Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 24 Mawrth 2021.
Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yn y Senedd hon, noddais a siaradais yn nigwyddiad Wythnos Gofal Hosbis Hospice UK ym mis Hydref 2019, pan ddywedais fod hosbisau plant yn dweud er eu bod yn gweithredu ar sail "prynu un, cael saith neu wyth am ddim", cyllid gwastad statudol y maent wedi bod yn ei gael ers deng mlynedd.
Y mis canlynol, arweiniais ddadl yma, gan nodi adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol ar anghydraddoldebau mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol, pan ddywedais,
'Mae hosbisau plant Cymru yn galw am weithredu ar yr argymhellion a wnaed gan adroddiad y grŵp trawsbleidiol ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu'r astudiaeth sy'n archwilio'r galw am ofal lliniarol i blant yng Nghymru ac i ba raddau y mae hynny'n cael ei gyflawni.'
Flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd y ddwy elusen hosbis plant yng Nghymru, Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, eu hadroddiad ar y cyd, 'Lleisiau ein Teuluoedd'. Roedd yr adroddiad hwn yn cyflwyno'n rymus ac yn glir, ac yn eu geiriau hwy, pryderon pwysicaf teuluoedd sydd â phlant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd.
Roeddent yn galw hosbisau plant yng Nghymru yn 'achubiaeth', ac yn dweud eu bod angen mwy o'r gofal na all ond hosbisau ei ddarparu a hynny ar frys, yn enwedig mewn perthynas â gofal seibiant. Mae'r adroddiad yn amlinellu eu cynnig i symud tuag at fodel ariannu cynaliadwy sy'n cyd-fynd yn well ag elusennau hosbisau plant ym mhob gwlad arall yn y DU. Bydd yr arian hwn yn rhoi hyder i hosbisau plant yng Nghymru allu cynnal ac ehangu eu gwasanaethau er mwyn diwallu'n well anghenion pob plentyn sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd, ledled y wlad, gan helpu yn eu tro i wireddu uchelgais Cymru i fod yn wlad dosturiol. Maent yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i sefydlu cronfa achub ar gyfer hosbisau plant yn nhymor nesaf y Senedd ac yn sicr, bydd fy mhlaid i'n ymrwymo i'r addewid hwnnw.
Mae hosbisau plant yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau plant a theuluoedd y mae eu byd wedi ei droi wyneb i waered gan ddiagnosis o salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Gyda theuluoedd yn disgrifio hosbisau plant fel eu hachubiaeth, dywedodd y mwyafrif helaeth o deuluoedd a holwyd ar gyfer yr adroddiad mai hosbisau oedd eu hunig ffynhonnell neu eu prif ffynhonnell o ofal seibiant. Fodd bynnag, gan ddibynnu bron yn gyfan gwbl ar gyllid elusennol, dim ond tua chwarter yr amser y gallant ddiwallu'r anghenion hynny. Mae'r neges yn glir iawn: mae angen mwy o gymorth ar deuluoedd a hynny ar frys. Nid yw'n ymwneud â chyllid COVID, er eu bod yn ddiolchgar amdano. Mae'n ymwneud â chreu ffynhonnell ariannu gynaliadwy fel nad ydynt yn dibynnu ar haelioni'r cyhoedd yng Nghymru am 90 y cant neu fwy o'u cyllid, yn enwedig ar yr adeg hon o ansicrwydd economaidd mawr.
Ac nid yw'n ymwneud â seibiant yn unig. Fel rhan o'r ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol, maent yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi plant a theuluoedd yn eu hosbisau, gartref, yn yr ysbyty, ac yn ein cymunedau, gan gynnwys gweithwyr cymorth i deuluoedd, cymorth i frodyr a chwiorydd, cwnsela profedigaeth a gofal diwedd oes.
Ddydd Llun, siaradais â Nerys Davies o Lanrwst, un o nifer o deuluoedd a rannodd eu stori hosbis gyda mi. Cafodd mab Nerys, Bedwyr, sy'n bump oed, ac sydd bellach yn defnyddio Tŷ Gobaith, ddiagnosis o syndrom genetig Coffin-Siris ddwy flynedd yn ôl. Mae'r cyflwr yn achosi anabledd dysgu sylweddol ac mae'n eithriadol o brin, gyda dim ond 200 o blant yn cael diagnosis ohono yn fyd-eang. Mae Bedwyr hefyd yn cael ei fwydo drwy diwb, mae ganddo broblemau anadlu ac nid yw'n gallu siarad. Fel y dywed Nerys, 'Nid yw hynny'n ei atal rhag cyfathrebu serch hynny. Mae'n cyfathrebu llawer drwy symudiadau, felly mae'n mynd â chi i'r gegin, i'r cwpwrdd, lle cedwir ei fyrbrydau. Mae e'n ddireidus iawn.' Mae gofalu am blentyn sydd â chyflwr fel un Bedwyr yn rôl amser llawn. Fel y dywed Nerys, 'Rydych chi'n edrych ymlaen yn fawr at y pethau bach y mae pobl eraill yn gallu eu cymryd yn ganiataol, fel gallu cysgu yn y nos neu eistedd i fwyta pryd o fwyd mewn heddwch, hyd yn oed os mai dim ond ffa pob ar dost yw'r pryd, neu ddim ond i gael cwpanaid o de. Mae seibiant hosbis mor bwysig i ni fel rhieni, yn gorfforol ac yn feddyliol, oherwydd hebddo, mae teuluoedd yn mynd i wynebu argyfwng yn y pen draw. Bydd hynny'n costio llawer mwy i'r gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd ymdrin ag ef yn y pen draw.' Fel y dywedodd wrthyf hefyd, 'Gallwn fynd i Ysbyty Gwynedd, ond mae gan Dŷ Gobaith wybodaeth arbenigol ar gyfer plant, ac mae'n wasanaeth un-mewn-miliwn i bob un ohonom.'