Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 24 Mawrth 2021.
Mae’r pwyllgor yn cydnabod y lefel ddigynsail o ansicrwydd ynghylch cyllidebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i hadolygiad o wariant yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i ffactorau fel Brexit, etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, a’r pandemig COVID-19. Er ein bod ni'n deall yr anawsterau wrth ddarparu setliadau aml-flwyddyn o dan yr amgylchiadau presennol, rŷn ni’n pryderu bod Llywodraeth Cymru, yn ystod y tair blynedd diwethaf, wedi gorfod llunio cyllideb ddrafft ar sail dyraniad cyllidol o un flwyddyn yn unig, sydd wrth gwrs yn ei gwneud hi'n anodd i Lywodraeth Cymru wneud cynlluniau a phenderfyniadau cyllidol hirdymor. Mae hwn yn fater yr hoffem ni fod wedi ei drafod â’r Prif Ysgrifennydd. Fodd bynnag, rŷn ni yn falch bod y Gweinidog wedi cytuno â’n hargymhelliad ni i barhau i fynd i’r afael â’r angen am fwy o sicrwydd drwy ddyraniadau cyllid aml-flwyddyn ac eglurder ynghylch amseriad digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn 2019, fe argymhellodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y Deyrnas Unedig y dylai’r Trysorlys fynd i’r afael â’r diffyg tryloywder ynghylch penderfyniadau cyllido, ac fe dderbyniodd y Trysorlys yr argymhelliad hwnnw. Fodd bynnag, fe wnaethon ni ganfod bod y trefniadau ar gyfer cyllido Cymru yn gymhleth a bod diffyg tryloywder yn eu cylch. Fe glywon ni am ddiffyg ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y cyfnod cyn yr adolygiad o wariant hefyd. Mae’r diffyg tryloywder hwn yn gwneud gwaith craffu effeithiol yn anoddach, gan ei bod yn anodd cael dealltwriaeth glir o’r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.
Rŷn ni’n croesawu ymateb y Gweinidog a oedd yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru’n cefnogi’n frwd camau i wella tryloywder y penderfyniadau cyllido ac y byddai’r Llywodraeth yn mynd hyd yn oed yn bellach drwy awgrymu y dylai trefniadau cyllido a gytunwyd ar y cyd gymryd lle’r system bresennol, gan ddod â bargeinion a chytundebau dwyochrog i ben er mwyn dod â chysondeb ac eglurder i drefniadau cyllidol yn y Deyrnas Unedig.
Yn ogystal â’n pryderon ynghylch y ffordd y caiff penderfyniadau cyllido eu gwneud, rŷn ni hefyd yn pryderu bod y broses bresennol o herio penderfyniadau drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogol yn annigonol. Yn y bôn, Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r rheithgor a’r barnwr yn y broses hon. Rŷn ni’n credu y dylid cael proses ddyfarnu annibynnol.
Mae’r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch hyblygrwydd cyllidol Llywodraeth Cymru mewn adroddiadau blaenorol ar gylchoedd y gyllideb. Rŷn ni’n parhau i gefnogi galwadau am hyblygrwydd ar gyfer cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn fwy strategol yn ei chynlluniau hirdymor. Mae’r pandemig presennol wedi pwysleisio’r achos o blaid hyblygrwydd fel hyn hyd yn oed yn fwy. Doedd trefniadau cyllidol Cymru ddim wedi’u dylunio ar gyfer pandemig byd-eang, ac mae’n hanfodol ein bod ni'n ystyried sut y gellir gwneud newidiadau yn sydyn, pan fydd angen gwneud hynny, i sicrhau ymatebion priodol gan lywodraethau datganoledig. Ar ôl dweud hynny, rydyn ni’n falch bod y Prif Ysgrifennydd wedi cytuno i gais Llywodraeth Cymru i gario ychydig o’i chyllid ychwanegol ar gyfer COVID ymlaen at y flwyddyn ariannol nesaf.
Er bod ymwybyddiaeth o ddatganoli cyllidol yng Nghymru yn cynyddu, fe glywon ni fod ymwybyddiaeth o drethi datganoledig yn isel ymhlith busnesau a gweithwyr proffesiynol. Hefyd, fe ddangosodd ein hymarfer ymgysylltu digidol fod ymwybyddiaeth o’r pwerau cyllidol sydd wedi’u datganoli i Gymru yn isel ymhlith y cyhoedd. Ac roedd hynny'n destun pryder penodol, y ffaith nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o gyfraddau treth incwm Cymru, er wrth gwrs bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn eu talu nhw’n rheolaidd. Dwi'n ailadrodd y sylwadau, felly, dwi wedi eu gwneud o’r blaen yn y Siambr yma, sef bod angen i'r Llywodraeth a’r Senedd wneud mwy i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r materion yma.
Rŷn ni’n falch bod y Gweinidog yn cytuno ei bod hi’n bwysig parhau i godi ymwybyddiaeth o drethi Cymru a’i bod yn cefnogi’r rôl bwysig sydd gan y Senedd o ran addysgu, ymgysylltu a hysbysu’r cyhoedd yng Nghymru ynghylch datganoli cyllidol. Rwy’n falch o glywed hefyd gan Gomisiwn y Senedd fod codi ymwybyddiaeth yn rhan o strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu'r Comisiwn ac y bydd yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ar y mater hwn.
Roedd tystiolaeth a ddaeth i law yn awgrymu y dylid adolygu’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, ac mai nawr yw’r amser i Gymru roi ar waith trefniadau trethu mwy blaengar. Mae’r pwyllgor yn croesawu gwaith Llywodraeth bresennol Cymru i ymchwilio i ddichonolrwydd disodli’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig a rhoi treth gwerth tir lleol yn eu lle, yn ogystal â’i hymrwymiad i archwilio sut y byddai ailbrisio a diwygio’r dreth gyngor yng Nghymru yn effeithio ar y sylfaen drethu ac incwm aelwydydd er mwyn gwneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.
Fe roddodd Deddf 2014 yr hawl i Lywodraeth Cymru ofyn am y cymhwysedd i gyflwyno trethi newydd ac fe ofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gymhwysedd dros dreth ar dir gwag nôl yn 2018, ond erbyn Cyfarfod Llawn olaf y bumed Senedd yma heddiw, dyw’r cymhwysedd hwnnw'n dal ddim wedi’i ddatganoli. Yn wir, fe glywon ni nad yw profiad Llywodraeth Cymru hyd yma o geisio cymhwysedd dros bwerau trethu ychwanegol wedi bod yn rhwydd nac yn syml. Er ein bod ni’n cydnabod y gallai’r dreth newydd gymryd yn hirach oherwydd y camau sy’n rhaid eu cymryd i sicrhau bod y broses yn un esmwyth, dyw’r dreth hon ddim yn un hynod ddadleuol, ac rwy’n siŵr nad oedd yr un ohonom ni’n disgwyl i’r broses gymryd cyhyd.
Fe ofynnon ni i’r Ysgrifennydd Gwladol a yw’r broses ar gyfer datganoli’r cymhwysedd dros gyflwyno trethi newydd yng Nghymru yn addas i’r diben, ac rŷn ni’n gwerthfawrogi’r ffaith ei fod e yn fodlon trafod y mater yma â’r Trysorlys, ond, wrth gloi, mae’n rhaid pwysleisio unwaith eto mai dyna'n union pam yr oeddem ni’n awyddus i siarad â’r Prif Ysgrifennydd ei hun yn uniongyrchol, gwahoddiad, wrth gwrs, y mae e wedi'i wrthod. Diolch.