Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 12 Mai 2021.
Mae Senedd sy'n gwbl gytbwys rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid yn gwneud cydweithrediad gwleidyddol ar draws ffiniau pleidiau nid yn unig yn ddymunol ond yn angenrheidiol, ac rydym yn barod, ym Mhlaid Cymru, i ddod o hyd i dir cyffredin er budd y bobl sydd wedi ethol pob un ohonom i'r Senedd hon. Byddwn yn gweithio gyda'r Llywodraeth lle bo'n bosibl, a chyda'r gwrthbleidiau lle bo angen, mewn ysbryd o Gymru unedig, lle mae'r pethau sy'n ein huno yn aml yn llawer pwysicach, yn llawer mwy parhaus, na'r pethau sy'n ein rhannu.
Mae'r Prif Weinidog wedi ennill mandad i barhau ei Lywodraeth, ond nid oes mandad, ac yn sicr ni ddylai fod mandad, i barhau â newyn plant, i barhau â digartrefedd, tlodi bwyd a thanwydd, cyflogau tlodi, yr argyfwng ym maes tai, ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl. Canlyniad yr etholiad oedd status quo gwleidyddol, ond ni all fod—rhaid iddo beidio â bod—yn status quo cymdeithasol, yn status quo economaidd. A does bosibl nad yw hynny, yn fwy na dim, yn wir. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at genedlaethau'r dyfodol; rydym ni, yn unigryw ymhlith gwledydd y byd, wedi rhoi buddiannau cenedlaethau'r dyfodol ynghanol ein gwleidyddiaeth a'n cyfansoddiad. Dyma'r egwyddor sy'n tanio ein Llywodraeth. A does bosibl nad un maes lle na allwn dderbyn y status quo yw tlodi plant—staen foesol, staen foesol ar unrhyw genedl, ac yn sicr ar economi ddatblygedig fel ein hun ni yng Nghymru, lle mae bron i un o bob tri o'n plant yn byw mewn tlodi. Fel y dywedodd cyn-arweinydd y Blaid Lafur yn ddiweddar, mae tlodi i unrhyw un yn sgandal, ond mae tlodi plant yn drosedd. Felly, a gawn ni i gyd wneud datganiad, ar draws ffiniau pleidiau, y byddwn yn cydweithio i gael gwared ar y drosedd hon a'i diddymu yng Nghymru?
Ac rwy'n annog y Prif Weinidog—. Ac, yn anghonfensiynol, talais deyrnged iddo droeon drwy gydol yr etholiad, oherwydd rwy'n credu'n onest ei fod yn ddiffuant. Pan fydd yn sôn am fod yn radical ac yn uchelgeisiol, rwyf eisiau iddo lwyddo. Rwyf o ddifrif am iddo lwyddo. Ac a gaf fi ei annog—a gaf fi ei annog i edrych ar draws yr Iwerydd ar hyn o bryd, i edrych ar Lywodraeth Biden, sy'n drydanol yn fy marn i yn ei hymrwymiad i ddangos sut y gall gwleidyddiaeth fod yn gyfrwng ar gyfer newid trawsnewidiol? Mae wedi gosod nod, mawredd mawr, i dorri lefelau tlodi plant yn eu hanner o fewn blwyddyn yn Unol Daleithiau America. Ac mae wedi—. Ceir atseiniau o Gymdeithas Fawrfrydig LBJ a Bargen Newydd FDR. Dyna wleidyddiaeth uchelgais radical y mae Cymru'n galw amdani, a dyna'r arweiniad sydd ei angen arnom gan Lywodraeth newydd Cymru—nid petruso, nid hanner camau. Mae newid yn mynd i ddigwydd beth bynnag, boed ar ffurf awtomeiddio neu newid hinsawdd. Rhaid inni osod ein newid cadarnhaol ein hunain yn yr agenda a welwn wrth wraidd ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru. Mae yna uwchfwyafrif dros hunanlywodraeth yn y Senedd hon, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Gadewch inni adeiladu uwchfwyafrif hefyd dros gyfiawnder cymdeithasol a chynnydd economaidd. Os bydd y Prif Weinidog a'r Llywodraeth newydd yn rhoi hynny wrth wraidd eu gwleidyddiaeth, yna fe welant blaid ar y meinciau hyn sy'n barod i gefnogi nid yn unig y nod, ond y modd o'i gyrraedd hefyd.