Marwolaethau mewn Cartrefi Gofal

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 1:42, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i Darren Millar am y cwestiwn hwnnw. Mae'r rhaglen frechu yn parhau i fynd rhagddi'n dda. Mewn cartrefi gofal, mae bron i 96 y cant o drigolion cartrefi gofal bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, sy'n gynnydd mawr. Mae'n gwneud pwynt pwysig am bobl yn symud i wahanol leoliadau a sicrhau bod y dos dilynol yn cael ei roi, a byddwn yn sicr yn rhoi camau ar waith i sicrhau ein bod yn rhybuddio lleoliadau ynghylch y posibilrwydd hwnnw fel y gellir dod o hyd i'r bobl hyn. Nid wyf wedi cael gwybod am unrhyw ddigwyddiadau fy hun, ond os yw'r Aelod wedi cael gwybod am ddigwyddiadau o'r fath mae'n amlwg yn bwysig iawn ein bod yn mynd ar drywydd y rheini.