Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 19 Mai 2021.
A dyna’r rheswm pam, wrth gwrs, Lywydd, y bydd y Llywodraeth newydd hon yn sicrhau bod yr amgylchedd, colli bioamrywiaeth a’r newid yn yr hinsawdd yn cael lle canolog yn ein penderfyniadau, wedi'u dwyn ynghyd mewn un weinyddiaeth, a fydd yn dod â'r holl brif ysgogiadau ym maes newid hinsawdd at ei gilydd. Gyda'i gilydd, bydd gan Weinidog a Dirprwy Weinidog—Julie James a Lee Waters—gyfrifoldeb am dai, trafnidiaeth, cynllunio, ynni a'r amgylchedd, gan fynd i’r afael â pheryglon y newid yn yr hinsawdd, ond gan wneud y gorau hefyd o’n hasedau naturiol aruthrol a chreu’r swyddi ar gyfer dyfodol Cymru.
Lywydd, rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu rhaglen lywodraethu newydd a osodir ger bron y Senedd yn yr wythnosau nesaf. Bydd yn nodi ein cynlluniau i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i ymadfer ar ôl COVID. Bydd hynny'n cynnwys cynllun adfer brys ar gyfer y GIG a'r cynllun dal i fyny mwyaf ar gyfer pobl ifanc ers dechrau datganoli. Bydd yn nodi'r gwaith i ddatblygu gwarant newydd i bobl ifanc, gan roi'r cynnig o waith, addysg neu hyfforddiant i bawb o dan 25 oed.
Bydd yn amlinellu camau tuag at fargen deg ar gyfer gofal, gan gynnwys talu'r cyflog byw gwirioneddol i bawb sy'n gweithio yn y sector gofal. Bydd yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i wneud Cymru’n wlad wyrddach—diddymu mwy o blastig untro sy’n llygru a chreu coedwig genedlaethol a pharc cenedlaethol newydd i Gymru. Bydd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cymunedau mwy diogel, gan gynyddu’r nifer o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar ein strydoedd. A bydd yn amlinellu ble y byddwn yn creu swyddi newydd i Gymru drwy chwyldro adeiladu tai carbon isel, gan adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu.
Ond lle gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach, bydd y Llywodraeth hon bob amser yn agored i syniadau newydd. Lywydd, yr wythnos diwethaf, dywedais nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar ffyrdd da o symud Cymru ymlaen, a chynigiais weithio ar draws y pleidiau pan fo gennym ddiddordebau sy'n gyffredin. Rwyf wedi ysgrifennu at arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i gadarnhau'r cynnig hwnnw. Ac ar draws y Senedd, gwn y bydd Aelodau newydd a rhai sy'n dychwelyd yn dod yma gyda’r bwriad o wneud y cyfraniad cadarnhaol hwnnw at ddyfodol ein cenedl, heriau heddiw a heriau yfory.
Fel y dywedais, nid oes unrhyw fater sy'n bwysicach na'r argyfwng hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu. Dyna pam fod gweinyddiaeth newydd yng nghraidd y Llywodraeth hon. A thynnodd pob plaid a gynrychiolir yma sylw yn ystod yr etholiad, yn gwbl gywir, at yr angen am gamau mentrus i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n ein hwynebu. Nawr yw’r amser i drosi'r ymrwymiad hwnnw’n gamau ymarferol. O'r etholiad, ac o'r pandemig, gallwn weld Cymru gryfach, Cymru wyrddach a Chymru decach. Yr hyn sydd angen ei wneud yn awr yw sicrhau bod Cymru ar y llwybr tuag at adferiad, ac mae'r Cabinet rwyf wedi'i nodi y prynhawn yma yn barod i fynd ati i wneud yn union hynny. Lywydd, diolch yn fawr.