2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru ar 24 Mawrth 2021.
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl sy'n dioddef o orbryder yn dilyn y cyfyngiadau symud? OQ56488
Diolch yn fawr, Jack. Rydym wedi ymrwymo £4 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf i wella mynediad at gymorth anghlinigol ar gyfer materion iechyd meddwl lefel isel fel gorbryder, a bydd hyn yn adeiladu ar gyllid rydym wedi'i ddarparu eleni i wella cymorth, gan gynnwys cyflwyno therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom wedi siarad â phobl sy'n profi gorbryder am y tro cyntaf, pobl sy'n ansicr beth sy'n digwydd iddynt, ac yn bendant yn ansicr ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael iddynt. Ceir llawer o drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy, a ledled Cymru, nad ydynt wedi bod allan fawr ddim ers yr adeg hon y llynedd. Nid yn unig eu bod yn orbryderus am y coronafeirws, maent yn bryderus am fynd allan i'r byd. I rai, bydd y gorbryder yn fwy eithafol, ac mae'n ddigon posibl y bydd yn arwain at byliau o banig, rhywbeth nad wyf ond wedi'i brofi unwaith yn fy mywyd, yn fuan ar ôl i Dad farw, ac mae’ n rhywbeth na fyddwn yn ei ddymuno i unrhyw un. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn, ac i sicrhau bod y GIG wedi'i arfogi'n llawn i helpu pobl, hen ac ifanc, o bob cefndir, sy’n dioddef o orbryder, gan gynnwys y rheini na fyddent yn adnabod yr arwyddion a sut i ofyn am gymorth?
Diolch yn fawr, Jack. Diolch yn fawr iawn am bopeth rydych wedi'i wneud i hyrwyddo mater iechyd meddwl. Ers ichi fod yn y Senedd, rydych wedi bod yn un o hyrwyddwyr mwyaf blaenllaw'r mater hwn. Hoffwn bwysleisio fy niolch i chi am fod mor onest am rai o'r problemau rydych wedi brwydro yn eu herbyn. Diolch yn fawr, gan fod hynny'n helpu pobl i siarad amdano. Mae’n rhaid imi ddweud mai ychydig iawn o bethau cadarnhaol sydd wedi deillio o'r pandemig, ond credaf fod y ffaith bod pobl i'w gweld yn siarad am iechyd meddwl—y bydd y stigma, gobeithio, yn cael ei leihau o ganlyniad i hyn. Oherwydd, a dweud y gwir, ni all fod llawer o bobl sydd heb eu cyffwrdd gan orbryder mewn rhyw ffordd yn ystod y pandemig. Nid ydynt wedi gwybod a fyddant yn cadw eu swyddi, nid ydynt wedi gwybod a yw eu rhieni'n mynd i ddal y feirws, nid ydynt wedi gwybod a fydd eu plant yn dioddef o fod ar ei hôl hi'n academaidd—mae pob un o'r pethau hyn yn arwain at orbryder. Credaf y gall pawb gydymdeimlo â gorbryder erbyn hyn mewn ffordd nad oedd pawb yn ei wneud o'r blaen o bosibl. Felly, mae hynny'n glir.
Yr hyn rydym wedi ceisio’i wneud, Jack, yw sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ba gymorth sydd ar gael os ydynt yn cael pyliau o banig o'r fath. Yn amlwg, mae gennym linell gymorth iechyd meddwl CALL, sydd ar gael 24 awr y dydd. Rydym wedi rhoi mwy o gapasiti tuag at hynny. Fel y dywedaf, mae gennym y therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein. Ond un o'r pethau allweddol a oedd yn bwysig iawn i mi pan gefais fy mhenodi gyntaf oedd pa mor hawdd yw cael mynediad, gwybod i ble y gallwch fynd i gael mynediad at y pethau hyn. A’r hyn a welwch yn awr—rwy'n gobeithio bod yr holl Aelodau o’r Senedd wedi cael copi o'r e-bost a anfonais i sicrhau bod pawb yn gwybod bellach fod yn rhaid i bob bwrdd iechyd nodi’n gwbl glir pa gymorth sydd ar gael yn eu rhanbarth. Mae’n rhaid i hynny fod yn hygyrch mewn ffordd hawdd iawn. Felly, mae digon o gymorth ar gael, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn gwybod ble i fynd a chyfeirio at y cymorth hwnnw. Diolch yn fawr, Jack, am bopeth rydych wedi'i wneud ar y pwnc.
Roedd hwnnw'n ateb cynhwysfawr iawn, Weinidog. A gaf finnau achub ar y cyfle i ganmol Jack Sargeant am y gwaith aruthrol y mae wedi'i wneud ym maes iechyd meddwl, sydd mor bwysig, yn enwedig yn ystod misoedd y pandemig a'r cyfyngiadau symud? Roedd yn bleser gweithio gyda thad Jack, Carl Sargeant, yn y Senedd ar ystod o faterion. Roedd yn angerddol am y materion hynny ac rwy'n falch o weld bod Jack wedi parhau yn yr un modd i hyrwyddo materion sydd o bwys gwirioneddol i'r bobl yn ein cymunedau.
Weinidog, fel rydych newydd awgrymu, mae'n debygol y byddwn yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl cymunedol i'r rheini sy'n dioddef yn sgil gorbryder ac iselder, fel un o ganlyniadau pwysig y pandemig mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd, ac yn ôl pob golwg, gallai hynny barhau am beth amser, ac arwain at gost sylweddol. Pa drafodaethau rydych wedi'u cael gydag is-gadeiryddion byrddau iechyd lleol ledled Cymru, neu'n wir, gyda'r Gweinidog iechyd, gan gysylltu â'r byrddau iechyd hynny—y rheini sy'n gyfrifol am iechyd meddwl cymunedol a gofal sylfaenol—i sicrhau y bydd gwasanaethau lleol y GIG yn cael y ffocws sydd ei angen arnynt? Oherwydd yn amlwg, nid yn unig eu bod wedi bod o dan straen yn ystod y pandemig, ond byddant o dan straen am beth amser i ddod, wrth geisio ymdopi â chanlyniadau’r cyfnod heriol hwn.
Diolch yn fawr, Nick. Yn sicr, mae’r cymorth iechyd meddwl cymunedol hwnnw’n gwbl hanfodol, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio rhoi’r cymorth hwnnw, cyn belled ag y bo modd, mor agos at adref â phosibl, oherwydd, yn gyffredinol, nid yw cymorth iechyd meddwl yn rhywbeth y gallwch ei ddatrys unwaith ac am byth; mae'n rhaid ichi gael perthynas barhaus, mae'n rhaid ichi barhau i weithio arno. Dyna pam fod rhoi’r cymorth hwnnw yn y gymuned yn llawer mwy gwerthfawr, a dyna’n sicr rydym yn ceisio’i wneud.
Rwyf wedi cyfarfod â'r is-gadeiryddion ar fwy nag un achlysur bellach ers imi gael fy mhenodi i'r rôl hon, ac rwyf wedi dweud yn gwbl glir wrthynt i ba gyfeiriad yr hoffwn weld pethau'n mynd. Un yw bod gwir angen inni ddargyfeirio mwy o arian i gymorth haen 0—y cymorth cynnar iawn hwnnw—fel nad ydym yn gweld y problemau hyn yn datblygu ac yn dod yn fwy cymhleth ac yn anos eu trin. Felly, mae cymorth cynnar yn gwbl hanfodol. Yr ail beth yw bod gwir angen inni ddargyfeirio mwy o arian tuag at gefnogi plant a phobl ifanc fel cyfran o'r gyllideb. Felly, dyna'r ddwy neges rwyf wedi'u cyfleu’n gwbl glir i'r is-gadeiryddion, yn ogystal, wrth gwrs, â thanlinellu eu cyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl wasanaethau hyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Hoffwn i ddiolch i Jack Sargeant hefyd am roi cwestiwn mor bwysig gerbron, a thalu teyrnged i'w dad, Carl Sargeant, a oedd wedi fy helpu i pan wnes i gael nifer o broblemau gyda gorbryder yn sgil perthynas negyddol a dinistriol yn y gorffennol. Roedd e wedi bod yn gefn i fi, a heb ei gefnogaeth e, dwi ddim yn credu y buaswn i wedi dod mas mor gadarn ag yr ydw i wedi dod dros y blynyddoedd.
Ond mae fy nghwestiwn i ar anhwylderau bwyta. Dwi wedi treulio fy ngyrfa i gyd yn ymgyrchu ar anhwylderau bwyta, a dŷn ni wedi clywed gan Beat Cymru, sydd wedi gwneud gwaith clodwiw yn y maes yma, fod anhwylderau bwyta wedi tyfu yn ystod COVID. Mae'r gorbryder yna, eu bod nhw'n teimlo fel nad yw rhai o'r gwasanaethau ar gael iddyn nhw, eu bod nhw ddim yn cael y gefnogaeth sy'n angenrheidiol iddyn nhw, yn rhywbeth sydd yn ddybryd ar hyn o bryd. Dwi'n deall beth rydych yn ei ddweud, Weinidog, ynglŷn â siarad am iechyd meddwl, ond mae pobl wedi cael digon o siarad hefyd; maen nhw eisiau gweithredu. Ac mae yna ddiffyg gwasanaethau ar lawr gwlad i bobl sydd â llu o broblemau iechyd meddwl gwahanol.
Fy apêl i chi, ar fy niwrnod olaf i yn y Senedd, yw sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn gwella i'r dyfodol, fel nad yw pobl yn gorfod cael gwasanaethau preifat yn y dyfodol, fel nad ydyn nhw'n gorfod teimlo fel bod eu bywyd nhw mor wael eu bod nhw eisiau dod â'u bywyd nhw i ben, fel bod mamau newydd yn gallu cael y gefnogaeth sydd yn angenrheidiol iddyn nhw. Dyna yw fy apêl i chi fel Llywodraeth nawr ac i unrhyw lywodraeth sydd yn dod gerbron ym mis Mai.
Diolch yn fawr, Bethan, a diolch am bopeth rwyt ti wedi ei wneud yn y maes yma. Dwi'n gwybod bod hwn yn rhywbeth rwyt ti wedi bod yn ymgyrchu arno fe ers sbel. Yn sicr, un o'r pethau dwi'n poeni amdano yw'r ffaith ein bod ni, yn arbennig ym maes anhwylderau bwyta, wedi gweld cynnydd yn ystod y pandemig. Mae hwn yn rhywbeth dwi wedi gofyn i fy nhîm i ffocysu arno fe.
Mae'n rhaid inni ddeall bod hyn wedi bod yn fwy o broblem. Rydyn ni wedi rhoi mwy o arian mewn iddi yn ystod y pandemig, ond dwi wedi gofyn i weld os oes angen inni roi fwy o arian i mewn iddi, achos dwi yn poeni am y sefyllfa yma. Beth sy'n hollol glir gyda'r anhwylder yma yw bod yn rhaid i chi ymyrryd yn gynnar. Os nad ydych yn ymyrryd yn gynnar, mae'r problemau yn gallu bod yn rili difrifol, ac felly, unwaith eto, yr ateb, o'm safbwynt i, yw sicrhau bod yr arian yna ar gael ar gyfer mudiadau fel Beat, sydd yn gwneud gwaith mor anhygoel.
Un o'r pethau mae'n rhaid inni ei sicrhau yw bod mwy o bobl ar lefel primary care yn fodlon anfon pobl at Beat tra'u bod nhw'n aros, efallai, i weld rhywun yn y gwasanaeth iechyd os oes yna unrhyw broblemau o ran aros am amser hir. Mae'n rhaid inni gael yr ymyrraeth gynnar yna tra bod pobl yn aros a dyw hwnna ddim wastad yn gweithio. Unwaith eto, dwi wedi gofyn bod hwnna yn cael ei wneud.
Ond dwi eisiau diolch i ti hefyd, Bethan, am bopeth rwyt ti wedi'i wneud o ran gofal perinatal ac iechyd meddwl hefyd. Dwi'n gwybod dy fod ti wedi gwneud gwaith arbennig yn y maes yma a diolch yn fawr i ti am bopeth rwyt ti wedi'i wneud yn ystod y Senedd. Mae wedi bod yn gyfnod hir iawn i ti a dwi'n gwybod dy fod ti wedi rili cael effaith aruthrol ar y Senedd yma, a diolch am bopeth rwyt ti wedi'i wneud.