Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 23 Mawrth 2021.
Mae manylion a maint y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn feiddgar, i adlewyrchu ein gweledigaeth uchelgeisiol a radical ar gyfer Cymru—gweledigaeth o Gymru sy'n wrth-hiliol. Nid anhiliol, nid mwy cyfartal—Cymru lle nad oes dim goddefgarwch tuag at hiliaeth o unrhyw fath. Mae cymryd y safiad hwn yn hanfodol bwysig i'n rhanddeiliaid a'n cymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig gan ei fod yn darparu ar gyfer dealltwriaeth weithredol ac ymwybodol bod ein cymdeithas wedi'i strwythuro mewn ffordd sy'n eithrio lleiafrifoedd ethnig. Mae safiad gwrth-hiliol yn herio'r status quo ac yn ailadeiladu systemau er budd pob un ohonom. Mae gwrth-hiliaeth yn symud baich hiliaeth o'r dioddefwyr i bawb mewn cymdeithas. Bydd llawer o bobl yng Nghymru nad ydyn nhw yn ystyried eu hunain yn hiliol, ond mae gwrth-hiliaeth yn gofyn i bob un ohonom ni wneud ymdrech ymwybodol a gweithredol i amlygu hiliaeth lle bynnag y gwelwn ni hynny. Nid yw sefyll ac aros yn dawel yn ddigon. Mae cymryd safiad gwrth-hiliol yn gosod y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar wahân i unrhyw ymyrraeth polisi arall o'r math hwn, naill ai yng Nghymru o'r blaen, neu ledled y DU.
Mae nodweddion nodedig eraill yn y cynllun hwn sy'n ei osod ar wahân i gynlluniau eraill o'r math hwn. Mae'r egwyddor o gyd-greu wedi bod yn hanfodol i ddatblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Mae cynnwys y cynllun wedi'i wreiddio ym mhrofiad byw pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae tua 2,000 o unigolion wedi rhannu eu barn ar yr hyn y dylai'r cynllun ei gynnwys ac ni fyddai'r cynllun wedi bod yn bosibl heb eu cyfraniadau nhw. Mae wedi bod yn anhygoel o bwerus ac mae eisoes yn gatalydd ar gyfer newid. Mae rhannu'r profiadau byw hyn wedi bod yn boenus i'r rhai sy'n gysylltiedig, ac rwy'n cydnabod y llafur emosiynol sy'n rhan annatod o waith o'r fath. Mae'r unigolion hyn wedi rhoi cymaint ohonyn nhw eu hunain wrth geisio cael cynllun sy'n creu newid pendant ac mae'n hanfodol ein bod ni nawr yn cydnabod y cyfraniadau hynny.
Rwy'n ddiolchgar i'r 17 o fentoriaid cymunedol o gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n gweithio ochr yn ochr â swyddogion Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac yn rhannu eu harbenigedd. Maen nhw wedi ychwanegu gwerth, wedi cyfoethogi ein dealltwriaeth ac wedi dangos pam y mae amrywiaeth ar draws gweithlu yn hanfodol er mwyn sicrhau datblygiad polisi effeithiol. Yn ogystal â'r rhai sydd â phrofiad bywyd o hiliaeth, mae'r cynllun yn ganlyniad cydweithio rhwng llawer o randdeiliaid, ac rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl gyfranogwyr am eu haelioni o ran arbenigedd, cyfraniad, arweiniad a chyngor a roddwyd i gefnogi'r cynllun. Diolch yn arbennig i'r Athro Emmanuel Ogbonna, sydd wedi rhoi arweinyddiaeth heriol, ystyriol a chefnogol ar gyfer y gwaith, ochr yn ochr â'i swyddogaeth yn cadeirio grŵp economaidd-gymdeithasol COVID-19.
Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi blaenoriaethu cydraddoldeb yn ei gwaith. Mae'r cynllun cydraddoldeb strategol a gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn enghreifftiau amlwg o'r camau yr ydym yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru. Bydd hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth yn orfodol o fewn y cwricwlwm newydd, a dydd Gwener diwethaf, fel tystiolaeth bellach o'n hymrwymiad i gydraddoldeb, ymrwymodd y Gweinidog Addysg i ymgorffori'r egwyddorion hyn yng Nghwricwlwm Cymru drwy dderbyn yr holl argymhellion a wnaed yn yr adroddiad terfynol gan y cymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, cyfraniadau a chynefin yn y gweithgor cwricwlwm newydd, o dan arweiniad yr Athro Charlotte Williams.
Mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn pwysleisio pwysigrwydd cau'r 'bwlch gweithredu'. Mae'n rhaid i'r cynllun, yng ngeiriau un o'n rhanddeiliaid, ein symud ni o 'rethreg i realiti'. Mae'n rhaid iddo gyflawni ein gweledigaeth wrth-hiliol a chreu newid mewn diwylliant. Mae'n rhaid i'r camau a gyflawnir fod yn ystyrlon gan arwain at ganlyniadau cyfartal pendant. Mae'n rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd yr ydym ni'n mesur ac yn monitro cynnydd a chyflawniad. Gydag amser, efallai y bydd hyn yn gofyn am sail ddeddfwriaethol, ond yn y tymor byr, byddwn yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni i gyflawni ein gwaith trawsnewidiol ochr yn ochr â rhanddeiliaid, fel cydberchnogion y cynllun, i sicrhau atebolrwydd.
Mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn uchelgeisiol, mae'n radical ac mae'n ganlyniad i fath unigryw o gyd-greu a chydberchnogaeth. Dirprwy Lywydd, bydd gweithredu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn llwyddiannus er lles holl ddinasyddion Cymru. Bydd marchnad gyflogaeth deg yn gwella cynhyrchiant cyffredinol a thwf economaidd a fydd er lles bob un ohonom. Bydd system addysg a hyfforddiant decach yn datblygu dyhead, cyfle a chanlyniadau gwell i bob un ohonom. Bydd cyfartalu cyfleoedd a chanlyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn gwella'r system i bob un ohonom. Yng ngeiriau'r Athro Emmanuel Ogbonna, 'y rheidrwydd ar gyfer gweithredu'r cynllun yw natur gydfuddiannol y canlyniadau; bydd pob un ohonom ni yn elwa ar gydraddoldeb hiliol'.
Rwy'n gwahodd holl Aelodau'r Senedd i ystyried y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ac i rannu yn ein gweledigaeth ar gyfer Cymru Wrth-hiliol, lle mae systemau sy'n parhau anghydraddoldeb yn cael eu datgymalu, lle mae amrywiaeth hiliol yn cael ei werthfawrogi, a lle rydym ni'n gweithio i sicrhau cyfle a chanlyniadau cyfartal i bawb. Diolch.