Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Dai. Dwi'n gwybod bod lot fawr o waith wedi cael ei wneud o ran y gwasanaethau brys, a dyna ble dŷn ni wedi bod yn canolbwyntio ein gwaith ni ar hyn o bryd o ran iechyd meddwl. Achos beth oedd yn digwydd oedd ein bod ni mewn sefyllfa lle, pan oedd pobl yn codi'r ffôn, rhai o'r unig wasanaethau a oedd ar gael, yn arbennig ar ôl 5 o'r gloch yn y prynhawn, oedd gwasanaethau brys. Ac yn aml, nid yr heddlu neu hyd yn oed y gwasanaeth ambiwlans yw'r llefydd gorau i ymdrin â phethau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Dyna pam mae gwaith aruthrol wedi cael ei wneud eisoes, o dan ymbarél y concordat, i sicrhau ein bod ni'n edrych ar hwn mewn manylder, ein bod ni'n cydweithredu gyda'r trydydd sector, a bod yna ddarpariaeth mewn lle. Achos beth dŷn ni wedi ei sylweddoli oedd, o ran y rhan fwyaf o'r bobl a oedd yn dod mewn i'r gwasanaethau brys, efallai nad gwasanaeth iechyd meddwl, o ran iechyd meddwl pur, oedd ei angen arnyn nhw, ond efallai bod angen mwy o help cymdeithasol ac economaidd arnyn nhw. Felly mae'r gwaith yna'n cael ei wneud.
Byddwch chi, dwi'n siŵr, yn ymwybodol bod Bae Abertawe wedi bod yn cynnal peilot o ran un pwynt cyswllt ar gyfer iechyd meddwl, wrth ffonio'r rhif 111. A bydd hwnna nawr yn cael ei ehangu i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Yr un peth arall dwi'n meddwl sy'n werth ei danlinellu yw'r ffaith bod gyda ni gynllun nawr sy'n helpu i gludo pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Dyw hi ddim yn briodol, wrth gwrs, i gymryd pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl mewn car heddlu, er enghraifft. Dyna pam dŷn ni'n peilota rhaglen newydd yn y maes yma hefyd.