Mynediad at Driniaethau Canser

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:10, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich geiriau. Rydych yn garedig iawn ac rwyf am ymateb drwy ddweud diolch am eich tryloywder a'ch gonestrwydd ar rai o'r achlysuron pan ydym wedi gorfod edrych ar rai o'r sefyllfaoedd anodd iawn sy'n wynebu ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Wrth gwrs, un o'r sefyllfaoedd anodd iawn sy'n ein hwynebu yw'r ddarpariaeth o driniaethau canser i bobl drwy'r pandemig. Nawr, mae Cymru wedi bod heb gynllun cyflawni ar gyfer canser ers diwedd y llynedd, a ddydd Llun yr wythnos hon, rhybuddiodd Cynghrair Canser Cymru, nad oedd ganddynt fawr o feddwl o’ch datganiad ansawdd na'ch blaenraglen waith COVID-19, fod gofal canser yng Nghymru mewn perygl heb strategaeth ganser newydd. Roedd y cynllun cyflawni a oedd gennych yn 21 tudalen o hyd, ac yn ei le, cafwyd datganiad sydd oddeutu tair tudalen o hyd. Rwyf wedi ei ddarllen; mae'n llawn o sylwebaeth braf a fawr ddim arall. I ddyfynnu'r gynghrair canser, nid oes map trywydd clir yn y datganiad ansawdd ar gyfer sut y gall gofal canser wella fel y gall Cymru ddal i fyny â'r gwledydd sy'n perfformio orau, ac yn y pen draw, achub mwy o fywydau.

Yn fwyaf damniol, ânt rhagddynt i ddweud nad ydynt yn credu fod hwn yn ymateb digon manwl i'r argyfwng presennol ym maes gofal canser, ac nid yw'n nodi uchelgais digonol ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru.

Weinidog, fe ddywedoch chi fod gennych uchelgais go iawn i Gymru yn eich ateb i Rhun ap Iorwerth, felly a allwch ddweud ychydig mwy wrthym am yr uchelgais go iawn hwnnw ar gyfer gwasanaethau canser, a sut rydych yn ymateb i'r sylwadau damniol braidd am gynlluniau eich Llywodraeth i drin canser dros y blynyddoedd i ddod, pe baech yn ddigon ffodus i ffurfio'r Llywodraeth nesaf?