Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 12 Mai 2021.
Diolch, Llywydd, a gaf i ddechrau trwy eich llongyfarch chi ar gael eich ethol fel Llywydd? Mae'n dda i weld aelod o Blaid Cymru yn ennill o leiaf un etholiad y prynhawn yma, ond gaf i hefyd estyn yr un llongyfarchiadau i David Rees, ac, wrth gwrs, estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Mark Drakeford ar gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog y prynhawn yma? Fel y dywedais i ar ôl canlyniad yr etholiad, gwnaeth Mark Drakeford sicrhau mandad i arwain Llywodraeth Cymru dros y cyfnod sy'n dod, a hoffwn i yn ddiffuant ddymuno yn dda iddo fe wrth ddelio â heriau a chyfleoedd y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
O safbwynt Plaid Cymru, dwi'n hynod falch o'r tîm egnïol ac ymroddedig sydd gennym ar ein meinciau ac yn ymuno â ni'n rhithiol heddiw, wrth gwrs, a'r syniadau newydd a blaengar fyddan nhw'n dod â nhw i'r chweched Senedd ac i wleidyddiaeth Cymru yn fwy cyffredinol. Dwi am gymryd y cyfle hefyd i dalu teyrnged ac i ddiolch i Leanne Wood, Helen Mary Jones, Dai Lloyd a Bethan Sayed am eu gwaith a'u gwasanaeth cyhoeddus dros nifer o flynyddoedd i wasanaethu eu cymunedau a democratiaeth Cymru. Bydd y chweched Senedd yn dlotach lle hebddyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio gyda fy nghyd-Aelodau wrth inni barhau i adeiladu'r achos dros annibyniaeth ac, wrth gwrs, i barhau i graffu, yn adeiladol ond yn gadarn, ar ymateb COVID Llywodraeth Cymru wrth inni symud i gyfnod adfer o'r pandemig. Byddwn ni'n edrych am bob cyfle i weithio yn y Siambr yma a thu allan iddi i weithredu ein rhaglen drawsnewidiol ac i fod yn llais i obeithion a dyheadau'r cymunedau sydd wedi ein hethol ni yma i'w cynrychioli nhw.
Mae'n teimlo fel petawn ni'n dychwelyd i Senedd sydd yn fwy hyderus yn ei chroen ei hun, ac mae'r Senedd sydd wedi ei hethol yn dangos bod pobl Cymru wedi pleidleisio o fwyafrif llethol o blaid hunanlywodraeth, ac wedi rhoi ei ffydd mewn Llywodraeth Gymreig a Senedd Gymreig i wneud y penderfyniadau pwysicaf am eu bywydau, gan gynnwys eu cadw nhw'n ddiogel a gwarchod eu hiechyd. Safodd y Prif Weinidog ar blatfform oedd yn dweud bod y Deyrnas Unedig ar ben a bod angen ailstrwythuro a diwygio cyfansoddiadol pellgyrhaeddol, gyda mwy o bwerau i Gymru. Dyna ei fandad, a byddwn ni'n ei ddal i'r ymrwymiad yna. Dim ond ddoe gwelson ni Michael Gove yn gwrthod yr alwad am home rule, ymreolaeth, er gwaethaf y bleidlais o hyder gan bobl Cymru yn y lle yma. Megis dechrau mae ymosodiad San Steffan ar ddatganoli. Wrth i'r Deyrnas Unedig ddatgymalu dros y blynyddoedd sy'n dod, rydyn ni ym Mhlaid Cymru mor grediniol ag erioed bod angen Cymru newydd, Cymru unedig, Cymru rydd, Cymru gydradd, lle bydd dyfodol Cymru yn nwylo Cymru, a dyma'r gwir lw rydyn ni fel Aelodau o Blaid Cymru wedi tyngu wrth gymryd ein seddi yn ein Senedd genedlaethol fan hyn.