Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw.
Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i Gadeiryddion pwyllgorau ddechrau trafod sut y dylai'r Senedd fynd ati i graffu ar adroddiadau statudol Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n ystyried gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond pan fyddaf yn cymharu'r adeg honno â nawr, caf fy nharo gan faint y mae tirwedd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi newid, yn bennaf oherwydd ein bod ni i gyd wedi gorfod dod i delerau ag effaith ddinistriol pandemig byd-eang.
Cyn i mi siarad am ein canfyddiadau allweddol, hoffwn gofnodi diolch y pwyllgor i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad mewn cyfnod mor heriol. Yn benodol, hoffwn ddiolch yn arbennig i'r canlynol: swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a roddodd dystiolaeth mor werthfawr i ni ar anterth ail don y pandemig; myfyrwyr o Goleg Gwent ac INSPIRE Training Wales yn Abertawe, a fu'n trafod ac yn cyflwyno eu barn i ni ar yr adeg pan oedd dysgu wyneb yn wyneb yn amhosibl. Hoffwn ddiolch hefyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddodd eu hadroddiad eu hunain ar weithredu'r Ddeddf hon, ac am gytuno i gyflwyno eu canfyddiadau allweddol i ni ar ffurf gryno. Cafodd cyfanswm o 97 o sefydliadau eu bwydo i mewn i'r ymchwiliad—ffigur y teimlem ei fod yn dyst i gryfder y teimladau am y ddeddfwriaeth hon.
Er mai ychydig iawn o bobl a fyddai'n gwrthwynebu'r hyn y mae'r Ddeddf hon yn ceisio'i gyflawni, roedd llawer yn amheus ai deddfwriaeth oedd y ffordd gywir o'i gyflawni, ac mae'n dal yn wir fod llawer yn amheus a yw'n ei chyflawni. Fodd bynnag, nid yw amheuaeth yn ddigon da mwyach os ydym am lunio dyfodol gwell i genedlaethau'r dyfodol.