Part of the debate – Senedd Cymru am 11:11 am ar 12 Ebrill 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Estynnaf ar ran grŵp Plaid Cymru yn Senedd Cymru fy nghydymdeimladau dwysaf i’r Frenhines Elizabeth a’i theulu yn eu profedigaeth. Mae’n bwysig cofio, fel sydd eisoes wedi cael ei nodi, yng nghanol yr holl alaru swyddogol, mai sôn ydym am wraig sydd wedi colli gŵr, a gwagle diamgyffred wedi ymagor ar ôl amser maith ynghyd. Mewn blwyddyn o golled anferthol, mae ein tawelwch heddiw er cof ac er parch i’r teulu brenhinol yn eu tristwch nhw hefyd yn symbol ingol o’n cydalaru â phawb a gollodd anwylyd yn y flwyddyn anoddaf hon.
Yr ydym yma hefyd nid yn unig i alaru ond i ddiolch i’r Tywysog Philip am gyfraniad ei fywyd. Un o ymrwymiadau mwyaf y Tywysog oedd i bobl ifainc, fel yr ydym eisoes wedi clywed. Mi oedd y cyfraniad hwnnw yn arbennig yng nghyd-destun addysg antur awyr agored, sector sydd wedi wynebu heriau eleni, wrth gwrs, a sector lle mae yna gysylltiad Cymreig agos a gwreiddiau cyn hired bron â bywyd y Tywysog ei hun. Mi oedd Philip, fel sydd yn adnabyddus, yn ddisgybl yn nwy o ysgolion yr addysgwr enwog Almaenig, Kurt Hahn, yn gyntaf yn ysgol Schloss Salem yn Baden-Württemberg, ac yna, ar ôl dyfodiad y Natsïaid i rym, yn Gordonstoun yn yr Alban. Craidd gweledigaeth Hahn oedd yr angen i roi cyfle i bob person ifanc wireddu eu potensial. 'Mae mwy ynot nag wyt yn amgyffred' oedd yr arwyddair enwog a fabwysiadwyd ganddo. Canolbwynt ei ddynesiad oedd pwysleisio dysgu drwy brofiad, nid ffeithiau addysg academaidd cul, drwy brojectau ymarferol neu'n well fyth anturiaethau yn yr awyr agored, ar dir a môr, i fagu cymeriad a gwreiddio’r syniad o arwain drwy wasanaethu eraill. Mi oedd y syniadaeth wedi dylanwadu'n gryf ar fyd-olwg a bywyd y Tywysog Philip.
Ym 1941, pan aeth Kurt Hahn ymlaen i sefydlu yr hyn a adnabyddir nawr fel y ganolfan anturiaeth awyr agored gyntaf yn y byd yn Aberdyfi, a drodd wedyn yn gartref mudiad byd-eang yr Outward Bound, Philip oedd un o’i gefnogwyr mwyaf brwd. A hynny yn ei dro oedd wrth wraidd yr ysbrydoliaeth ar gyfer cynllun Gwobr Dug Caeredin, a roddodd y cyfle i lawer iawn mwy o bobl ifainc wireddu eu potensial na fuasai yn medru mynychu'r ysgolion democrataidd eu naws, ond elitaidd eu natur a sefydlwyd gan Hahn, gan gynnwys, wrth gwrs, Coleg yr Iwerydd yma yng Nghymru, y templed i rwydwaith byd-eang heddiw o 200 o ysgolion. Mi fyddai Dug Caeredin, oedd yn bresennol wrth agor y Senedd hon yn swyddogol ac sydd nawr yn destun ein sesiwn olaf, yn gwerthfawrogi’r ffaith mai’r Ddeddf olaf a basiwyd yn y pumed Senedd oedd un wnaeth orseddu blaengaredd addysgol Hahn, a grisialwyd dros hanner canrif yn ôl yn y fagloriaeth ryngwladol, yn y cwricwlwm newydd yng Nghymru, a’i bwyslais ar greadigedd, ar gyd-ddysgu a dysgu trwy brofiad.
Yma i wneud cyfraniad yr ydym oll, yn unol â’n gallu a’n gwerthoedd, a'r cyfraniad pennaf yw gwasanaethu eraill. Dyma'r neges graidd a gymerodd y Tywysog Philip yn gwmpawd i'w fywyd. Mae'n wers sy'n werth myfyrio arni, boed ifanc neu hen, boed yn dywysog neu'n werinwr. Nid teitl na statws na choron hyd yn oed yw gwaddol pwysicaf y Tywysog Philip a ddathlwn heddiw ond y cymorth a gynigiodd i eraill. Diolchwn iddo am ei gyfraniad. A diolchwn am yr holl gyfraniadau cyffelyb gan y rhai o'i genhedlaeth yntau ac iau y collasom eleni yng Nghymru a thu hwnt. Boed iddyn nhw oll huno mewn hedd perffaith.