Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn i chi, Dirprwy Lywydd, a hefyd, fel rhan o'm cyfraniad olaf, hoffwn i ddweud pob lwc i chi yn beth bynnag rydych chi'n ei wneud yn y dyfodol. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi fel Dirprwy Lywydd ac fel Aelod o'r Senedd yma.
Mae'n bleser o'r mwyaf cael agor y ddadl heddiw ar ein hadroddiad sy'n edrych ar ddatganoli darlledu a sut all Cymru feddu ar y cyfryngau sydd eu hangen arni. Cyn imi ddechrau, mae'n rhaid i mi nodi mai dyma fydd fy nghyfraniad olaf fel Cadeirydd y pwyllgor hwn. Dwi eisoes wedi rhoi ar gofnod fy mod i wedi dweud diolch yn fawr iawn i'r holl staff ac i bawb sydd wedi cyfrannu i'r pwyllgor ar hyd y blynyddoedd, ond diolch eto i chi am eich holl waith. Hoffwn i roi hwnna ar y record yma heddiw eto.
Gan droi at yr adroddiad, dylid ystyried yr adroddiad yma fel penllanw'r pum mlynedd o waith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud yn y maes hwn. Mae'r adroddiad yn un sy'n adeiladu ar adroddiadau blaenorol, a hefyd y gwaith sgrwtini rheolaidd a wnaethom ni gyda'r BBC, S4C, Ofcom ac eraill. Yn amlwg, mae'r pwyllgor yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y prif bleidiau yn y Senedd, ond ar y cwestiwn pwysig yma, barn y pwyllgor oedd nid, 'A ddylid datganoli darlledu?' ond, 'Faint o ddarlledu y dylid ei datganoli?' Mae hwn yn newid sylweddol, yn fy marn i, o le roeddem ni cyn i'r pwyllgor penodol yma fodoli, a chyn i ni gael unrhyw fath o sgrwtini ar y cyfryngau yma yng Nghymru.
Yn ystod yr ymchwiliad, clywom ni fod y cynnwys sydd ar gael i Gymru yn y cyfryngau yn annigonol. Dyma oedd ein man cychwyn ar gyfer argymhelliad 1, sy'n galw am fwy o gyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru ac sy'n herio Llywodraeth Cymru, San Steffan ac Ofcom i nodi sut y gellir gwella'r cynnwys a ddarperir yn y cyfryngau i gynulleidfaoedd yng Nghymru.
Mae'r diffygion hyn hefyd yn ymestyn i gynnwys newyddion a materion cyfoes, ac fe glywom ni anfodlonrwydd eang am y cynnwys sydd ar gael i gynulleidfaoedd Cymru. Rydym ni gyd yn cytuno am y rôl hanfodol y mae'r cynnwys hwn yn ei chwarae mewn democratiaeth weithredol. O ganlyniad i'r casgliad hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa ganolog barhaus i gefnogi newyddiaduraeth newyddion sy'n atebol ac sy'n cael ei darparu ar hyd braich. Roeddwn i'n falch iawn i dderbyn gohebiaeth ddoe gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad yma mewn egwyddor, gyda mwy o fanylion i ddilyn.
O ran datganoli S4C a darlledu gwasanaeth cyhoeddus iaith Gymraeg, fe glywom ni fod y degawd diwethaf wedi gweld gostyngiad mewn incwm o 37 y cant i’r sianel ers 2010. Ac efallai yn bwysicach na hynny, daeth y pwyllgor i’r casgliad ei bod yn sefyllfa anarferol iawn i bwerau dros S4C fod yn nwylo Gweinidogion yn Llundain, yn hytrach na Gweinidogion y wlad lle mae’r iaith sydd i’w chlywed ar S4C yn cael ei siarad. Felly, mae argymhelliad 4 yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatganoli i Gymru bwerau dros S4C a materion eraill sy’n ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus iaith Gymraeg.
Dwi'n credu bod e'n bwysig imi nodi yn y fan yma y byddai rhai ohonom ni ar y pwyllgor wedi mynd yn bellach, wrth gwrs, i ddatganoli mwy na S4C a materion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg, ond dwi'n credu ein bod ni wedi dod yn bell gydag ennyn cefnogaeth drawsbleidiol ar y mater pwysig yma, a dyna pam mae'r adroddiad yma mor bwysig.