Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 24 Mawrth 2021.
Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi trafod y mater gyda'r Aelod etholaeth dros Lanelli, fy nghyd-Aelod yn y Llywodraeth, Lee Waters, ac yn fwy cyffredinol, yr her o fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad. Ac mae'n enghraifft dda o sut y gellir a sut y dylid dwyn gwasanaethau iechyd a gofal lleol ynghyd i ddarparu cyfleusterau o ansawdd gwell, i fuddsoddi yn y gymuned honno ac i ddarparu gwell gwasanaethau, yn yr un ffordd yn union â'r cyfleuster a agorwyd yn ddiweddar yn Aberpennar a welais gyda’r cyngor a'r Aelod lleol dros Gwm Cynon—mae lobïo ac effeithiolrwydd hynny'n dangos nad yw'n ymwneud ag iechyd yn unig; mae’n ymwneud ag iechyd yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ddarparu gwell cyfleusterau. Ac unwaith eto, mae'n mynd yn ôl at y berthynas rhwng iechyd a llywodraeth leol sydd wedi gwella'n sylweddol drwy gydol yr argyfwng, ond cyn hynny hefyd, ac mae cyfle go iawn yma i barhau i fuddsoddi mewn gofal iechyd lleol a darparu cyfleusterau llawer gwell lle mae fwyaf o'u hangen.