneriaid eraill a oedd yn edrych ar yr arloesi sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod, wynebu'r heriau ofnadwy sydd wedi bod o'n blaenau ni yn ystod y 12 mis diwethaf, ond drwy hynny, canfod cryfder: Cymru ar ei gorau yn dod at ei gilydd i weithio ar draws sectorau; llywodraeth leol yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd ar lawr gwlad o ran y system profi ac olrhain a'r cynllun brechu; y defnydd o dechnoleg newydd a digidoli'n gweithio ar raddfa fyddai neb wedi medru dychmygu; y gallu i roi o'r neilltu biwrocratiaeth ac ymrymuso gweithwyr yn y gwasanaethau i wneud penderfyniadau'n gyflym. Sut allwn ni harneisio'r profiad yma, Brif Weinidog, yn y cyfnod newydd sydd o'n blaenau ni, sydd, wrth gwrs, yn cynnig heriau o hyd? A oes yna wersi mwy cyffredinol hefyd yn y ffaith yma ein bod ni wedi elwa o dorri ein cwys ein hunain fel gwlad yn ystod y 12 mis diwethaf?
Yn olaf, fel y mae adroddiad yr Academi Brydeinig a gyhoeddwyd heddiw wedi adleisio, mae'r pandemig wedi amlygu a gwaethygu, a dweud y gwir, yr anghyfartaledd oedd yno eisoes yn ein cymdeithas ni. Mae hynny'n wir o ran incwm a chyfoeth, o ran daearyddiaeth ac o ran rywedd a hil. Ydy'r pandemig yn foment i ni benderfynu mynd i'r afael o ddifrif â'r problemau hirdymor a dybryd sydd wedi bod yn gysgod ar ein cymdeithas a'n cenedl yn rhy hir? Onid dyma'r ymrwymiad mwyaf y gallwn ei wneud er cof am aberthau a cholledion lu'r flwyddyn anodd hon?