22. Dadl Fer: Hosbisau plant — Cronfa achub i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 7:00, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gofal lliniarol a gofal diwedd oes i oedolion a phlant yn barhaus. Byddwn yn parhau i weithio gyda hosbisau i sicrhau eu bod yn gallu cael y cymorth a'r cyllid sydd ei angen arnynt. Ar hyn o bryd rydym yn buddsoddi £8.4 miliwn bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol. Mae llawer o hwn, wrth gwrs, yn mynd i gefnogi hosbisau oedolion a phlant. Rydym hefyd wedi dyrannu £9.3 miliwn o gyllid brys i hosbisau drwy gydol y pandemig er mwyn diogelu eu gwasanaethau clinigol craidd ac i gryfhau cymorth profedigaeth. Credaf fod pob un ohonom yn ymwybodol fod eu ffynonellau incwm arferol gan y cyhoedd wedi lleihau'n sylweddol drwy'r flwyddyn eithriadol a aeth heibio. Yn wir, mae dros £2 filiwn o'r arian wedi'i ddyrannu i'n hosbisau plant yma yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes i adolygu cyllid ar gyfer hosbisau, ac mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Yn dilyn y ddadl flaenorol yn y Siambr ar ofal lliniarol ym mis Chwefror, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith ehangach sy'n mynd rhagddo ar draws gofal lliniarol i oedolion a phlant. Roedd yn cynnwys ymarfer pwyso a mesur gan y bwrdd gofal diwedd oes, a fydd yn sefydlu llinell sylfaen o gapasiti ar draws y gwasanaethau i oedolion a'r gwasanaethau i blant. Bydd hefyd yn cynnig ystyriaeth o'r datblygiadau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion yn y dyfodol. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt sydd wedi'i wneud yma mewn gwirionedd: sut y mae sicrhau bod cyllid yn diwallu'r anghenion y deallwn y byddant yn digwydd yn y dyfodol. Mae'r ymarfer pwyso a mesur, a fydd ar gael yn ddiweddarach y mis hwn, wedi'i lywio gan fodel gwasanaeth i fynd i'r afael â mynediad teg i blant â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd yng Nghymru a ddatblygwyd gan Dr Richard Hain. Ef yw'r arweinydd clinigol ar gyfer gofal lliniarol pediatrig yng Nghymru. Cadarnhaodd y datganiad ysgrifenedig hefyd y caiff yr ymarfer pwyso a mesur ei gefnogi gan asesiad modd o ofal lliniarol pediatrig, a bydd hwnnw'n darparu data cadarn i gynllunio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gomisiynu ar hyn o bryd.

Y mis diwethaf, cyfarfûm â phrif weithredwyr Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith i drafod yr adroddiad 'Lleisiau ein Teuluoedd' a'u hargymhelliad ar gyfer cronfa achub. Cawsom drafodaeth ddefnyddiol ac adeiladol ar y symudiad tuag at fodel ariannu mwy cynaliadwy ar gyfer hosbisau—un sy'n cyd-fynd yn well ag elusennau cyffelyb yng ngwledydd eraill y DU—a phwysigrwydd gofal seibiant wrth gwrs. Rydym yn parhau i werthfawrogi'r cymorth a'r gefnogaeth y mae ein holl ofalwyr di-dâl yn eu darparu mewn amgylchiadau sy'n aml yn anodd iawn yn emosiynol. Maent yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal yma yng Nghymru. Dyna pam rwy'n falch ein bod ni wedi lansio ein strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl ddoe. Mae'r strategaeth honno'n amlinellu ein cefnogaeth bresennol i ofalwyr di-dâl ac yn edrych ymlaen at sut y gallwn wella cymorth i sicrhau bod pob gofalwr yn cael bywyd ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu. Mae'n nodi pedair blaenoriaeth genedlaethol ddiwygiedig i'w dilyn gan gynllun cyflawni manylach yr hydref hwn. Mae seibiant a gwyliau byr yn faes ffocws allweddol yn y strategaeth newydd honno.

Mae'r cymorth presennol i ofalwyr di-dâl, wrth gwrs, yn cynnwys cyllid o fewn y setliad llywodraeth leol i awdurdodau lleol allu cyflawni eu dyletswydd i gefnogi gofalwyr di-dâl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym hefyd yn darparu £1 filiwn o gyllid blynyddol i fyrddau iechyd lleol a'u partneriaethau gofalwyr, ynghyd ag arian sydd ar gael drwy'r gronfa gofal canolraddol. Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn parhau i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau, gan dargedu grwpiau allweddol, a all gynnwys darparu cymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol i ofalwyr. Mae hynny'n cynnwys cyfleoedd ar gyfer gwyliau byr. Rydym hefyd yn darparu cyllid i Gronfa'r Teulu i ddarparu grantiau i deuluoedd a phlant anabl ar gyfer seibiant a gwyliau byr ac eitemau eraill.

Yr wythnos hon, cyhoeddais y fframwaith clinigol cenedlaethol. Mae'n nodi sut y dylai gwasanaethau clinigol ddatblygu dros y degawd nesaf ac yn cadarnhau bod datganiadau ansawdd yn cael eu cyflwyno i bennu disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol. Mae'r fframwaith clinigol cenedlaethol yn disgrifio sut y bydd llwybr clinigol a rhaglenni cenedlaethol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, megis gofal diwedd oes, yn cefnogi gwell cynlluniau system a gwella ansawdd wrth ddarparu ein gwasanaethau. Bydd rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn cael ei sefydlu, unwaith eto gyda datganiad ansawdd lefel uchel ar gyfer datblygu gofal diwedd oes, a bydd hynny ynddo'i hun yn codi proffil gofal diwedd oes yn sylweddol o fewn ein byrddau iechyd ac yn sicrhau ffocws newydd ac atebolrwydd i'r agenda hon.

Er bod gwaith yn cael ei wneud, rwyf wedi ymestyn y cynllun cyflawni presennol ar gyfer gofal diwedd oes i fis Mawrth y flwyddyn nesaf, ynghyd ag £1 filiwn o gyllid i gefnogi ei weithrediad, tra bod y trefniadau newydd hynny'n cael amser i sefydlu a gwreiddio'n iawn. Bydd yr estyniad hwn yn caniatáu inni fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd a modelau gofal newydd y bu'n rhaid eu defnyddio yn ystod y pandemig, yn ogystal ag ystyriaeth o flaenoriaethau gan unrhyw Lywodraeth newydd yng Cymru. Byddai angen i unrhyw gynllun newydd ar gyfer darparu gofal diwedd oes gael ei lywio gan glinigwyr a lleisiau cleifion a chyd-fynd â'r weledigaeth a nodir yn y fframwaith clinigol cenedlaethol. Mae'r gwaith o ddatblygu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth hefyd yn parhau, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod hynny bellach yn destun ymgynghoriad wyth wythnos. Mae hwnnw'n nodi egwyddorion craidd a safonau gofynnol, ac unwaith eto fe'i cefnogir gan £1 filiwn o gyllid ychwanegol. Goruchwyliwyd y fframwaith hwnnw gan y grŵp llywio cenedlaethol ar brofedigaeth, sy'n cynnwys cynrychiolaeth o hosbisau ac elusennau profedigaeth plant a phobl ifanc ymhlith ei aelodau.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i rôl hanfodol ein holl staff hosbis, yn hosbisau oedolion a phlant, a'r gwaith y maent yn ei wneud yn darparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Yn benodol ar gyfer y ddadl hon, hoffwn gydnabod y cyfraniad a wnânt i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd sy'n byw gyda salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Rwy'n hynod ddiolchgar i bob un ohonynt am gynnal y gefnogaeth hanfodol hon drwy gydol y pandemig yn yr amgylchiadau mwyaf anodd. Gallaf sicrhau'r Siambr fod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel i oedolion a phlant. Byddwn yn parhau i weithio gyda hosbisau plant ac oedolion ledled Cymru i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw, gan gynnwys yr adolygiad, ac yna'r canlyniadau yn sgil cyflawni'r adolygiad o gyllid. Diolch, Lywydd.