Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch, unwaith eto, Lywydd. Unwaith eto, gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore Llun, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys pedwar pwynt rhinweddau, y bydd rhai ohonynt, wrth gwrs, yn gyfarwydd i'r Aelodau.
Mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn nodi bod y rheoliadau hyn yn cynnwys hawliau landlord o dan erthygl 1 o brotocol 1 y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. A nodwn fod eithriadau wedi'u cynnwys yn y rheoliadau sy'n caniatáu troi allan mewn rhai amgylchiadau; dim ond am gyfnod penodedig y caiff y rheoliadau eu gwneud; maent i'w hadolygu ar sail cylch tair wythnos rheolaidd; ac fe'u gwneir yng nghyd-destun yr argyfwng iechyd presennol. Yn ogystal, nodwn hefyd ystyriaeth y Llywodraeth o gymesuredd y rheoliadau hyn yn y memorandwm esboniadol.
Mae ein hail bwynt rhinweddau'n nodi na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac mae ein trydydd pwynt rhinweddau'n nodi nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi. Wrth wneud ein trydydd pwynt, rydym yn tynnu sylw at y ffaith bod y memorandwm esboniadol yn ceisio nodi crynodeb o effaith bosibl y rheoliadau, sy'n darparu rhywfaint o asesiad ansoddol o'u heffaith.
Mae ein pedwerydd pwynt rhinweddau, a'r pwynt terfynol, yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau hyn yn ychwanegu tua 12 wythnos at y cyfnod o amser na fydd landlord yn gallu ceisio meddiant o'u heiddo am fethu talu rhent. Felly, ynghyd â rheoliadau blaenorol a basiwyd ym mis Ionawr 2021 ac ym mis Rhagfyr 2020, rydym yn tynnu sylw at y ffaith y bydd landlordiaid wedi cael eu hatal rhag adfer meddiant oherwydd methiant i dalu rhent am gyfnod sylweddol o amser. Gall ôl-ddyledion rhent gael effaith economaidd andwyol sylweddol ar rai landlordiaid, ac o'r herwydd, nodwn fod y memorandwm esboniadol yn cynnwys asesiad y Llywodraeth o'r risg hon. Diolch, Lywydd.