Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 24 Mawrth 2021.
Rwy'n cynnig gwelliannau ein grŵp. Mae'n briodol inni gau'r Senedd hon gyda dadl sy'n edrych tuag at ein dyfodol. Mae'r dyfodol hwnnw'n llawn posibilrwydd os dewiswn gredu ynom ein hunain fel cenedl, a rhoi'r gorau i roi ein ffydd yn ninistrwyr anhydrin San Steffan a grymuso ein pobl yn lle hynny. Rhaid imi gymeradwyo haerllugrwydd y grŵp Ceidwadol am gyflwyno'r cynnig hwn, y blaid sydd wedi torri biliynau oddi ar gyllideb Llywodraeth Cymru drwy gyni, wedi dwyn pwerau gan Gymru heb fandad ac wedi torri addewidion ar ariannu morglawdd Abertawe a thrydaneiddio prif reilffordd de Cymru. Eu plaid hwy sy'n dymuno ffrwyno a chaethiwo ein cenedl, plaid y Jacob Rees-Moggs a ddywedodd wrth ASau yr wythnos diwethaf mai iaith dramor yw'r Gymraeg, dirmyg ysgafala San Steffan tuag at bopeth nad yw'n Seisnig. Dim ond pan fydd Cymru'n ethol Llywodraeth a fydd yn galluogi'r bobl i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain, i ffwrdd o San Steffan, y bydd yn cyrraedd ei llawn botensial. Gwlad maint Cymru sy'n gallu adeiladu economi ffyniannus, ymffrostio mewn llywodraeth a chymdeithas sy'n adlewyrchu'r gwerthoedd ac a fydd yn meithrin ein diwylliant a'n hiaith, tra'n croesawu pawb sydd am wneud Cymru'n gartref iddynt.
Efallai fod system San Steffan yn ein rhwystro ar hyn o bryd, ond mae gobaith yn dod o hyd i ffordd, oherwydd mae herfeiddiwch yng nghalonnau pawb sy'n byw yng Nghymru, penderfyniad i frwydro yn eu blaen. Mae'n herfeiddiwch ag iddo wreiddiau dwfn. Wedi'r cyfan, rydym yn genedl hynafol a bywiog sydd wedi gorfod goresgyn caledi mawr. Y bardd David Jones a nododd fod Bleddyn Fardd, yn ei Farwnad i Lywelyn ap Gruffydd yn ystod gaeaf ofnadwy 1282, yn dal i feddu ar yr ehofnder gwych i allu cyfeirio at Gymru a oedd wedi'i chlwyfo i'r byw fel 'Cymru fawr'—Cymru fawr pan oedd popeth wedi'i chwalu a'i golli. Felly, rydym wedi camu ymlaen o drywaniad creulon y waywffon ar lannau'r Irfon ar y noson dyngedfennol honno i'r gwanwyn gobeithiol hwn yn 2021, gan edrych ar gymaint sydd wedi torri yn ein cymdeithas, a faint sy'n rhaid inni ei ailadeiladu.