Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 24 Mawrth 2021.
Weinidog, un o'r pethau sy'n helpu i ddiogelu preswylwyr cartrefi gofal, wrth gwrs, yw llwyddiant y rhaglen frechu mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Ond mae yna unigolion a fydd wedi derbyn eu dos cyntaf mewn cartref gofal ac yna wedi dychwelyd i leoliad gofal gwahanol, eu cartref eu hunain weithiau, heb fod wedi cael ail ddos. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr unigolion hynny’n cael eu holrhain yn briodol fel y gallant gael eu hail ddos? Nid yw’n ymddangos bod nifer o etholwyr yn fy ardal i wedi cael eu galw’n ôl am yr ail ddos pwysig hwnnw i roi'r amddiffyniad llawn y gall y brechlyn ei gynnig.