Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Siân. Fel ŷch chi'n ymwybodol, mi wnaethon ni gomisiynu hwn cyn i'r pandemig daro, ac, yn amlwg, os oes yna unrhyw beth wedi cael ei effeithio gan y pandemig, digwyddiadau mawr yw hynny. Felly, i raddau, rhan o'r broblem yw y gwnaeth lot o'r adroddiad gael ei ysgrifennu cyn y pandemig, ac felly, yn amlwg, mae angen addasu nawr yn wyneb beth sy'n digwydd gyda'r pandemig, achos mae'r help sydd ei angen ar y sector nawr yn hollol wahanol i beth fyddai wedi bod ei angen cyn y pandemig. Felly, rŷn ni wedi gofyn i'r awdur ystyried hynny ac, felly, mae’r adroddiad yn dal i fod yn nwylo'r awdur, ac rŷn ni'n aros i'r awdur ddod nôl atom ni o hyd cyn ein bod ni'n gallu cyhoeddi'r adroddiad yna. Ond dwi'n gobeithio—. Dwi wedi bod yn pwyso i gael yr adroddiad yna wedi cael ei gyhoeddi ers tipyn nawr.