Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch am hynna, Weinidog. Allaf i ofyn pa gynnydd sydd yna i ymdrin ag afiechyd meddwl mewn argyfwng, yn union fel rydyn ni'n ymdrin ag afiechyd corfforol mewn argyfwng? Efo trawiad ar y galon, er enghraifft, mae'r meddyg teulu'n gallu ffonio meddyg yn yr ysbyty yn uniongyrchol a chael mynediad brys y diwrnod hwnnw i'r claf ar fyrder. Roeddem ni'n gallu gwneud hynna efo salwch meddwl mewn argyfwng 20 mlynedd yn ôl, ond ddim rhagor. Rydyn ni wedi colli'r cysylltiad uniongyrchol rhwng y meddyg teulu a'r arbenigwr seiciatryddol yn yr ysbyty. Pa obaith sydd o adfer yr hen gysylltiad oesol?