Part of the debate – Senedd Cymru am 6:58 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i'r Siambr ac i Dawn Bowden a Rhun ap Iorwerth am y cyfraniadau y gwrandewais arnynt. Ac rwy'n cydnabod y straeon y mae pob un ohonynt wedi'u hadrodd am yr effaith uniongyrchol y mae hosbisau plant yn ei chael, nid yn unig ar y plant, ond ar eu teuluoedd ehangach a'u gofalwyr hefyd. Rwy'n cydnabod, a dylwn ddweud, Lywydd, fod un o'r hosbisau plant yn fy etholaeth i mewn gwirionedd. Mae hosbis Tŷ Hafan yn Sili, ym mhen deheuol De Caerdydd a Phenarth. Felly, cyn fy amser fel Gweinidog yn y Llywodraeth, roedd gennyf rywfaint o ddealltwriaeth eisoes o'r gwasanaethau eithriadol o bwysig y mae hosbisau'n eu darparu ar gyfer gofal diwedd oes, ond yn fwy na hynny, fel y dywedais, y cymorth y maent yn ei ddarparu i gleifion, teuluoedd a gofalwyr.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bob blwyddyn, mae ein hosbisau plant yn cefnogi tua 500 o blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yma yng Nghymru, ac mae'r cydbwysedd hwnnw o ofal diwedd oes a gofal parhaus i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal yn deillio o gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yn aml yn digwydd dros nifer o flynyddoedd. Rwyf hefyd am gydnabod y cymorth a'r cyngor amhrisiadwy y mae ein hosbisau plant yn eu darparu i deuluoedd ar gyfer rheoli poen a symptomau gofidus eu plentyn, ond hefyd, fel y dywedodd yr Aelodau, y seibiant byr y gallant eu cynnig i deuluoedd, y cymorth gofal diwedd oes tosturiol a'r gefnogaeth emosiynol hyd at a thu hwnt i farwolaeth plentyn. Mae ymchwil yn dangos bod nifer gyffredinol y plant a'r bobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd wedi cynyddu, ac mae modelu'n awgrymu y bydd y niferoedd hynny'n parhau i gynyddu ychydig flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y degawd nesaf. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod disgwyliad oes yn cynyddu, gyda phobl yn byw'n hirach oherwydd datblygiadau mewn triniaethau a thechnolegau meddygol. O ganlyniad, mae mwy o bobl ifanc yn symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, sydd wedi bod yn her i hosbisau'r plant hynny, wrth iddynt reoli'r pontio yng ngofal pobl y maent wedi'u hadnabod ers amser maith.