Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:49, 24 Mawrth 2021

I droi at faes arall sydd yn rhan o'ch dyletswyddau chi, sef digwyddiadau mawr, dwi ar ddeall fod y Llywodraeth wedi comisiynu adroddiad annibynnol am y strategaeth digwyddiadau mawr. Dwi'n deall bod gwaith wedi cychwyn ymhell cyn i'r pandemig ein taro ni a'i fod o wedi cael ei gwblhau hefyd ond nad ydy'r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi. Fedrwch chi egluro pam nad ydy'r adroddiad wedi'i gyhoedd ac a fedrwch chi roi rhyw fath o flas o beth oedd yn yr adroddiad yna? Ac a fyddwch chi yn ei gyhoeddi fo—rydw i'n gwybod nad oes llawer o amser ar ôl rŵan cyn y cyfnod etholiad—neu a fydd yr adroddiad yma yn aros ar y silff i gasglu llwch?