– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 24 Mawrth 2021.
Felly eitem 7 yw'r eitem nesaf, y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar y Biliau cydgrynhoi. A dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i symud y cynnig yn ffurfiol. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7668 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog 26C newydd, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw, i gyfrannu.
Ac rwy'n croesawu'r cynnig, a fydd, os caiff ei dderbyn, yn rhoi gweithdrefnau ar waith a fydd yn galluogi'r Senedd ymhellach i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Dechreuodd ein pwyllgor ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cydgrynhoi cyfraith Cymru yn gynnar yn 2017. Buom yn craffu ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru), cyn iddo gael ei basio gan y Senedd hon ym mis Gorffennaf 2019. Yn anad dim, mae'n gosod dyletswydd ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru i baratoi o leiaf un rhaglen ar gyfer pob Senedd, gan ddechrau gyda'r chweched, a fydd yn cynnwys gweithgareddau y bwriedir iddynt gyfrannu at broses o gydgrynhoi cyfraith Cymru.
Mae cael gweithdrefn Rheol Sefydlog a fydd yn hwyluso'r broses o gyflwyno a chraffu ar Filiau cydgrynhoi o'r fath yn rhan hanfodol o'r broses o wella llyfr statud Cymru. O ystyried ein rôl yn craffu ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru), ymgynghorodd y Pwyllgor Busnes â ni ar fersiwn ddrafft o'r Rheol Sefydlog. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am ei ymateb i'r sylwadau a ddarparwyd gennym yn ein gohebiaeth yn 2019.
Felly, gan droi at y Rheol Sefydlog arfaethedig ei hun, dylai cydgrynhoi ymwneud yn unig â'r gyfraith sy'n bodoli eisoes. Tynnaf sylw'r Aelodau at baragraff 24 yn adroddiad y Pwyllgor Busnes, sy'n crynhoi cyrhaeddiad y Rheol Sefydlog 26C.2 arfaethedig, a'r hyn y caiff Bil cydgrynhoi ei wneud. Fe wnaethom nodi nifer o bwyntiau mewn perthynas â'r rhan benodol hon o'r Rheol Sefydlog pan ysgrifenasom at y Pwyllgor Busnes. Rwy'n croesawu'r cadarnhad gan y Pwyllgor Busnes y bydd rôl glir a phwysig i bwyllgor cyfrifol y Senedd asesu a barnu'r hyn sy'n briodol ac o fewn paramedrau'r Rheol Sefydlog 26C.2 arfaethedig. Bydd cydgrynhoi cyfraith Cymru yn dasg sylweddol, ac ni ddylid bychanu rôl y pwyllgor cyfrifol a'r gwaith sydd ynghlwm wrth hyn.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at y posibilrwydd o weld dau Fil cydgrynhoi yn mynd rhagddynt ochr yn ochr fel pecyn, rhywbeth sydd wedi'i ddogfennu yn adroddiad y Pwyllgor Busnes. Y cyntaf fyddai prif Fil cydgrynhoi, a byddai ail Fil yn cynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes yng ngoleuni'r prif Fil. Byddai angen i gyfnodau diwygio ar gyfer dau Fil ddigwydd yn olynol, a rhagwelir y byddai'r Biliau hyn yn llwyddo neu'n methu gyda'i gilydd.
Yn ein gohebiaeth â'r Pwyllgor Busnes, fe wnaethom gydnabod sylwadau a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol y bydd yna broses o ddysgu wrth i'r Biliau cydgrynhoi cyntaf gael eu cyflwyno. Cytunwyd â'r Cwnsler Cyffredinol y dylid adolygu'r weithdrefn ar ôl i'r Senedd graffu ar y Bil cydgrynhoi cyntaf, er mwyn sicrhau bod y Rheolau Sefydlog a'r gweithdrefnau'n addas at y diben a fwriadwyd ar eu cyfer.
A hoffwn gloi fy nghyfraniad drwy ddweud nad yw hygyrchedd llyfr statud Cymru yn fater sydd ond yn effeithio arnom ni fel Aelodau wrth inni ymgymryd â'n dyletswyddau yma. Bydd gwella hygyrchedd cyfraith Cymru'n helpu ymarferwyr cyfreithiol sy'n gweithio yng Nghymru, ond hefyd, mae hygyrchedd y gyfraith a mynediad at gyfiawnder yn mynd law yn llaw. Diolch, Lywydd.
Rwy'n falch ein bod yn trafod yr eitemau niferus hyn ar y Rheolau Sefydlog ar wahân. Ni ofynnais am hynny drwy ddynodi gwrthwynebiad i'w grwpio er mwyn ymestyn y pumed Cynulliad yn ddiangen—rydym am weld y Cynulliad yn cael ei ddiddymu, nid ei barhau'n artiffisial ac yn ddiangen. Felly, rwy'n credu, serch hynny, fod llawer o'r Rheolau Sefydlog hyn yn rhai o sylwedd, a cheir ystod o faterion gwahanol sy'n haeddu dadleuon ar wahân yn fy marn i. Ac rwy'n credu bod dogfennau rhagorol wedi'u paratoi hefyd ar gyfer y Pwyllgor Busnes ar bob un ohonynt sydd hefyd yn haeddu sylw.
Ar gydgrynhoi, roeddwn yn meddwl i ddechrau fod cydgrynhoi'r gyfraith yn beth synhwyrol a heb fod yn ddadleuol iawn, mae'n debyg. Ac wrth gwrs, mae darpariaethau ar gyfer cydgrynhoi cyfreithiau yn San Steffan. Fodd bynnag, ar ôl ystyried ymhellach, nid wyf yn credu bod hynny'n wir bellach, a chredaf yn un peth y bydd y Rheol Sefydlog hon ar gydgrynhoi yn hwyluso'r llwybr at fwy o ddeddfu gan y lle hwn, ac nid wyf yn cefnogi hynny.
Cyfeiriodd Cadeirydd y pwyllgor at bwysigrwydd cydgrynhoi cyfraith Cymru, ond wrth gwrs, nid oes gennym awdurdodaeth ar wahân yng Nghymru. Mae gennym gyfraith Cymru a Lloegr, fel y'i cymhwysir yng Nghymru. A chredaf fod y pwynt hwnnw'n codi amheuon am lawer o'r pwyntiau eraill rwyf wedi'u gwneud ynghylch pam y mae hyn yn beth sydd mor amlwg yn dda i'w wneud a heb fod yn ddadleuol, i gynorthwyo defnyddwyr a gwella mynediad at gyfiawnder a hygyrchedd, ac yn y blaen.
Ym mhapur y Pwyllgor Busnes, credaf fod paragraff 2 yn cyflwyno'r achos o'r ochr arall yn eithaf da. Mae'n cyfeirio at y ffaith bod Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad wedi ystyried hyn yn ei adroddiad 'Deddfu yng Nghymru'. Cawn ddiffiniad o gydgrynhoi, neu o leiaf ddisgrifiad o gydgrynhoi'r gyfraith fel,
'mynd i'r afael â darn o gyfraith sydd wedi dadfeilio oherwydd yr haenau o ddiwygiadau ac addasiadau a wnaed iddo, a llunio un testun glân, yn unol â'r arfer cyfoes gorau.'
Nawr, nid wyf yn siŵr a yw hynny'n wir. Yn amlwg, wrth i gyfreithiau gael eu diwygio a newidiadau'n cael eu gwneud, a diwygiadau ac addasiadau, gall hynny gynyddu cymhlethdod, a gall wneud y cyfreithiau'n anos i'w defnyddio, ar gyfer ymarferwyr cyfreithiol ac o ran hygyrchedd i'r cyhoedd, ond yn aml mae hynny'n ffactor o gymhlethdod cynyddol y gyfraith, yn hytrach nag adlewyrchu, o reidrwydd, ei fod yn dod o wahanol statudau neu wahanol leoedd. Wrth i hynny ddigwydd, wrth gwrs, mae'n cynyddu'r risg o amwysedd neu wrth-ddweud, ond i'r graddau fod hynny'n digwydd, daw cydgrynhoi'r gyfraith yn broses ddadleuol oherwydd ei bod o bosibl yn datrys neu o leiaf yn dylanwadu ar yr amwysedd a'r gwrth-ddweud. A phan ddywed y pwyllgor y byddai'n arwain at un testun glân, nid wyf yn credu bod hynny'n wir yng nghyd-destun datganoli, a chyd-ddatganoli.
Yr hyn y byddai'n arwain ato, yn y rhan fwyaf o feysydd, yw testun i Gymru ac ystod wahanol o destunau ar gyfer mannau eraill yn y DU, neu o leiaf ar gyfer Lloegr, a dros amser daw'n bosibl y bydd dehongliad o'r ddau gorff cyfraith gwahanol yn dod yn wahanol, neu ei bod yn anodd iawn bod yn siŵr eich bod yn edrych ar y gyfraith gywir o ran y gyfraith achosion, oherwydd os oes gennych farnwr sy'n dehongli pethau mewn ffordd benodol, ond sy'n gwneud hynny yng Nghymru, nid yw'n glir a yw hynny wedyn yn cael ei nodi gan farnwyr yn Lloegr sy'n dehongli cyfraith Cymru a Lloegr fel y bo'n gymwys i Loegr. Ac wrth gwrs, mae llawer mwy o ddehongli o ran maint y gwaith yn digwydd yn Lloegr. Ac os cydgrynhoir, neu y cyfeirir at y pethau hynny o'r ddeddfwriaeth flaenorol, gall fod yn heriol iawn i'r cyfreithwyr a'r ymarferwyr olrhain y newidiadau hynny'n ôl i'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru, ac a yw'r newidiadau hynny—. Efallai fod rhai ohonynt yn rhwymol, ond maent wedi'u gwneud gan gyfeirio at statudau eraill a darpariaethau eraill sydd, i bob golwg, wedi'u cydgrynhoi'n un testun glân, ond nid yw'n un testun glân oherwydd bod y gyfraith yn parhau i fodoli fel yr oedd yn Lloegr. Ac mae hynny, i mi, yn bwrw amheuaeth ar hyn oll, a bwriadwn wrthwynebu'r Rheol Sefydlog newydd hon i hwyluso'r llwybr at y math hwn o ymddygiad deddfwriaethol pellach.
Diolch. Does gyda fi ddim mwy o siaradwyr ar yr eitem yna. Felly, y cynnig yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau cydgrynhoi. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.