– Senedd Cymru am 5:13 pm ar 24 Mawrth 2021.
Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yn hyn', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig hwnnw, Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw.
Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i Gadeiryddion pwyllgorau ddechrau trafod sut y dylai'r Senedd fynd ati i graffu ar adroddiadau statudol Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n ystyried gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond pan fyddaf yn cymharu'r adeg honno â nawr, caf fy nharo gan faint y mae tirwedd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi newid, yn bennaf oherwydd ein bod ni i gyd wedi gorfod dod i delerau ag effaith ddinistriol pandemig byd-eang.
Cyn i mi siarad am ein canfyddiadau allweddol, hoffwn gofnodi diolch y pwyllgor i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad mewn cyfnod mor heriol. Yn benodol, hoffwn ddiolch yn arbennig i'r canlynol: swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a roddodd dystiolaeth mor werthfawr i ni ar anterth ail don y pandemig; myfyrwyr o Goleg Gwent ac INSPIRE Training Wales yn Abertawe, a fu'n trafod ac yn cyflwyno eu barn i ni ar yr adeg pan oedd dysgu wyneb yn wyneb yn amhosibl. Hoffwn ddiolch hefyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddodd eu hadroddiad eu hunain ar weithredu'r Ddeddf hon, ac am gytuno i gyflwyno eu canfyddiadau allweddol i ni ar ffurf gryno. Cafodd cyfanswm o 97 o sefydliadau eu bwydo i mewn i'r ymchwiliad—ffigur y teimlem ei fod yn dyst i gryfder y teimladau am y ddeddfwriaeth hon.
Er mai ychydig iawn o bobl a fyddai'n gwrthwynebu'r hyn y mae'r Ddeddf hon yn ceisio'i gyflawni, roedd llawer yn amheus ai deddfwriaeth oedd y ffordd gywir o'i gyflawni, ac mae'n dal yn wir fod llawer yn amheus a yw'n ei chyflawni. Fodd bynnag, nid yw amheuaeth yn ddigon da mwyach os ydym am lunio dyfodol gwell i genedlaethau'r dyfodol.
Dylwn ddechrau drwy ddweud bod hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn effeithio ar bob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, ac mae gwahanol gyrff cyhoeddus yn wynebu heriau gwahanol. Efallai fod un peth yn ei gwneud yn anodd i fyrddau iechyd weithredu'r Ddeddf, ond efallai na fydd yr un peth hwnnw'n effeithio ar awdurdodau lleol. Bu'n rhaid inni gymryd cam yn ôl ac edrych ar y darlun ehangach: pa rwystrau oedd yn gyffredin i'r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, os nad pob un, a pha broblemau sylfaenol oedd wrth wraidd ymdrechion pawb i weithredu'r Ddeddf?
Mae'r Ddeddf yn eang, yn gyfannol, ac ni fydd yr un corff cyhoeddus unigol yn gallu gwireddu unrhyw un o'r saith nod llesiant ar ei ben ei hun. Mae cyrff cyhoeddus wedi dod at ei gilydd i wneud i'r Ddeddf weithio. Mae gan lawer o sefydliadau ac unigolion gyfrifoldebau o dan y Ddeddf, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sy'n hyrwyddo'r Ddeddf ac yn helpu cyrff cyhoeddus i'w gweithredu. Roeddem am ddarganfod a oedd y comisiynydd yn gwneud ei gwaith yn effeithiol, ac a oedd Llywodraeth Cymru ei hun yn arwain ar weithredu'r ddeddfwriaeth a mynd â chyrff cyhoeddus ar daith sy'n galw am newid sylweddol yn y meddylfryd a diwylliant.
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a arweiniodd y gwaith hwn oherwydd bod ein cylch gwaith yn eang, ac mae hynny'n ein galluogi i ystyried deddfwriaeth drawsbynciol o'r fath sy'n effeithio ar bob agwedd ar fusnes Llywodraeth Cymru. Felly, beth a ddysgwyd am y pum mlynedd cyntaf ers gweithredu'r Ddeddf? Wel, gwelsom fod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus wedi dechrau'n araf, ac nad oedd pob un o'r cyrff cyhoeddus hynny'n rhoi blaenoriaeth i weithredu'r Ddeddf. Dywedodd llawer o gyrff cyhoeddus wrthym am effaith cyni ar eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau statudol, heb sôn am weithredu deddfwriaeth uchelgeisiol fel y Ddeddf hon. Daethom i'r casgliad nad oes angen mwy o arian ar gyrff cyhoeddus i weithredu'r Ddeddf, sy'n ymwneud â gwneud pethau'n wahanol, ac nid gwneud pethau ychwanegol. Fodd bynnag, drwy fabwysiadu'r pum ffordd o weithio, credwn y bydd cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswydd datblygu cynaliadwy ac y bydd ganddynt allu i weithio'n fwy economaidd, effeithlon ac effeithiol.
Roeddem yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill bellach yn gwneud cynnydd. Mae polisi'r Llywodraeth bellach yn creu argraff gryfach gydag egwyddorion datblygu cynaliadwy, ond mae mwy i'w wneud o hyd. Clywsom hefyd, wrth ymateb i'r pandemig, fod rhwystrau i gydweithredu, integreiddio a chynnwys—tair o'r pum ffordd o weithio, fel y'u gelwir—wedi'u chwalu. Mae gennym reswm dros gredu bod hyn wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid diwylliannol. Rydym yn annog cyrff cyhoeddus i gadw'r cynnydd hwn wrth iddynt symud eu ffocws o ddydd i ddydd i'r tymor hwy a thu hwnt, wrth inni ddechrau ymadfer o'r pandemig.
Gwnaethom gyfeirio'r rhan fwyaf o'n hargymhellion at Lywodraeth Cymru, oherwydd yn y pen draw hi sy'n gyfrifol am sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus. Penderfynwyd bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn esiampl yn ei harweinyddiaeth, a gosod naws a chyfeiriad gweithredu'r Ddeddf yn gynyddol ac yn llwyddiannus. Gwnaethom 14 o argymhellion, a hoffwn dynnu sylw at rai ohonynt heddiw.
Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei holl bolisi a deddfwriaeth yn y dyfodol yn gyson â'r Ddeddf. Rhaid iddi roi'r gorau i greu mwy o gyrff partneriaeth a gofynion adrodd newydd ar draws deddfwriaeth a chanllawiau statudol. Mae'r dirwedd sector cyhoeddus wedi mynd yn ddiangen o fiwrocrataidd a dryslyd, ffactor sydd wedi bod yn rhwystr mawr i weithredu'r Ddeddf hon. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i nodi'n glir sut y dylai'r cyrff partneriaeth allweddol weithio o fewn fframwaith y Ddeddf hon, a sut y gellir lleihau biwrocratiaeth a dyblygu.
Rydym hefyd wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ailystyried ei dull o ariannu byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Nid ydym yn credu y dylai cyrff cyhoeddus gael arian ychwanegol. Fodd bynnag, credwn y gellid ffurfioli cyfraniadau ariannol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn egluro pa adnoddau sydd ar gael iddynt. Rydym yn cydnabod datganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog ar 19 Chwefror ar 'Llunio Dyfodol Cymru: Cyflawni'r Cerrig Milltir Llesiant Cenedlaethol a'r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol ac adroddiad ar ddyfodol Cymru'. Cyhoeddwyd hwn dair wythnos ar ôl i ni graffu ar Lywodraeth Cymru yn y pwyllgor, ac mae'n ymrwymo i ddatblygu meysydd gwaith hanfodol o dan y Ddeddf hon. Roedd y rhain hefyd yn feysydd a gododd mewn tystiolaeth, ac roeddem yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o ba gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf, sut y gall ddarparu sicrwydd ariannol tymor hwy i gyrff cyhoeddus, a llunio ei llythyrau cylch gwaith yn well o amgylch y Ddeddf ar gyfer cyrff a noddir.
Fodd bynnag, nid Llywodraeth Cymru yn unig a ddylai wneud yn well. Rydym yn annog comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chyrff cyhoeddus i barhau i ddatblygu cysylltiadau adeiladol er mwyn gwneud defnydd llawn o waith ac arbenigedd y comisiynydd a'i swyddfa. Rydym hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i'r comisiynydd flaenoriaethu cymorth i gyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y gwaith o gyflawni'r ddeddfwriaeth. Ac yn olaf, i gwblhau'r cylch archwilio, dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru ddisgwyl mwy gan gyrff cyhoeddus a thynnu sylw, lle bo'n briodol, at lle nad yw'r Ddeddf wedi'i mabwysiadu'n dda.
Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir a heriol ond—a chredaf y gallaf ddweud hyn ar ran holl aelodau'r pwyllgor—bu'n ymchwiliad gwerth chweil hefyd. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl yn parhau ymhell i'r dyfodol fel bod y ddeddfwriaeth bwysig hon yn parhau i fod yn flaenllaw mewn polisi cyhoeddus ac yn y pen draw yn cyflawni ei bwriad. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl heddiw.
Diolch. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n ymwybodol o'r ffaith eich bod wedi caniatáu 15 eiliad i chi'ch hun ymateb i'r ddadl. [Chwerthin.] Pymtheg eiliad i ymateb i'r ddadl—rwy'n credu mai dyna fydd un o'r ymatebion cyflymaf mewn unrhyw ddadl i ni ei chael y tymor hwn. Jenny Rathbone.
Diolch. Credaf fod hon yn ddadl fer iawn ar gyfer adroddiad eithaf hir a darn pellgyrhaeddol iawn o ddeddfwriaeth. Ond beth bynnag, gadewch inni roi cynnig arni. Mae'n anodd gwneud cyfiawnder ag ehangder y ddeddfwriaeth yn y ddadl hon, ond mae'n rhywbeth y bydd angen inni ddod yn ôl ato yn sicr. Rwy'n credu ei bod wedi torri llwybr newydd yn bendant ac yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, ac os na fyddai'n bodoli, byddai'n rhaid i ni ei dyfeisio a dweud y gwir, o ystyried maint yr heriau sy'n ein hwynebu yn awr. Hoffwn ddiolch i'r tîm clercio a'r staff ymchwil, a fu'n ymwneud yn frwdfrydig iawn â'r ymchwiliad hwn ac a gasglodd y cyfoeth o dystiolaeth a gawsom, ar lafar a/neu'n ysgrifenedig, ar draws Cymru gyfan, oherwydd yn amlwg, bu'n rhaid cymryd yr holl dystiolaeth yn rhithwir.
Mae'n amlwg ei fod yn waith sy'n mynd rhagddo, ond mae'n debyg mai pethau fel y cynllun 'Llwybr Newydd' sydd newydd gael ei gyhoeddi yw'r enghraifft orau o Lywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio. Ac rwy'n credu mewn gwirionedd fod y cynllun hwnnw'n gyson ac yn gredadwy iawn mewn gwirionedd am ei fod wedi defnyddio'r Ddeddf i feddwl yn wirioneddol ddwfn am rywbeth mor gymhleth ag ailwampio'n llwyr y ffordd rydym yn symud o amgylch ein gwlad.
Roedd gan gynllun adfer y GIG lawer o nodweddion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol hefyd ac a dweud y gwir, os na all pob corff cyhoeddus gydweithio'n effeithiol, meddwl am y tymor hir, ac integreiddio, atal a chynnwys y cyhoedd yn yr heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y Senedd nesaf, fe fyddwn yn ei chael hi'n anodd dros ben, oherwydd bydd ein hadnoddau'n gyfyngedig a'r heriau'n enfawr.
Mae Nick eisoes wedi cydnabod bod y pandemig wedi gwneud i ni feddwl yn wahanol iawn ynglŷn â sut rydym yn gwneud pethau, ond ar ben hynny, mae gennym her newid hinsawdd a'r argyfwng natur yn hofran drosom hefyd, a'r tarfu ar y berthynas fasnachu sefydledig ag Ewrop. Felly, rydym yn wynebu heriau o sawl cyfeiriad.
Felly, mae rhai cyrff cyhoeddus ymhellach ar hyd y llwybr i fabwysiadu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol nag eraill, ac mae rhai'n dal i ddadlau nad yw cyllidebau blynyddol yn caniatáu iddynt gynllunio ar gyfer y tymor hir nac ymrwymo i waith integredig a chydweithredol, ond er bod newidiadau ar yr ymylon o ran sut y dyrennir cyllidebau, mae eraill yn cydnabod yn llawn fod y gyllideb graidd ar gyfer busnes craidd pa gorff bynnag sydd dan sylw yn gwbl rhagweladwy, ac mae'n rhaid inni ddiolch i'r bobl a ddyfeisiodd Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol am ein hannog o ddifrif i feddwl sut y gallwn wneud pethau'n fwy effeithlon, sut y gallwn integreiddio mwy, sut y gallwn ddileu dyblygu ymdrechion yn y cyfnod heriol tu hwnt sydd o'n blaenau.
Mae'n bleser gen i siarad yn fyr yn y ddadl hon ac i dalu teyrnged i'm cyd-aelodau o'r pwyllgor, ein Cadeirydd a'r tîm clercio am y gwaith pwysig gyda'r ymgynghoriad hwn a thrwy gydol y blynyddoedd diwethaf. Mae'n syndod mawr taw dyma oedd y tro cyntaf i'r Senedd graffu ar weithrediad y Ddeddf, Deddf sydd mor bwysig, mor uchelgeisiol, ond nad yw wedi cael y cymorth angenrheidiol ers iddi gael ei phasio.
Gobeithio'n wir y gall hyn newid yn y dyfodol agos iawn, achos mae'r adferiad wedi COVID yn cynnig cyfle i newid cymaint o bethau: fel mae'r adroddiad yn ei ddweud, cyfle i lunwyr polisi asesu sut y gellir ail-greu gwasanaethau cyhoeddus er gwell, a hefyd cyfle i ailedrych ar yr arwyddion, yr indicators, y ffyrdd rŷn ni'n pwyso a mesur llwyddiant yn sgil y Ddeddf—cyfle i ailfframio'r cyfan.
Rwy'n ymwybodol bod cyrff megis ColegauCymru wedi gwneud y pwynt hwn yn eu tystiolaeth inni. Wedi'r cyfan, bydd cyd-destun fel mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu dros y blynyddoedd nesaf yn dra gwahanol i'r hyn fuasai'r rhai oedd wedi llunio'r Ddeddf wedi ei ragweld. Mae angen i Llywodraeth siarad â chyrff cyhoeddus wrth iddynt ailystyried hyn, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd.
Mae'r darn yma o ddeddfwriaeth, fel sydd wedi cael ei ddweud eisoes, yn un gall fod yn arloesol, ac rŷn ni'n byw mewn cyfnod lle mae newidiadau radical yn gallu digwydd. Cyfle fydd gan y Senedd nesaf i wireddu potensial y Ddeddf bellgyrhaeddol hon. Ond heb y cymorth angenrheidiol na'r arweinyddiaeth gan y Llywodraeth, gwastraff fydd y cyfle hwnnw. Gan ddiolch eto i'r tîm clercio am eu holl waith ac i bawb oedd wedi rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor, diolch yn fawr.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i'r Cadeirydd a staff y pwyllgorau am eu gwaith digynsail ar graffu cenedlaethau'r dyfodol mewn tirwedd rithwir, a darparu arferion gorau a welwyd gyntaf yng Nghymru ar fynediad ac ymgysylltu, fel y nodais wrth aelodau Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad ac wrth gwrs, ar draws y gwaith cyfrifon cyhoeddus yn y Senedd. Mae'r Aelod dros Fynwy, Nick Ramsay, wedi bod yn Gadeirydd gwych ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac er gwaethaf gwahaniaethau ideolegol clir, mae wedi ceisio consensws yn barhaus. Felly, hoffwn ddiolch iddo am ei broffesiynoldeb a'i wasanaeth cyhoeddus hir fel Cadeirydd y pwyllgor ac i'r Senedd hon yng Nghymru.
Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi gwneud gwaith rhagorol, fel y mae'r adroddiad hwn yn dangos, ond mae llawer o heriau o'n blaenau gyda'r Ddeddf hon ac mewn perthynas â defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn wir, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrth y Senedd na fyddai Cymru ar ei cholled yn dilyn Brexit, felly dychmygwch fy mhryder wrth ddarllen nad yw Islwyn, sydd wedi'i leoli yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar y rhestr o 100 o ardaloedd blaenoriaethol a glustnodwyd ar gyfer gwariant rhanbarthol i gymryd lle cronfeydd yr UE, er bod cymunedau yn Islwyn ymysg y tlotaf yn Ewrop, ffaith a danlinellwyd gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig wrth feirniadu'r toriadau dyfnaf i rwyd ddiogelwch y wladwriaeth les yn ein hanes. Nid yw hynny'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dyna pam y mae'r adroddiad hwn mor bwysig; hwy yw cenedlaethau ein dyfodol ni. Roeddwn wrth fy modd yn gweld bod yr ymgynghoriad ar bobl ifanc yn cynnwys detholiad o fyfyrwyr o Goleg Gwent yn Crosskeys, ac fe'm trawyd gan sylw un person, 'Pan gaewyd y pyllau glo, cynyddodd cyfradd tlodi. Collasom ein diwydiannau traddodiadol. Mae arnom angen economi gref.' Felly, meddyliais wrthyf fy hun, bedwar degawd yn ddiweddarach, mae yna wirionedd yno rydym yn dal i ymgodymu ag ef—sut y symudwn o orffennol diwydiannol enwog Cymru i'r dyfodol mwy disglair. Bydd tlodi endemig yn dal i gyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol, ac mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn dystiolaeth feiddgar a welwyd gyntaf yng Nghymru o'r hyn y gall Senedd Cymru ei gyflawni drwy gydweithio. Roedd yn arloesol pan gafodd ei chyflwyno gan ein diweddar gyfaill Carl Sargeant, ac mae'r gwaith o sicrhau ein bod yn rhoi bywyd iddi yn parhau.
Ac i gloi, fel y dywed yr adroddiad sydd ger ein bron, gwaith y Senedd hon a'i Haelodau yw sicrhau bod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog i holl waith a meddylfryd y Llywodraeth a Senedd Cymru. Mae argymhelliad 13 yn gosod her ger bron y Senedd hon a'i Phwyllgor Busnes, ac os caf, Ddirprwy Lywydd, mae'n nodi sut y gallwn
'sicrhau bod strwythur Pwyllgor y Senedd yn hwyluso gwaith craffu effeithiol ar ddeddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a materion eraill sy’n pontio meysydd polisi a phortffolios Gweinidogol.'
Felly, gadewch iddi fod yn her allweddol y mae Aelodau'r chweched Senedd yng Nghymru yn ymateb iddi, gan fod cenedlaethau'r dyfodol angen hyn wrth inni ddechrau ar y daith i fyd ôl-bandemig ac ôl-Brexit. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am arwain yr ymchwiliad i wreiddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a beth arall y gellir ei wneud i sicrhau ei llwyddiant. Rwy'n credu bod y dull a fabwysiadwyd yn dangos na all un pwyllgor yn unig ystyried y ddeddfwriaeth, ac nad yw'n gyfrifoldeb un Gweinidog Llywodraeth Cymru ychwaith; ein cyfrifoldeb a'n dyletswydd ar y cyd yw hyrwyddo a chyflawni datblygu cynaliadwy ym mhob peth a wnawn. A'r ffordd rydych wedi cynnal yr ymchwiliad gyda chyfraniad cymaint o sefydliadau, fel y dywedodd y Cadeirydd, a oedd am rannu eu tystiolaeth, a hefyd y gwaith gyda phobl ifanc sy'n adlewyrchu ysbryd y Ddeddf. Ac mae cyhoeddi'r adroddiad, ochr yn ochr â'r adroddiadau gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn rhoi arweiniad defnyddiol ar y camau y mae angen i ni ac eraill eu cymryd i gyflymu'r broses o weithredu'r Ddeddf.
Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers cychwyn prif ddyletswyddau'r Ddeddf, er mai cyfnod byr yw hwn yng nghyd-destun cenedlaethau'r dyfodol. Serch hynny, mae wedi bod yn gyfnod o newid sylweddol, ac mae'r Aelodau wedi adlewyrchu hynny yn y ddadl hon. Rydym wedi wynebu cyni pellach, rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym wedi teimlo effeithiau newid hinsawdd a dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pob agwedd ar ein bywydau wedi cael ei newid gan y coronafeirws. Gallai unrhyw un o'r heriau hyn fod wedi bod yn ddigon i arafu cynnydd unrhyw Lywodraeth, ond er gwaethaf yr holl heriau hyn, rydym wedi cyflawni'r addewidion a wnaethom i bobl Cymru bum mlynedd yn ôl.
Yn ystod y misoedd diwethaf, ochr yn ochr â'r pandemig ac ymateb iddo, a gwneud hynny yn ysbryd y Ddeddf, rydym hefyd wedi gweld defnydd cynyddol o ddull llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn llunio dyfodol Cymru: Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth yn cyhoeddi'r genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu'r economi y mis diwethaf, sydd bellach am y tro cyntaf yn golygu mai economi llesiant yw diben sylfaenol gweithgarwch datblygu economaidd y Llywodraeth; Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn cyhoeddi 'Mwy nag Ailgylchu', strategaeth hirdymor hyd at 2050 i wireddu'r economi gylchol yng Nghymru, a ddatblygwyd gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog iddi; y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael drafft, enghraifft fyw o sut rydym yn sicrhau, wrth i ddeddfwriaeth gael ei datblygu, ei bod yn gweithio gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ac yn ei hategu drwy ei dyletswydd llesiant; a'r wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol drwy lansio rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu i Gymru, sef blaendal ar ddyfodol ein pobl ifanc, sy'n cynnig cyfleoedd i bawb o bob cefndir; a ddoe ddiwethaf, fy natganiad yn cyhoeddi'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, ymdrech gydweithredol, ac rydym yn ddiolchgar i gynifer o sefydliadau a phobl ledled Cymru a fu'n ymwneud yn y broses o'i gyd-greu, gan ein helpu i sicrhau Cymru fwy cyfartal.
Bydd angen ystyried yr argymhellion a'r casgliadau yn adroddiad y pwyllgor yn ofalus, a mater i'r Llywodraeth nesaf fydd myfyrio ac ymateb yn llawn yn yr hydref, ond mae'n dda ein bod wedi gallu cael y ddadl hon i'w gydnabod, ei dderbyn a myfyrio arno heddiw. Yn gynharach eleni, sefydlais fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol llesiant cenedlaethau'r dyfodol, er mwyn dod â chynrychiolwyr y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector at ei gilydd i ystyried gwaith sy'n datblygu, a chefnogi a chynghori ar gam nesaf gweithredu'r Ddeddf yn genedlaethol a'r nodau datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol gyda'i saith nod llesiant yn darparu gweledigaeth hirdymor o Gymru y cytunwyd arni gan y Senedd yn ôl yn 2015. Mae'n ein rhoi ar sylfaen gref i'n harwain drwy'r dirwedd ddieithr hon. Ac mae meddwl am y tymor hir, cynnwys pobl ifanc, yr holl bobl o bob cenhedlaeth, cydgysylltu polisïau a darparu gwasanaethau, cydweithio ar draws pob sector, a chanolbwyntio ar atal yn hanfodol i weithio'n fwy cynaliadwy. Yr hyn sy'n helpu i osod Cymru ar wahân yw gwaith y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol annibynnol, a sut y caiff yr ymdrechion i sicrhau llwybr cynaliadwy i Gymru eu cefnogi ar draws Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Ddirprwy Lywydd, oherwydd y Ddeddf, byddwn yn dweud bod Cymru'n wahanol. Rydym yn gwneud penderfyniadau o blaid pobl, o blaid y blaned, ar gyfer y presennol ac ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sy'n dymuno gwneud ymyriad, felly galwaf ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl, a byddaf yn hael a rhoi ychydig mwy na 15 eiliad i chi.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gweld colli'r cloc digidol hwnnw yn y Siambr. Efallai fod angen i mi gael un bach ar y sgrin yma.
A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, a hefyd i'r Gweinidog am ei sylwadau rhagorol? Fel y dywedais wrth agor, mae'n bwysig iawn fod craffu ar y Ddeddf hon yn parhau yn y Senedd nesaf. Fel y dywedodd Delyth Jewell, dechreuasom y broses graffu honno yn yr ymchwiliad hwn, y tro cyntaf inni edrych arni'n iawn.
Yn syml iawn, mae cyfle i'r Ddeddf hon newid yr holl ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithio a'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu yng Nghymru. Mae potensial mawr ganddi cyn belled â bod argymhellion ein hymchwiliad yn cael eu gweithredu a'u monitro yn y Senedd nesaf. Yn syml, mae angen tynnu'r cymhlethdodau ohoni, mae angen symleiddio'r Ddeddf, mae arnom angen ailffocysu'r hyn sydd mewn egwyddor yn effeithiol iawn, yn ddeddfwriaeth dda iawn, ond sydd wedi bod yn llai effeithiol nag y gallai fod yn ymarferol oherwydd rhai o'r materion sy'n codi wrth ei gweithredu.
A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwn? A gaf fi ddiolch hefyd i aelodau'r pwyllgor yn ystod fy amser yn ei gadeirio dros y pum mlynedd diwethaf? Dylwn ddiolch hefyd i Llyr Gruffydd, a'r Cadeiryddion eraill a gymerodd ran, pan benderfynwyd mai'r ymchwiliad cyfrifon cyhoeddus oedd y cyfrwng gorau ar gyfer edrych ar y Ddeddf hon a chraffu arni. Mae'n drawsbynciol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen edrych arno a'i fonitro yn y dyfodol, er mwyn sicrhau nad ychwanegiad yn unig ydyw, a'i bod yn cael ei phrif ffrydio drwy bob polisi.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, diolch enfawr i fy nghlercod am eu cefnogaeth dros y pum mlynedd diwethaf, a hefyd i staff Archwilio Cymru, sydd wedi darparu cymorth mawr i'r pwyllgor hefyd. Rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y chweched Senedd yn parhau'r gwaith gwerthfawr y buom yn ei wneud yn y pumed Senedd. Edrychaf ymlaen at ddarllen adroddiadau'r pwyllgor yn y dyfodol, ac rwy'n dymuno'n dda i fy holl gyd-aelodau o'r pwyllgor yn y dyfodol. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.