18. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:31, 24 Mawrth 2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma ar ymchwiliad y pwyllgor i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r fframwaith cyllidol. Mi liciwn i ddiolch, ar y cychwyn, i bob un, wrth gwrs, gyfrannodd at yr ymchwiliad yma, ac i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd hefyd am ei hymateb hi i'n hadroddiad ni. Fe wnaethon ni 12 argymhelliad, ac rŷn ni'n falch iawn bod y Gweinidog wedi derbyn 11 ohonyn nhw yn llawn, a'r un arall mewn egwyddor. Mi hoffwn i hefyd ddiolch i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Chomisiwn y Senedd am eu hymatebion nhw hefyd i'n hadroddiad ni.

Yn 2014, wrth gwrs, fe welon ni un o'r newidiadau mwyaf erioed yn setliad datganoli Cymru. Roedd Deddf Cymru 2014 yn darparu ar gyfer datganoli pwerau dros drethi, gan gynnwys cyfraddau treth incwm Cymru, y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Er mwyn galluogi'r pwerau yn Neddf 2014 i gael eu gweithredu, daeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gytundeb ar ffurf y fframwaith cyllidol. Mae'r fframwaith cyllidol hefyd yn trafod terfynau benthyg Llywodraeth Cymru a'i hopsiynau ar gyfer rheoli'r gyllideb, ac mae'n ymdrin â sgil-effeithiau o ran polisi a threfniadau gweithredu. Wrth i ddiwedd y Senedd hon agosáu, roedden ni yn teimlo ei bod hi'n bwysig, felly, i ni edrych ar y ffordd y cafodd y pwerau hyn eu cyflwyno, ac i edrych hefyd ar effeithiolrwydd y fframwaith cyllidol.

Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, fe wnaethon ni estyn sawl gwahoddiad i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i roi tystiolaeth. Rŷn ni'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Gwladol sydd wedi ymgysylltu â ni ar yr ymchwiliad yma ac ynglŷn â’r adferiad ariannol yn sgil COVID-19, ond mi roedd hi'n siomedig bod y Prif Ysgrifennydd wedi gwrthod ein gwahoddiadau ni. Mae Deddf Cymru 2014 yn hanfodol i'r setliad datganoli, ac mae rolau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annatod wrth gyflawni amcanion y Ddeddf. Er ein bod ni'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Gwladol am ei gyfraniad ef, dim ond cwestiynau ynghylch ei gyfrifoldebau fe yr oedd e'n gallu eu hateb, wrth gwrs. Felly, doedden ni ddim yn gallu deall safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar nifer o faterion cyllidol pwysig, gan gynnwys y broses o ddatganoli trethi a chreu trethi newydd, tryloywder yn y broses o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch penderfyniadau cyllido a sut y gellir herio penderfyniadau o'r fath, y posibilrwydd o adolygu fformiwla Barnett, a hefyd doedd yna ddim cyfle i ni drafod cynyddu pwerau benthyg.

Yn dilyn hynny, fe ysgrifennais i at y Prif Ysgrifennydd mewn perthynas â'r materion hyn, ac fe gawsom ni ymateb neithiwr, a dweud y gwir. Yn anffodus, mae llawer o'r materion hyn yn parhau i fod heb eu datrys, ac mae'r ffaith bod y Prif Ysgrifennydd wedi gwrthod dod i gyfarfod wedi tanseilio gwerth y broses o ddatganoli cyllidol. Dyw ei lythyr ef hefyd ddim yn mynd i'r afael, gyda llaw, â sut mae'r Senedd i fod i graffu ar drefniadau cyllidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru os nad yw'r Prif Ysgrifennydd yn fodlon bod yn bresennol i ateb cwestiynau Aelodau ar y mater yma.

Fe ddechreuon ni'r ymchwiliad hwn yn ystod dyddiau cynnar y pandemig COVID-19, ac mae'r dystiolaeth a gawson ni, ochr yn ochr â'r materion ymarferol a ddaeth i'r amlwg o ran y trefniadau cyllido yn ystod y pandemig, wedi dangos bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig adolygu'r prosesau cyllido ar fyrder. Mae’r ymateb cyllidol i’r pandemig wedi arwain at swm sylweddol o arian yn cael ei wario ar lefel y Deyrnas Unedig sydd, wrth gwrs, wedyn wedi codi nifer o faterion o ran y ffordd y mae’r fframwaith cyllidol a’r fformiwla Barnett yn gweithredu yng Nghymru.