Part of the debate – Senedd Cymru am 7:25 pm ar 24 Mawrth 2021.
Rwy'n eistedd mewn Siambr wag, bron yn wag. Byddai'n dda gennyf pe gallem fod wedi cael pob un ohonoch yma yn y Siambr y prynhawn yma, heno, i ffarwelio â'n gilydd ac i ddymuno pob lwc i'n gilydd, ond nid yw hynny i fod; dim ond fi a'r Dirprwy Lywydd heno. Rwyf am wahodd y rhai ohonoch sy'n dweud eich geiriau olaf yn y Senedd yn awr, ac rwy'n mynd i ddechrau drwy ofyn i chi rannu rhai o'ch sylwadau gyda ni, Suzy Davies.