Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 24 Mawrth 2021.
A Chymru fawr yn sefyll o hyd. Cymru fawr sy'n wynebu dyfodol gyda statws cryfach, gorwelion ehangach, dyfalbarhad sy'n ddyfnach nag ymdrechion unrhyw blaid arall i'w chefnogi. Mae'r hyn fydd yn ein diffinio o'n blaenau, nid y tu ôl.
A gwnaf i gloi, Dirprwy Lywydd, trwy ddyfynnu geiriau'r anfarwol John Davies ar ddiwedd ei lyfr Hanes Cymru pan mae'n trafod y ffaith bod nifer o haneswyr wedi gofyn pa bryd y bu Cymru:
'Ysgrifennwyd y llyfr hwn yn y ffydd a’r hyder na fu hi eto yn ei llawnder’.