Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 24 Mawrth 2021.
Tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno y gall lleoli cyfleusterau gofal iechyd o'r radd flaenaf yn ein cymunedau tlotach gyfrannu at y gwaith o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Ac os yw'n cytuno â mi ar hynny, a wnaiff ymuno â mi i longyfarch Cyngor Sir Caerfyrddin a'r holl bartneriaid eraill ar ddatblygiad Pentre Awel yn Llanelli, a fydd wedi'i leoli ynghanol rhai o'r wardiau tlotaf yng Nghymru? Rwy'n siŵr y bydd yn ymwybodol y bydd yn cynnwys canolfan gofal clinigol a fydd yn darparu gofal amlddisgyblaethol, canolfan ymchwil clinigol a chanolfan sgiliau llesiant i ganolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, a chanolbwyntio'r hyfforddiant hwnnw yn arbennig ar recriwtio o'r cymunedau hynny eu hunain. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i longyfarch pawb sy'n gysylltiedig â hynny, a tybed a yw'n cytuno y gall y mathau hyn o brosiectau wneud gwahaniaeth go iawn yn y cymunedau lle mae fwyaf o'u hangen.