Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:51, 24 Mawrth 2021

Felly, gobeithio y caiff o weld golau dydd ac y gwnawn ni weld yn union beth ydy'r argymhellion ar gyfer cyfeiriad y gwaith yma i'r dyfodol.

Jest i droi yn olaf at yr angen, rydw i'n credu, am strategaeth gwbl newydd ar gyfer y celfyddydau a'r sector diwylliannol yng Nghymru, dwi'n meddwl y bydd cynnal diwydiant creadigol bywiog ac arloesol efo cefnogaeth dda yn helpu Cymru i addasu i'r dirwedd ôl-COVID-19 mewn sawl ffordd. Ond y broblem ar hyn o bryd ydy bod adrannau'r Llywodraeth yn gweithio mewn seilos, ac, wrth symud at y Senedd nesaf, mae angen i'r celfyddydau, ein hiaith ni, yr iaith Gymraeg, a'n treftadaeth ni fod yn bwysig ar draws Llywodraeth, ac mae angen gosod y materion yma—y Gymraeg, y celfyddydau, diwylliant, chwaraeon—wrth wraidd polisi cyhoeddus a gweithredu gan Lywodraeth ganol a llywodraeth leol a'u tynnu nhw i mewn i ddatblygu economaidd, maes iechyd, addysg, yr amgylchedd ac yn y blaen. Ydych chi, felly, yn cytuno, o ran y celfyddydau yn benodol, fod angen cyfeiriad strategol, holistaidd, newydd a chynhwysol er mwyn datblygu’r sector yma i fod yn wirioneddol wrth wraidd popeth mae'r Llywodraeth yn ei wneud?