– Senedd Cymru am 2:57 pm ar 23 Mawrth 2021.
Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Prif Weinidog nawr ar COVID-19, flwyddyn yn ddiweddarach. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad.
Diolch, Lywydd. Heddiw, rydyn ni’n nodi carreg filltir bwysig yn y pandemig hwn, pandemig sydd wedi cael cymaint o effaith arnon ni i gyd. Flwyddyn yn ôl i heddiw, dechreuodd pob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig gyda’i gilydd ar gyfnod o gyfyngiadau llym am y tro cyntaf. I lawer iawn o bobl, dyma fyddai’r tro cyntaf iddyn nhw sylweddoli pa mor ddifrifol oedd yr argyfwng iechyd y cyhoedd yr ydym ni wedi bod yn byw gyda fe ers cymaint o amser erbyn hyn.
Heddiw, mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y wlad. Am hanner dydd, fe safon ni mewn tawelwch gyda phobl eraill ar draws y Deyrnas Unedig. Yn hwyrach heddiw, byddwn ni’n cynnal ein digwyddiad ein hunain i gofio. Byddwn ni’n dod at ein gilydd i gofio pob un sydd wedi marw ac i gydnabod y gwir ymroddiad sydd wedi cael ei ddangos gan gymaint o unigolion ar draws Cymru. Heno, bydd tirnodau ac adeiladau yn cael eu goleuo ym mhob cwr o Gymru. Lywydd, rydyn ni’n canolbwyntio’n bennaf heddiw ar y nifer arswydus o uchel o unigolion sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig, ac mae’n briodol ein bod ni’n gwneud hynny. Fel rydyn ni wedi gwneud gydol y pandemig, rydyn ni’n meddwl am bob teulu sy’n galaru ar ôl iddyn nhw golli rhywun a oedd yn annwyl iddyn nhw. Rydyn ni’n cofio am yr unigolion sydd y tu ôl i’r ffigurau sy’n cael eu hadrodd bob dydd.
Llywydd, mae hwn yn feirws dychrynllyd a chreulon. Mae wedi taro heb ystyriaeth i oedran, gan gipio'r hen a'r ifanc. Mae wedi amlygu anghydraddoldebau ystyfnig yn ein cymdeithas ni, gan ddatgelu ymraniadau ac effeithio ar y cymunedau hynny sydd fwyaf agored i niwed, yn enwedig pobl anabl, menywod, a chymunedau pobl dduon, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi clywed storïau torcalonus am wŷr a gwragedd yn marw o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd, am frodyr a chwiorydd yn cael eu cipio i ffwrdd gan y feirws, am genedlaethau o'r un teulu yn marw oherwydd COVID-19. Fe fyddan nhw'n aros yng nghalonnau a meddyliau pawb a oedd yn eu hadnabod ac yn eu caru nhw ac rydym ninnau'n cofio amdanyn nhw heddiw hefyd. Fe fydd yna ddwy gofeb fyw barhaol yng Nghymru i bawb a fu farw, wrth inni blannu coedwigoedd yn y Gogledd a'r De. Fe fydd y rhain yn gyrchfannau i deuluoedd fel y gallant gofio am eu hanwyliaid ac yn llecynnau ar gyfer myfyrdod i eraill. Oherwydd mae'r feirws hwn wedi dwyn rhywbeth oddi ar bob un ohonom ni sydd yma heddiw; ac mae pob un ohonom ni wedi adnabod rhywun a fu farw neu rywun sydd wedi dioddef afiechyd.
Fe deimlwyd y gost yn y ffyrdd yr ydym ni'n byw ein bywydau ni bob dydd. Fe dorrwyd ar draws ein traddodiadau ar gyfer dathlu'r Nadolig, Ramadan, Diwali a'r Hanukkah. Cafodd priodasau eu canslo ac fe newidiodd ein dull ni o ffarwelio â'r rhai a gollwyd. Cafwyd cost ariannol aruthrol wrth i fusnesau gau, ac yn anffodus, ni fydd rhai ohonyn nhw byth yn ailagor, ac fe gafodd swyddi eu colli hefyd. Ac mae'r feirws wedi newid yn sylfaenol ein ffyrdd ni o ryngweithio â'n gilydd, gan daflu cysgod dros ein bywydau ni i gyd. Nid yn unig o ran cyffwrdd penelin yn hytrach nag ysgwyd llaw, neu alwadau Zoom yn hytrach na chyfarfod rhywun wyneb yn wyneb; mae'r feirws wedi ein hamddifadu ni o gyffyrddiad dynol a chyswllt dynol. Rydym wedi gweld effaith y pandemig eisoes ar iechyd meddwl a'n llesiant ni, gyda theimladau o unigrwydd, arwahanrwydd, pryder, a rhwystredigaeth ac efallai nad yw dylanwad hynny wedi cyrraedd ei uchafbwynt eto, fel y trafodwyd yn gynharach y prynhawn yma.
Ac eto i gyd, Llywydd, er mor boenus fu'r gost i bobl, mae'r flwyddyn eithriadol hon wedi dangos pa mor ddi-syfl y gall pobl fod yn ogystal â'u parodrwydd aruthrol nhw i helpu ei gilydd mewn cymunedau. Wythnos ar ôl wythnos, rydym ni wedi gweld mwy o bobl yn gwirfoddoli i helpu'r rhai sydd wedi bod yn llochesu ac i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ni; dros 100 o wirfoddolwyr newydd yn cynnig cymorth eto yn ystod yr wythnos diwethaf. Ac wrth i ysgolion a siopau gau am gyfnodau maith, mae ein cartrefi ni wedi bod yn ystafelloedd dosbarth a gweithleoedd, ac mae busnesau wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o gynnig gwasanaethau o bellter. Mae ciwiau'r oriau brig wedi diflannu, bron â bod, ac rydym ni wedi dysgu sut i ddefnyddio'r botwm 'mute'—neu'r rhan fwyaf ohonom y rhan fwyaf o'r amser, o leiaf.
Llywydd, fe hoffwn i dalu teyrnged i'r ffordd ryfeddol y mae ein gwasanaethau cyhoeddus wedi ymateb i'r pandemig, ac ymroddiad a phenderfyniad y degau o filoedd o bobl sy'n gweithio yn ein GIG ni a'n gwasanaethau gofal ni ac ym mhob un o'r gwasanaethau hynny o ddydd i ddydd yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw a ddarperir gan ein hawdurdodau lleol. A thu hwnt i hynny i gyd, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi rhoi eu hunain mewn perygl yn eu gwaith nhw drwy roi gwasanaeth i eraill: mewn swyddi manwerthu, gyrwyr bysiau, trenau, a thacsis, athrawon a staff ysgol—mae'r rhestr yn faith ac yn hirach nag y gallaf i ei nodi y prynhawn yma. Eich gwaith diflino chi sydd wedi ein cadw ni i gyd yn ddiogel.
Ac mae'r ymateb i'r pandemig yng Nghymru wedi bod yn ymateb o ran partneriaeth gymdeithasol, boed hynny yn ein gwasanaeth profi ac olrhain llwyddiannus ni, a gafodd ei lunio o ddim ac fe ddywedodd Swyddfa Archwilio Cymru amdano'r wythnos diwethaf ei fod yn gwneud cyfraniad pwysig at reoli COVID-19, boed hynny wrth sicrhau cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol gan fusnesau Cymru ar gyfer y GIG a gofal cymdeithasol, neu ein system wyliadwriaeth genomeg ni yng Nghymru sy'n arwain y byd, sy'n helpu i nodi amrywiolion newydd o'r feirws, ac wrth gwrs, ein rhaglen frechu wych ni, sy'n parhau i fynd o nerth i nerth gan ei bod hi'n darparu brechlynnau i bobl yn anhygoel o gyflym. Mewn llai na phedwar mis, Llywydd, mae miloedd o staff y GIG, gyda chefnogaeth personél milwrol a gwirfoddolwyr, ac yn gweithio o 600 o ganolfannau, wedi rhoi'r dos cyntaf o'r brechlyn i fwy na hanner poblogaeth oedolion Cymru. A'r brechu sy'n rhoi gobaith gwirioneddol inni am ddyfodol gwell a pherthynas wahanol â'r feirws hwn—dyfodol lle byddwn ni'n gallu byw gyda llai o gyfyngiadau.
Oherwydd, yn ystod y 12 mis diwethaf, mae pob un o bedair Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniadau digynsail i ddiogelu iechyd pobl a rheoli ymlediad y feirws. Mae hynny wedi golygu ymyrryd ym mywydau pobl mewn ffyrdd na welwyd eu tebyg ers cenedlaethau. Nid oes yr un o'r penderfyniadau hyn wedi bod yn hawdd, ac yn sicr nid oes yr un ohonyn nhw wedi cael eu gwneud ar chwarae bach, ond maen nhw wedi bod yn angenrheidiol i achub bywydau a bywoliaethau pobl.
Fe hoffwn i ddiolch i bawb yng Nghymru am eu cefnogaeth a'u cymorth nhw. Eich buddugoliaeth chi yw hon ac fe ddaeth â'r feirws dan reolaeth dro ar ôl tro yn ystod y flwyddyn hon. Mae pobl ar draws y genedl wedi dilyn y rheolau ac wedi cadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel ac oherwydd hynny fe allwn ni ddechrau llacio'r cyfyngiadau hyn nawr, gan ddatgloi Cymru fesul sector yn ofalus iawn. Ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hyn yn raddol, gam wrth gam, fel nad ydym yn colli dim o'r gwaith caled a'r aberthau a wnaeth 3 miliwn o bobl yn ystod y tri mis diwethaf, gan fod yn ymwybodol trwy'r amser o ba mor gyflym y gall y feirws hwn ddychwelyd, fel y gwelsom ni gyda'r profiadau sobreiddiol yn Ewrop yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Llywydd, ar draws Cymru rydym ni wedi teimlo ysbryd o undod cymdeithasol enfawr a channoedd o filoedd o weithredoedd bach unigol o garedigrwydd, a hynny hyd yn oed gyda'r holl darfu ar fywydau a bywydau'n cael eu dal yn ôl. Ac oherwydd yr ysbryd hwnnw rydym yn dechrau'r gwanwyn hwn ac yn nodi'r flwyddyn gron gydag ymdeimlad o obaith. Mae'r achosion wedi gostwng, mae'r pwysau ar ein GIG ni'n ysgafnhau; mae gennym ni fwy o brofion a phrofion amrywiol ar gael yn ogystal â brechu ar raddfa eang. Rydym ni'n dechrau datgloi ein cenedl ac rydym ni'n benderfynol o wneud hynny mewn ffordd sy'n cadw cyfraddau'r feirws yn isel. Fe fyddwn ni'n ailgodi ac yn adfer, gan adeiladu Cymru sy'n decach a gwyrddach, lle nad oes unrhyw un yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl.
Llywydd, rydym ni'n byw gyda'r coronafeirws ac yn debygol o fod am gryn amser eto. Ond mae glynu at obaith mewn adfyd a bod yn llawn hyder a gobaith mewn hawddfyd, fel ei gilydd, yn rhan o gyflwr y ddynoliaeth. Dyma sy'n ein galluogi ni i ddweud y gall eleni fod yn wahanol ac y bydd eleni'n well na'r llynedd. Diolch yn fawr.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau a fynegwyd yn y datganiad hwn. Flwyddyn i heddiw, yn amlwg, fe osodwyd y cyfyngiadau cyntaf arnom ni, a phrin iawn y gellir dychmygu maint y drasiedi sydd wedi digwydd i 7,000 a mwy o deuluoedd oherwydd colli aelod annwyl o'u teulu, ac mae'r cariad a'r cydymdeimlad sy'n cael eu harddangos gan y gymdeithas gyfan ledled Cymru yn glod i'r ysbryd cymunedol hwnnw sy'n bodoli ym mhob cwr o Gymru.
Mae'r ymroddiad yng ngwaith y gwasanaethau wrth gefnogi teuluoedd, o'r GIG yr holl ffordd at y sector cyhoeddus a'r sector elusennol, yn esiampl i unrhyw un ei hystyried gyda balchder mawr. Rwy'n credu y gallwn ni ymfalchïo llawer iawn yn y ffordd y mae'r wlad wedi wynebu'r feirws hwn. Mae'n ddigon posibl fy mod i wedi anghytuno gyda'r Prif Weinidog o bryd i'w gilydd o ran polisi, ond mae'n ffaith bod pawb, yn wlad o 3 miliwn o bobl, wedi chwarae eu rhan wrth wynebu'r feirws, ac, fel y nododd y Prif Weinidog, nid ydym wedi cyrraedd y lan eto, ond rydym wedi cefnu ar ran fawr o'r fordaith honno, ac mae'r gwanwyn yn edrych yn llawer goleuach nag yr oedd ychydig wythnosau yn ôl.
Gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, hoffwn i ofyn cyfres o gwestiynau sy'n deillio o'r datganiad, fe fyddwn i'n ddiolchgar am rai atebion. Ar ddiwedd y datganiad rydych chi'n sôn ein bod ni'n byw gyda'r coronafeirws ac mae'n debygol y byddwn ni am gryn amser eto. Rydych chi wedi cyflwyno sylwadau yn y cyfryngau yn ddiweddar eich bod chi'n credu y bydd cryn dipyn o gyfyngiadau yn parhau arnom trwy gydol 2021 ac i mewn i 2022. A wnewch chi roi amcan o'r hyn sydd ar eich meddwl, o'r wybodaeth sydd ger eich bron, ynglŷn â pha fath o gyfyngiadau y gallem ni fod yn eu disgwyl yn ystod gweddill 2021 ac i mewn i 2022? Hefyd, y pwynt yr ydych chi'n ei wneud o ran cofebion byw—rwy'n croesawu hynny, yn enwedig y ffordd yr ydych chi wedi eu lledaenu nhw'n ddaearyddol i'r Gogledd a'r De, ond tybed pam na roddwyd ystyriaeth i sefydlu cofeb yn y Canolbarth, fel bod gardd goffa fel hyn ym mhob rhan o Gymru ac y byddai modd ymweld ag un heb deithio'n rhy bell o unrhyw fan yng Nghymru. Felly, tybed a ydych chi'n ystyried y syniad o sefydlu coetir o'r fath yn y Canolbarth, gan fod hynny'n amlwg yn absennol yn y cyhoeddiad a wnaethoch chi'r wythnos diwethaf.
Mewn rhan arall o'r datganiad, rydych chi'n sôn am unigrwydd, arwahanrwydd, pryder a rhwystredigaeth, ac efallai nad yw eu penllanw nhw wedi bod eto. Pa asesiad a wnaeth y Llywodraeth o'r gofynion y mae'n ddigon posibl y byddan nhw'n creu pwysau ar y gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu darparu? Roedd sefydlu swydd arbennig Gweinidog Iechyd Meddwl nôl yn yr hydref yn ddatblygiad i'w groesawu, ac rwy'n gobeithio bod y Llywodraeth wedi gallu gwneud asesiadau o'r gofynion y mae eu hangen arnom i adeiladu ein gwasanaethau ni yn y dyfodol. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn yn y datganiad hwn, ynghylch unigrwydd, arwahanrwydd, pryder a rhwystredigaeth, oherwydd mae llawer o bobl ledled Cymru wedi teimlo hynny'n enbyd.
Ac yn olaf, rydych chi'n tynnu sylw at y llwyddiant wrth gyflwyno'r brechiadau, rhywbeth y gallwn ni i gyd ei ddathlu ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, lle mae dros 50 y cant o'r boblogaeth oedolion wedi eu brechu. Yn anffodus, mae deialog wedi bod rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r DU a rhannau eraill o'r byd, ac yn enwedig yr Undeb Ewropeaidd, ynghylch atal cyflenwadau. Rwy'n gobeithio'n fawr nad yw hynny'n wir. Rwy'n sylweddoli maint yr anawsterau y mae'r Undeb Ewropeaidd yn eu hwynebu yn ystod eu proses gyflwyno, ac, yn wir, mae ymdrin â'r drydedd don sy'n traflyncu'r cyfandir nawr yn rhywbeth nad oes unrhyw un ohonom ni'n dymuno ei weld. Ond rwy'n eich gwahodd chi i roi sylw ar yr hyn y byddech chi'n ei anfon mewn neges bersonol i Arlywydd yr Undeb Ewropeaidd o ran peidio â dilyn y trywydd hwn o sancsiynau a thorri cytundebau, a chaniatáu rhwydd hynt i frechlynnau a addawyd mewn cytundebau. Nid oes unrhyw un yn bwriadu gweithredu y tu allan i baramedrau'r cytundebau, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ichi fynegi hynny ar goedd, Prif Weinidog. Oherwydd mae hwn yn destun cryn bryder ac, yn y pen draw, mae'r cytundebau hynny ar waith ac nid ydym yn dymuno gweld unrhyw beth a fyddai'n llesteirio'r broses o gyflwyno brechlynnau sydd, fel y cyfeiriodd eich datganiad ato y prynhawn yma, yn gyntaf, wedi bod yn llwyddiannus iawn ac, yn ail, yn cynnig heulwen olau'r gwanwyn sydd ar gerdded yn ein gwlad ni. Diolch, Prif Weinidog.
Llywydd, rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn a ddywedodd wrth ymateb i'r datganiad ac am y cwestiynau a gododd ef. Fe glywodd yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ddoe ynghylch y perygl o drydedd don y feirws hwn yn y Deyrnas Unedig. Mae'n gwybod am yr amrywiolion newydd sy'n codi mewn gwahanol rannau o'r byd. Dyna pam mae'r cyngor a gefais i gan ein prif swyddog meddygol ni ac eraill yn dweud wrthyf i nad ydym wedi cefnu ar y feirws hwn eto, yn anffodus. Rwy'n credu, os bydd y cyfan yn mynd yn dda, yna erbyn diwedd eleni efallai y byddwn ni'n byw gyda'r cyfyngiadau syml—cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, gwisgo masgiau mewn mannau poblog—y pethau yr ydym ni wedi dod yn gyfarwydd iawn â nhw er mwyn cadw ein gilydd yn ddiogel. Ond ni allwn, yn fy marn i, ddweud wrth bobl gyda'r sicrwydd y byddem ni'n ei hoffi bod yr holl risgiau oherwydd coronafeirws wedi mynd heibio eisoes. Efallai y bydd yna sawl tro arall yng nghynffon y stori. Wrth gwrs, ein nod ni yw codi'r cyfyngiadau mor gyflym ag y mae hynny'n ddiogel, ond dyna'r oeddwn i'n ei olygu pan ddywedais i fy mod i'n credu y byddwn ni'n byw gyda'r feirws hwn am gryn dipyn o amser i ddod.
Diolch i Andrew R.T. Davies am yr hyn a ddywedodd am y cofebion byw. Rwyf i wedi gweld gohebiaeth o'r Canolbarth ac fe fyddwn i'n hapus iawn i ystyried hynny. Mae e'n gwybod am ein cynlluniau ni ar gyfer coedwig genedlaethol ac rwy'n gallu gweld ffyrdd y gallai coetir coffa fod yn rhan o'r cynllun ehangach hwn ar gyfer coedwigo a fyddai'n cysylltu'r gogledd, y de a'r canolbarth gyda'i gilydd.
Cafodd y cynllun ar gyfer adfer y GIG, a gyhoeddwyd ddoe, ei lofnodi ar y cyd gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Vaughan Gething. Dyna arwydd o ba mor benderfynol yr ydym ni fod anghenion iechyd meddwl ac anghenion llesiant y boblogaeth yr un mor arwyddocaol yn y gwaith y bydd y gwasanaeth iechyd yn ei wneud wrth inni gael adferiad o'r pandemig ag unrhyw agwedd arall ar y gwaith y mae'n ei wneud. Rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am dynnu sylw at bwysigrwydd sefydliadau yn y trydydd sector, oherwydd mae'r rhan honno o'r ddogfen a gyhoeddwyd ddoe yn tynnu sylw penodol at y ffordd y mae'r gwasanaethau adfer hynny ar gyfer pobl sy'n dioddef o unigrwydd a phryder y mae'r pandemig wedi effeithio ar eu llesiant meddyliol nhw—. Nid gwaith i'r gwasanaeth iechyd yn unig mohono. Gwaith yw hwn i'r gwasanaeth iechyd ei wneud mewn partneriaeth â'r mudiadau gwirfoddol hynny sydd â rhan mor bwysig yn iechyd meddwl a llesiant Cymru.
Ac yn olaf, gan droi at fater cyflenwad brechlynnau, wel, rwy'n adleisio'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ddoe, sef bod eisiau i'n cyfeillion ni yn Ewrop ddod i gytundeb â ni ynglŷn â'r mater hwn. Rydym ni i gyd yn wynebu her y coronafeirws. Nid oes ganddo barch tuag at unrhyw ffiniau cenedlaethol. Rydym ni i gyd felly, yn wynebu'r her o frechu gyda'n gilydd, ac mae angen cytundeb rhyngom ni i gyd o ran y ffordd orau o sicrhau hynny er budd pawb. Fe fydd y Prif Weinidog yn cynnal trafodaethau pellach gydag arweinwyr yn Ewrop heddiw ac yfory. Fe fyddaf innau'n cael cyfarfod yn ddiweddarach heddiw gyda Michael Gove, sy'n bennaeth Swyddfa'r Cabinet; Prif Weinidog yr Alban; a Phrif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, lle y byddwn yn trafod y mater hwn eto. Dyna yw fy nghenadwri i gyfeillion a chydweithwyr mewn mannau eraill. Fe fyddwn ni'n datrys y mater hwn drwy drafod a chytuno. Dyna'r ffordd o sicrhau y byddwn ni'n dal ati i weithio er lles pob un ohonom ni.
A gaf i gymryd y cyfle yma i estyn cydymdeimladau dwys, yn y lle cyntaf, i bawb sydd wedi colli anwyliaid yn ystod creulondeb enbyd y 12 mis diwethaf a'r rhai sydd yn dal i ddioddef heddiw? Mae ein meddyliau ni i gyd gyda nhw i gyd. Fel y dywedoch chi yn eich datganiad, Brif Weinidog, fe fydd yn gryn amser nes i effaith y pandemig gael ei ddirnad yn llwyr gennym ni, ac rwy'n ofni y bydd y creithiau ar ein cymdeithas ni am yn hir iawn i'r dyfodol.
Ym mhob anobaith, mae yna obaith, a hyd yn oed yn yr oriau tywyllaf mae goleuni, ac mae ein gweithwyr allweddol wedi bod yn ffynhonnell goleuni ac wedi cynnal ni i gyd drwy'r dyddiau du hyn. Fe hoffwn i ddiolch hefyd o waelod calon iddyn nhw i gyd, i'r holl weithwyr yn y gwasanaeth iechyd; ein gweithwyr gofal; ein gofalwyr di-dal; ein hathrawon sydd wedi cynnal addysg hyd yn oed o bell; yr heddlu, sydd wedi rhoi eu hunain mewn perygl i sicrhau bod y rheoliadau yn cael eu cynnal er lles pawb ohonom ni; ein gweithwyr trafnidiaeth; y gweithwyr yn y siopau a'r archfarchnadoedd; ein cynhyrchwyr bwyd, sydd wedi diogelu ein cadwyni cyflenwi bwyd; ac i'r ymgymerwyr angladdau, sydd yn gwneud gwaith anodd ar y gorau, ond sydd wedi gorfod gwneud hynny o dan amodau gymaint yn anoddach. Diolch hefyd i bawb yng Nghymru sydd wedi chwarae rhan i gadw pawb yn ddiogel, drwy wneud yr holl aberth wrth ddilyn y rheoliadau a'r canllawiau di-gynsail sydd wedi eu gosod ar bob agwedd o fywyd. A gaf i ddiolch yn arbennig i'n pobl ifanc sydd wedi gorfod aberthu mwy na neb?
Mae yna wersi, fel y dywedodd Sir Mansel Aylward yn ddiweddar, o'r 12 mis diwethaf. Rŷm ni'n credu bod angen ymchwiliad Cymreig annibynol gan fod yna wersi sydd yn unigryw i Gymru y mae angen eu dysgu a fydd ddim yn cael ffocws, efallai, mewn ymchwiliad ymbarél Brydeinig. Ond sut ŷm ni'n gallu dysgu ac adnabod gwersi hyd yn oed nawr? Rwy'n cyfeirio at adroddiad Conffederasiwn GIG Cymru a phartneriaid eraill a oedd yn edrych ar yr arloesi sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod, wynebu'r heriau ofnadwy sydd wedi bod o'n blaenau ni yn ystod y 12 mis diwethaf, ond drwy hynny, canfod cryfder: Cymru ar ei gorau yn dod at ei gilydd i weithio ar draws sectorau; llywodraeth leol yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd ar lawr gwlad o ran y system profi ac olrhain a'r cynllun brechu; y defnydd o dechnoleg newydd a digidoli'n gweithio ar raddfa fyddai neb wedi medru dychmygu; y gallu i roi o'r neilltu biwrocratiaeth ac ymrymuso gweithwyr yn y gwasanaethau i wneud penderfyniadau'n gyflym. Sut allwn ni harneisio'r profiad yma, Brif Weinidog, yn y cyfnod newydd sydd o'n blaenau ni, sydd, wrth gwrs, yn cynnig heriau o hyd? A oes yna wersi mwy cyffredinol hefyd yn y ffaith yma ein bod ni wedi elwa o dorri ein cwys ein hunain fel gwlad yn ystod y 12 mis diwethaf?
Yn olaf, fel y mae adroddiad yr Academi Brydeinig a gyhoeddwyd heddiw wedi adleisio, mae'r pandemig wedi amlygu a gwaethygu, a dweud y gwir, yr anghyfartaledd oedd yno eisoes yn ein cymdeithas ni. Mae hynny'n wir o ran incwm a chyfoeth, o ran daearyddiaeth ac o ran rywedd a hil. Ydy'r pandemig yn foment i ni benderfynu mynd i'r afael o ddifrif â'r problemau hirdymor a dybryd sydd wedi bod yn gysgod ar ein cymdeithas a'n cenedl yn rhy hir? Onid dyma'r ymrwymiad mwyaf y gallwn ei wneud er cof am aberthau a cholledion lu'r flwyddyn anodd hon?
Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price am y sylwadau cyffredinol yr oedd e'n eu rhoi i ni ar ddechrau ei gyfraniad ef y prynhawn yma. Dwi'n rhannu beth ddywedodd e a rŷn ni'n becso am yr effaith hirdymor ar bobl yma yng Nghymru. Does neb yn gwybod, wrth gwrs, ac mae pobl yn gallu dod at ei gilydd, fel rŷn ni wedi'i weld yn ystod y pandemig, a thynnu cryfder o hynny. Ond, o ran effaith y coronafeirws ar ein cymunedau ac ar fywydau unigolion sydd wedi colli pobl a phobl sydd wedi dioddef o'r coronafeirws, dyw hwnna ddim yn mynd i ddiflannu'n gyflym, dwi'n siŵr. Dwi'n cytuno hefyd â beth ddywedodd Adam Price am obaith: gobaith yw'r peth sy'n ein cadw ni i gyd i fynd, gobaith am y dyfodol.
Diolch i arweinydd Plaid Cymru hefyd am beth ddywedodd e am ar heddlu, pobl sydd wedi gweithio mor galed i helpu i gadw ni'n saff mewn amgylchiadau anodd dros ben, ac am yr effaith ar bobl ifanc hefyd. Dyna pam ein blaenoriaeth gyntaf ni fel Llywodraeth oedd i dynnu pobl ifanc yn ôl i addysg, i ysgolion a cholegau i dreial rhoi rhai pethau nôl iddyn nhw o fywyd normal, y gallu i gwrdd â phobl ifanc eraill ac yn y blaen. Dyna pam rŷn ni wedi dweud fel Llywodraeth os bydd y cyfle gyda ni ar ôl mis Mai, rŷn ni eisiau buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn gwasanaethau i helpu pobl ifanc i gario ymlaen i ddysgu y pethau maen nhw wedi colli mas arnyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ac mae gwersi'n bwysig, wrth gwrs, fel y dywedodd Mr Price. Dwi ddim eisiau aros i dynnu gwersi tan fydd ymchwil annibynnol gyda ni. Mae'n bwysig, fel yr oedd Adam Price yn ei ddweud, i ddysgu gwersi nawr am y cryfder y mae pobl wedi dangos, am y pethau rŷn ni wedi'u gwneud mor gyflym yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ces i'r fraint o fod yn Weinidog dros iechyd yma yn y Senedd a dwi'n cofio pa mor anodd oedd e i berswadio pobl i wneud pethau mewn ffordd ddigidol, ond nawr, wrth gwrs, rŷn ni'n ei wneud e fel yna bob dydd. Mae'n bwysig i beidio â cholli'r gwersi yna, i harnesi'r pethau rŷn ni wedi eu dysgu mewn ffordd bositif. Mae lot o bethau anodd dros ben wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae rhai pethau positif, ac mae'n bwysig i ddysgu'r gwersi ac nid aros am ymchwil annibynnol yn y dyfodol i wneud hynny.
A dwi'n cytuno hefyd â beth ddywedodd Adam Price, ac a ddywedais i yn y datganiad gwreiddiol, fod yr anghyfartaledd a oedd yno o'r blaen, y mae coronafeirws wedi ei dynnu at wyneb ein cymdeithas ni. A bydd y dyfodol ddim yn well oni bai bod y dyfodol yn decach. A dyna'r ysbryd dwi eisiau ei ddefnyddio i helpu Cymru, os gallaf, i ddod mas o'r pandemig mewn ffordd sydd yn well, wrth gwrs, i ni i gyd, ond sy'n decach, i ni ddysgu'r gwersi rydym ni i gyd wedi eu gweld ym mywydau pobl sy'n byw gydag anfantais yn ein cymunedau ni.
John Griffiths.
Nid oeddwn i wedi rhoi fy enw i gerbron ar gyfer yr eitem hon, mewn gwirionedd, Llywydd.
O. Dyna ni. Popeth yn iawn. Rhianon Passmore.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydym ni'n nodi blwyddyn heddiw ers dechrau'r cyfyngiadau symud cenedlaethol. Ac eto i gyd, ar 8 Mawrth 2020, Scott Howell o'r Coed Duon yn Islwyn, a oedd yn 48 oed ar y pryd, oedd yr unigolyn cyntaf o Went i fynd i ofal dwys oherwydd cymhlethdodau a achoswyd gan COVID-19. Mae Scott Howell yn un o gymeriadau nodweddiadol cymunedau Islwyn ac mae'n diolch i wasanaeth iechyd gwladol Cymru am achub ei fywyd. Ond mae'n briodol iawn ein bod ni'n myfyrio ac yn cofio am bawb hefyd, yn anffodus iawn, sydd wedi trengi oherwydd y feirws creulon hwn.
Prif Weinidog, ar ran holl bobl Islwyn, a gaf i fynegi ar goedd unwaith eto, fel cynrychiolydd iddyn nhw, fy niolch i'r holl fenywod a'r dynion hynny sy'n gwasanaethu yn ein GIG ni a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac sydd wedi ymladd y frwydr hon, yn aml iawn, ochr yn ochr â'n hanwyliaid ni ein hunain? Mae pobl Islwyn yn bobl gref ac rydym wedi goddef y pandemig hwn ac fe allwn ni i gyd weld y goleuni ym mhen draw'r twnnel nawr. Llywydd, gyda phob preswylydd yn Islwyn i gael cynnig o frechlyn erbyn 31 Gorffennaf, fe wyddom ni yng Nghymru fod gwasanaeth iechyd gwladol Cymru parhau i gadw at egwyddorion Llafur Aneurin Bevan, ac mae gweledigaeth ein Llywodraeth Lafur ni wedi sicrhau mai Cymru yw un o'r gwledydd mwyaf llwyddiannus wrth frechu ei phobl. Prif Weinidog, beth mae'r pandemig wedi ei ddysgu inni am werth ein gweledigaeth Lafur fyw ni o ofal iechyd rhad ac am ddim i bawb, i Islwyn ac i Gymru, yn yr unfed ganrif ar hugain?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Rhianon Passmore a diolch iddi am dynnu sylw at brofiad Scott Howell? Mae'n bwysig iawn y prynhawn yma, yn fy marn i, ein bod ni'n cofio, wrth gwrs, am y bobl sydd wedi marw yn ogystal â dioddefaint a galar teuluoedd, ond y nifer fawr o bobl hynny hefyd na wnaethant golli eu bywydau, ond mae profiad y coronafeirws wedi effeithio ar eu bywydau nhw'n enfawr hefyd. Mae hwn yn hen salwch creulon. Ac mae'r bobl hynny sydd wedi gorfod bod mewn gofal dwys, yn ymladd am eu bywydau, wedi bod yn rhan fawr o'r coffâd heddiw. Yn y dyddiau hynny ar ddechrau'r pandemig pan oeddem yn poeni am redeg allan o welyau, rhedeg allan o beiriannau anadlu, na fyddai gofal dwys ar gael i bobl yr oedd ei angen arnynt, mae'r diolch nid yn unig am yr ymrwymiad a'r gwaith caled ond i ddyfeisgarwch llwyr y cwmnïau a'r clinigwyr ledled Cymru am greu'r amodau fel na fu'n rhaid inni wynebu'r posibiliadau mwyaf dyrys hynny.
Fe fyddech chi'n disgwyl imi ddweud, Llywydd, mai'r wers a ddysgais i o'r profiad hwn yw ymwybyddiaeth o allu sosialaeth ymarferol. Pan welaf i bobl yn mynd i gael eu brechu, rwy'n dweud wrthyf i fy hun, 'Yn y fan hon, rydych chi'n gweld gwasanaeth nad yw'n dibynnu o gwbl ar bwy ydych chi nac ar ble rydych chi'n byw nac ar bwy rydych chi'n ei adnabod neu ar a allwch chi dalu; yr unig beth y mae'n dibynnu arno yw'r ffaith mai eich angen chi sy'n dod gyntaf.' Ac rydym wedi rhoi brechiad i'r bobl hynny yn y drefn yr ystyrir eu bod fwyaf agored i niwed clinigol—pob un yn ôl ei angen, pob un yn ôl ei allu. Gallu'r rheini sy'n gweinyddu'r brechiadau yw ffynhonnell y gobaith hwnnw ym mywydau'r unigolion hyn. Rwy'n gweld yr ymdeimlad hwnnw o wasanaeth cyhoeddus ym mhopeth a wnânt. Rwy'n gweld, yn ymateb y cyhoedd yng Nghymru i hyn, yr ymdeimlad grymus o beth yw tegwch—os oes ar rywun ei angen yn fwy na chi, rydych yn barod i aros eich tro. Dyna'r hyn a welaf i yn y ciwiau o bobl sy'n aros am eu brechiad. Credaf fod hyn yn codi ein hysbryd, oherwydd mae'n dweud rhywbeth sylfaenol bwysig wrthym am ein hunaniaeth a'n cymeriad cenedlaethol ni.
Heddiw, rydym ni'n cofio am bob un a fu farw oherwydd COVID a'u teuluoedd nhw. Hefyd, fe ddylem feddwl yn fy marn i, am y rhai sy'n dioddef COVID hir, y rhai sydd wedi gweld gohirio eu triniaethau iechyd eraill, ac am yr effaith ar iechyd meddwl cymaint o bobl, a'r rhai sydd wedi dioddef waethaf yn economaidd.
Prif Weinidog, rwy'n awyddus i ddweud fy mod i'n dymuno gwneud dau sylw, cyn dweud unrhyw beth o safbwynt Plaid Diddymu Cynulliad Cymru. Mae un ohonyn nhw amdanoch chi'n bersonol. Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith a'r ymdrech enfawr a wnaethoch chi yn ystod yr argyfwng hwn, a sut mae hynny o reidrwydd wedi eich newid chi fel arweinydd. Fe fu'n rhaid i chi ymdrin â'n cwestiynau ni o safbwyntiau gwahanol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn gyffredinol rydych chi wedi gwneud hynny'n gydwybodol iawn ac mewn ysbryd da, felly fe hoffwn i ddiolch i chi am hynny.
Fe hoffwn i ddweud hefyd, beth bynnag fo ein safbwyntiau ni o ran yr hyn y dylai'r Llywodraeth ei wneud neu beidio, neu sut mae hynny'n wahanol i'r hyn y mae Llywodraeth yn ei wneud rywle arall, boed hynny o fewn y Deyrnas Unedig neu'n bellach i ffwrdd, fe'm trawyd i gan gyffredinolrwydd y profiad. Hyd yn oed mewn gwledydd yr oedd yn ymddangos eu bod yn gwneud yn dda neu'n wael, ymddengys ein bod yn dychwelyd at y man canol. Weithiau, nid yw polisïau yn cael yr effaith a ddisgwylir, ac yn gyffredinol, efallai ein bod ni'r gwleidyddion yn llai galluog i bennu'r canlyniadau ag y byddem ni'n ei ddisgwyl.
Tybed, serch hynny, Prif Weinidog, a gaf i eich holi chi ynglŷn ag un penderfyniad a wnaed cyn—[Anghlywadwy.]
Rwy'n credu ein bod o bosibl wedi colli Mark Reckless. Dof yn ôl at Mark Reckless yn nes ymlaen os gall ailymuno â ni. Laura Anne Jones, allwch chi ofyn eich cwestiwn chi nawr?
Diolch. Prif Weinidog, flwyddyn yn ddiweddarach, a gaf fanteisio ar y cyfle hwn yn gyntaf, ar y diwrnod hwn o fyfyrdod, i gofio am bawb sydd, yn drychinebus, wedi colli eu bywyd i COVID, a manteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i bawb ar y rheng flaen sydd wedi mynd yr ail filltir, ac wedi gweld golygfeydd na fyddai'r un ohonom wedi dymuno eu gweld, na gobeithio bod yn dystion iddynt? Maen nhw wedi rhoi cymaint o ymdrech anhygoel i achub bywydau ledled Cymru. Cydnabyddir ei fod yn gyflawniad gwych ein bod ni, ynghyd â'r gwirfoddolwyr a'r fyddin, wedi brechu hanner poblogaeth oedolion Cymru erbyn hyn. Felly, diolch i'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth am hynny, a'u swyddogaeth ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i gyflawni hynny. Hefyd, gadewch imi ddiolch i'r athrawon a phawb sydd wedi ein galluogi ni i fod yn ddiogel a dal ati.
Mae'r feirws wedi bod yn anhygoel o greulon a chas, ac wedi cymryd llawer ohonom yn llawer rhy fuan. Mae ein meddyliau ni gyda nhw a'u teuluoedd heddiw a phob amser. Yn bersonol, nid oeddwn i'n credu'r adeg hon y llynedd, ar ddechrau'r cyfnod clo, y byddai'r pandemig hwn yn para mwy nag ychydig wythnosau, ac eto i gyd, dyma ni, flwyddyn yn ddiweddarach. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu o'n camgymeriadau. Mae'n bwysig ein bod ni'n myfyrio. Mae'n bwysig ein bod ni'n galaru. Ond mae'n rhaid inni ddysgu o'r camgymeriadau a wnaed yn ystod y pandemig o ran sut rydym wedi llywodraethu, a sut rydym wedi ceisio rheoli'r feirws, a'r effeithiau a gafodd hynny ar fywoliaeth pobl, a chydnabod yr effaith a gafodd hefyd nid yn unig ar fywoliaeth, ar fusnesau, ar addysg, ond ar iechyd meddwl a chorfforol hefyd, yr hen a'r ifanc fel ei gilydd.
Yng ngham cynnar y pandemig hwn, fe fu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ac nid oeddent yn mynd i fod yn benderfyniadau y byddem ni i gyd yn cytuno arnyn nhw nac yn eu hystyried nhw'n berffaith ar unrhyw adeg. Roeddem ar dir hollol newydd. Rydym ni i gyd yn cydnabod hynny, a phan fydd y rhai sydd ag awdurdod yn cyfaddef bod camgymeriadau wedi eu gwneud, bryd hynny'n unig y gallwn ni ddysgu o'r camgymeriadau hynny. Fe gafwyd llawer o benderfyniadau mawr yn y DU, a chan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n gobeithio ein bod wedi rhoi clod lle mae'n ddyledus. Ond mae'n wir dweud hefyd na chafodd y cydbwysedd cywir ei daro bob amser. Mae ein heconomi ni wedi colli allan yn aml, gan arwain at y rhan adferol bwysig iawn o'r pandemig hwn, a fydd yn cael ei wynebu ar ôl yr etholiad sydd i ddod, i sicrhau ein bod ni'n gadael pethau yn y cyflwr iawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. A hefyd, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n ceisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau enfawr hynny a ddaeth i'r amlwg yn y pandemig hwn, a chymryd y cyfle gwirioneddol hwn i unioni'r camweddau hynny.
Mae ein plant ni wedi dioddef yn dawel. Maen nhw wedi ildio blwyddyn o'u plentyndod, sydd wedi effeithio ar eu datblygiad a'u haddysg, ac maen nhw wedi rhoi'r gorau i wneud ymarfer corff, er lles y rhai sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas ni. Rydym mewn dyled enfawr iddynt. Ond mae'n rhaid inni ofyn cwestiynau. O edrych ar ffigurau cyfradd lledaeniad yr haint mewn mannau awyr agored, er enghraifft, a oedd yn gwbl angenrheidiol cau gweithgareddau awyr agored a drefnwyd am gyhyd, gan fod llawer ohonynt yn cael eu hystyried yn ddiogel rhag perygl COVID, ac fe wariwyd cannoedd arnynt i sicrhau eu bod yn ddiogel? A oedd yn gwbl angenrheidiol peidio â gadael i'n plant ni i gyd fynd yn ôl i'r ysgol, neu i leoliadau addysgol nes iddyn nhw wneud hynny? Nid yw rhai, wrth gwrs, yn ôl yn yr ysgol hyd heddiw. Mae'r effaith ar ein plant ni—
Fe fydd angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben a gofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog nawr, os gwelwch chi'n dda.
Mae'r effaith, wrth gwrs, wedi bod yn aruthrol. Prif Weinidog, yn y Senedd nesaf, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd pwy bynnag sydd mewn Llywodraeth, a phob Aelod o'r Senedd, yn chwarae eu rhan nhw, ac yn gwbl onest o ran eu gwaith arfarnu a chraffu ar Lywodraeth nesaf Cymru, a'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ei hymdriniaeth o'r argyfwng. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n dysgu o hynny ac yn gallu bod yn fwy holistaidd a sicrhau ein bod ni'n cael ymateb mwy effeithiol yn y dyfodol. A ydych chi'n rhannu fy marn i, sef ei bod, erbyn hyn, yn bryd inni fyfyrio yn wirioneddol ar yr hyn a wnaeth y Llywodraeth hon, a bod yn onest gyda ni ein hunain? Llawer o ddiolch.
Rwyf i am ofyn i'r Prif Weinidog ymateb, ac yna fe af i'n ôl at Mark Reckless, iddo ef gael cwblhau ei gwestiwn hefyd.
Diolch, Llywydd. Diolch i Laura Anne Jones am yr hyn a ddywedodd hi wrth agor ei sylwadau; mae hwn yn wir yn ddiwrnod ar gyfer myfyrio, ac fe ddylem ni wneud yr union beth hwnnw. Nid wyf i'n credu fy mod i erioed wedi honni bod y penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn berffaith. Weithiau, rwy'n teimlo fy mod i wedi treulio 12 mis yn cerdded ar hyd rhaff dynn gyda dibyn enfawr oddi tani—gan gadw balans bob amser, gan geisio dod o hyd i'r cydbwysedd cywir o ran disgyrchiant rhwng llawer o ddrygau cystadleuol a chymaint o anghenion cystadleuol. Ac wrth gwrs, fe allai pobl resymol anghytuno ynghylch a yw'r cydbwysedd hwnnw wedi cael ei daro'n briodol, neu yn y ffordd orau un.
Rwy'n credu mai un o gryfderau democratiaeth Cymru yw'r ffaith bod y Senedd wedi eistedd drwy gydol y pandemig. Nid ydym wedi gweld cyfnodau maith o Aelodau'r Senedd yn methu gallu gofyn cwestiynau treiddiol i'r Llywodraeth, i roi safbwyntiau gwahanol. Fe wnaethom ni gyfarfod drwy'r haf, mewn ffyrdd anarferol. A phan fyddwch chi yn y sefyllfa o fod yn ceisio gwneud penderfyniadau, a chyda'r holl ofynion a ddaw yn sgil hynny, nid bod yn atebol am yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yw'r rhan fwyaf cyfforddus o'r swydd bob amser. Serch hynny, rwy'n credu iddi fod yn rhan gwbl angenrheidiol. Mae'r Senedd wedi arddangos cryfder datganoli yng Nghymru yn y ffordd y mae'r cwestiynau hynny wedi cael eu gosod ac yn y ffordd y ceisiwyd rhoi atebion iddyn nhw. Rwy'n gobeithio y bydd yr ymdeimlad hwnnw o graffu y mae Laura Anne Jones yn cyfeirio ato'n parhau i'r tymor nesaf, oherwydd fe fydd yna lawer o benderfyniadau anodd a chydbwyso agos eto y byddwn ni'n awyddus i'w trafod a'u gwneud yn well o ganlyniad i'r sgyrsiau a'r heriau a gawn ni yn y fan hon.
Mark Reckless, gyda gobaith, i orffen eich cwestiynau chi i'r Prif Weinidog.
Diolch, Llywydd, rwy'n gwerthfawrogi hynna. Ar ôl fy sylwadau cadarnhaol i yn fy nghyfraniad cychwynnol i'r Prif Weinidog, roeddwn i am ofyn iddo a oedd yn edifarhau am y penderfyniad ar ddiwedd y cyfnod atal byr i ganolbwyntio ar orfodi ffin â Lloegr, wrth adfer y rhyddid llwyr i symud, fwy neu lai, o fewn Cymru, o'i gymharu â'r cyfyngiadau teithio llym a oedd gennym ni cyn hynny. Fe ofynnais iddo ar y pryd pam oedd yna ganiatâd i etholwyr o Ferthyr Tudful deithio i Drefynwy, o ardal haint uchel iawn i un haint isel, ac eto roedd y ffin hon yn cael ei gorfodi rhwng Trefynwy a'r Rhosan ar Wy. A oedd hynny'n gwneud unrhyw synnwyr? Fe welsom ni rai o'r cyfraddau heintio uchaf yn y byd ychydig wythnosau wedi hynny.
Rwy'n holi, wrth inni ddod allan o gyfnod y cyfyngiadau, a fydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i groesawu twristiaeth ddomestig yn ôl i Gymru, ac rwy'n golygu o rywle arall yn y DU, ac egluro beth fydd y sefyllfa ar ôl 12 Ebrill? Rwy'n credu, yn gynharach, iddo wneud rhai sylwadau synhwyrol mewn ymateb i Andrew R.T. Davies ynghylch twristiaeth ryngwladol, ond yr ochr arall i hynny yw os nad yw pobl yn mynd i allu teithio dramor, a fyddwn ni'n gweithio i'w croesawu nhw i Gymru mewn ffordd synhwyrol sy'n cydymffurfio â COVID.
Yn olaf, a gaf i ofyn iddo fyfyrio, efallai, ar yr hyn yr adroddir i Brif Weinidog y DU ei ddweud ddoe—ei fod ef yn gresynu ei fod wedi caniatáu i'r gweinyddiaethau datganoledig, yn ei eiriau ef, fynd eu ffordd eu hunain wrth ymateb i COVID? Fe ellid bod wedi gwneud hynny mewn ffordd wahanol drwy'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, yn hytrach na thrwy Ddeddf Coronafeirws 2020 ar wahân a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Pa wahaniaeth fyddai hynny wedi ei wneud pe byddai hynny wedi digwydd?
Onid yw COVID wedi ein rhoi ni ar lwybr gwahanol o ran datganoli? Mae llawer o bobl nad oedden nhw'n ymwybodol o ddatganoli o'r blaen neu heb ymgysylltu'n llawn â datganoli wedi gweld y pwerau hynod eithafol y gall y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru eu defnyddio i reoli eu bywydau er gwell neu er gwaeth. Ac mae llawer o bobl sy'n teimlo'n llawn mor Brydeinig â Chymreig, neu'n Saesnig hyd yn oed mewn rhai achosion, nad ydyn nhw'n hoffi'r ffaith bod gan y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru y pwerau enfawr hynny drostyn nhw. Ar yr adegau pan mae ef wedi gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol iawn i Lywodraeth y DU yn Lloegr, oni wnaeth hynny leihau cydymffurfiaeth, efallai, a'i gwneud hi'n anos i bobl ddod at ei gilydd? A oes ganddo unrhyw beth i'w ddweud ynglŷn â hynny?
Diolch i chi am y sylwadau cadarnhaol iawn, Mr Reckless, ar ddechrau eich cyfraniad ac am dynnu sylw, a hynny'n gwbl briodol, at bedwar drwg coronafeirws. Fe ddylem ni i gyd fod yn myfyrio arnyn nhw heddiw. Roeddwn i'n credu ei fod wedi gwneud rhai pwyntiau diddorol iawn ynglŷn â'r ffordd y mae gwahanol wledydd ledled y byd, ar wahanol adegau, wedi gweld cyfnodau llwyddiannus o ran rheoli'r feirws, ac eto fe ddaeth y feirws yn ei ôl mewn ffyrdd sy'n llwyddo i danseilio'r gwahanol amddiffynfeydd a adeiladodd gwahanol lywodraethau. Mae hwnnw wedi bod yn brofiad cyffredin, ac mae'n debyg y byddai'n dda o beth ystyried y cyfyngiadau a brofodd unrhyw un—unrhyw un—lywodraeth o ran gallu dod o hyd i gyfres lawn o fesurau llwyddiannus.
O ran y pwyntiau y daethom ni'n ôl atyn nhw pan glywsom ni gan Mr Reckless wedyn, wrth edrych nôl dros y cyfnod atal byr, yr hyn sy'n fy nharo i fwyaf yw ein bod ni wedi ailagor y gymdeithas yma yng Nghymru ar adeg pan nad oeddem yn ymwybodol o'r ffaith bod amrywiolyn Caint yn ymledu trwy'r wlad. Fe wnaeth natur drosglwyddadwy ychwanegol yr amrywiolyn hwnnw wahaniaeth i'r gyfradd y digwyddodd llif coronafeirws ynddi yn ystod y cyfnod yn dilyn y cyfnod atal byr. Y cyfnod atal byr ei hun, yn ôl The Lancet, oedd y mwyaf llwyddiannus yng Nghymru o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, oherwydd fe wnaethom ni ddechrau arno'n gynharach nag unman arall ac roeddem ni'n fwy trylwyr nag unman arall. Ond roeddem ni'n wynebu cyfres o amgylchiadau, wrth ddod allan ohono, nad oeddem wedi eu rhagweld nac yn gwybod amdanynt chwaith.
Nid yw obsesiwn yr Aelod ynglŷn â'r ffin yn un yr wyf fi'n ei rannu o gwbl. Rwyf wedi ceisio gwneud y pwynt hwn ar hyd y daith. I mi, nid mater sy'n ymwneud â'r ffin yw hwn byth; ond mater o geisio sicrhau ein bod ni'n diogelu ardaloedd lle mae yna lai o achosion rhag ardaloedd lle mae yna fwy o achosion, ble bynnag y bônt, a dyna sut y byddaf i'n parhau i ymdrin â hyn. Nid yw hwn erioed wedi bod yn fater o Gymru a Lloegr, yn fy marn i; ond yn fater o geisio sicrhau nad ydym ni'n mewnforio'r feirws unwaith eto i rannau o Gymru sydd wedi gweithio mor galed ac wedi aberthu cymaint i reoli'r niferoedd hynny.
Rwy'n awyddus iawn i groesawu ymwelwyr o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ôl i Gymru pan fydd hi'n ddiogel inni wneud hynny. Ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr na Llywodraeth yr Alban ar gyfer yr Alban, na Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ychwaith, yn ystyried ei bod yn ddiogel i'w dinasyddion nhw deithio. Nawr, pan fydd y pethau hynny'n gwella, yna rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pobl yn ôl i Gymru, oherwydd dyna pryd y bydd yn ddiogel inni wneud hynny. Ac, fel gŵyr yr Aelod, mae'n rhaid inni ystyried teimladau'r rhannau hynny o Gymru nad ydyn nhw wedi gweld ymwelwyr ers amser maith, lle mae niferoedd y boblogaeth frodorol yn gymharol isel ond yn chwyddo llawer iawn yn ystod y tymor ymwelwyr. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am hynny i gyd hefyd.
Rwy'n ofni bod yr Aelod wedi datgelu ei feddylfryd ef ei hunan, yn sicr, ac, os oedd yn dyfynnu Prif Weinidog y DU yn gywir, meddylfryd y Prif Weinidog hefyd. Nid lle'r Prif Weinidog yw caniatáu i'r Senedd a etholir yn uniongyrchol yma yng Nghymru neu'r Senedd yn yr Alban arfer y pwerau a ddatganolwyd inni. Meddylfryd fel hyn sy'n credu mai rhyw fath o is-gorff ydym ni, rywsut, lle mae Prif Weinidog y DU yn rhoi ei ganiatâd ef i ni wneud rhai pethau neu beidio. Rwy'n siŵr y gallai dulliau eraill o weithredu fod wedi digwydd yn ystod argyfwng coronafeirws, ac fe allai'r pwerau enfawr a gafodd eu hymarfer fod wedi cael eu hymarfer gan rywun yma yng Nghymru. Rwyf i o'r farn ei bod wedi bod yn well i'r penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl Cymru fod wedi cael eu gwneud gan bobl yng Nghymru a etholwyd gan bobl Cymru i wneud y penderfyniadau hynny ar eu rhan nhw. Rydym ni'n ddigon aeddfed i wneud hynny, ac nid oes angen i neb arall ddweud wrthym beth allwn ni a beth na allwn ni ei wneud.
Diolch i'r Prif Weinidog.