Part of the debate – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 19 Mai 2021.
Mae Andrew R.T. Davies yn llygad ei le, Lywydd, fod swydd yr ysgrifennydd parhaol newydd wedi’i hysbysebu ddydd Llun yr wythnos diwethaf. Credaf fy mod wedi dweud eisoes fod yr ansoddair 'parhaol' yn gamarweiniol bellach, gan fod ysgrifenyddion parhaol yn cael eu penodi am dymor sefydlog o bum mlynedd a bydd cyfnod yr ysgrifennydd parhaol presennol yn y swydd yn dod i ben ar ddechrau'r flwyddyn galendr nesaf. Credaf fy mod wedi dod i’r casgliad fod gan un o'r ffyrdd y mae rhai adrannau Whitehall yn gweithredu rywbeth i'w gynnig i ni yma, oherwydd mewn nifer o adrannau Whitehall, ochr yn ochr ag ysgrifennydd parhaol, mae ganddynt yr hyn a elwir yn 'brif swyddog gweithredu’. Swydd y prif swyddog gweithredu yw ymdrin â mecanwaith y ffordd y mae adran yn cael ei gweithredu: ymdrin â materion staffio, ymdrin â materion yn ymwneud â thelerau ac amodau, ymdrin â phwy sy'n cael parcio eu ceir ymhle—yr holl fathau hynny o bethau, sydd ar hyn o bryd, yn Llywodraeth Cymru, yn gyfrifoldebau i’r ysgrifennydd parhaol. Nawr, rwyf eisiau ysgrifennydd parhaol sydd ag amser ar gael i helpu i sicrhau bod y rhaglen lywodraethu'n llwyddo, a chredaf y byddai’n gymorth i’r unigolyn newydd pe bai ganddynt brif swyddog gweithredu ochr yn ochr â hwy i ymdrin mwy â mecanwaith Llywodraeth. A chefais gyfle i gael sgwrs hir gyda Simon Case, pennaeth Swyddfa'r Cabinet yn Whitehall, a chredaf fy mod wedi dysgu pethau defnyddiol o'r hyn a ddywedodd wrthyf ynglŷn â sut y gallem ddysgu rhai o'r gwersi hynny yma.
Fe fydd yna raglen ddeddfwriaethol, Lywydd, a bydd honno'n cychwyn ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon a byddaf yn gwneud y datganiad arferol ar y rhaglen ddeddfwriaethol yn ail hanner tymor yr haf hwn. Rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd Andrew Davies am y Bil amaethyddiaeth. Fe fydd yn cofio inni gytuno, yn y Senedd flaenorol, yn rhannol oherwydd sylwadau gan y gwrthbleidiau, y byddai'r pwerau a fyddai’n dod i ni drwy Fil amaethyddiaeth y DU yn gyfyngedig o ran amser—y byddai cymal machlud ar waith. Nawr, credaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud, ond mae'n rhoi pwysau ar bob un ohonom yma i sicrhau y gallwn roi Bil amaethyddiaeth sy'n benodol i Gymru ar y llyfrau statud fel y gallwn barhau i wneud yr holl bethau y mae angen i ni eu gwneud i gynorthwyo ffermwyr ac eraill sy'n dibynnu ar yr economi wledig. Felly, mae hwnnw'n Fil y byddwn yn ei gyflwyno a gobeithiaf y gallwn weithio yn yr ysbryd cydweithredol y soniodd arweinydd yr wrthblaid amdano yn ei gyflwyniad.
O ran incwm sylfaenol cyffredinol, yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yw'r hyn a ddywedasom yn ein maniffesto, sef arbrawf a chynllun peilot. Nid oes gennym yr holl bwerau a fyddai’n angenrheidiol, heb sôn am yr holl arian a fyddai’n angenrheidiol i gynnwys incwm sylfaenol cyffredinol i Gymru gyfan, ond credaf fod gennym y gallu i lunio arbrawf craff a fydd yn caniatáu inni brofi'r honiadau a wneir am incwm sylfaenol cyffredinol. Nawr, rwy’n gyfarwydd â'r honiadau hyn ers blynyddoedd lawer. Roedd fy nhraethawd doethuriaeth yn ymwneud â grŵp a oedd yn dadlau o blaid rhywbeth o'r enw 'credyd cymdeithasol' yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Mae credyd cymdeithasol yn fath o incwm sylfaenol cyffredinol. Roedd ganddynt grŵp yma yng Nghaerdydd a fu’n weithgar iawn yn hyrwyddo'r syniad ar y pryd. Felly, mae hwn yn syniad ag iddo hanes hir iawn, ond ychydig iawn o gymhwysiad ymarferol i ddysgu a yw'r pethau sy'n cael eu dweud amdano yn cael eu gwireddu ym mywydau'r bobl sy'n ei dderbyn. Ac os gallwn ddechrau gyda phobl ifanc sy'n gadael ein system ofal, credaf fod dadleuon cryf dros wneud hynny. Maent yn grŵp o bobl y gwyddom amdanynt—gallwn nodi pwy ydynt; gallwn ddarparu, nid yn unig incwm ar eu cyfer, ond y cymorth arall sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn dechrau eu bywydau gan anelu at ddyfodol llwyddiannus. Ac edrychaf ymlaen, ynghyd â llawer o Aelodau yn y Siambr sydd â diddordeb mewn incwm sylfaenol cyffredinol—edrychaf ymlaen at ddadlau amdano a'i drafod ag eraill sy’n awyddus i weld yr arbrawf hwnnw'n llwyddo fel arbrawf, lle byddwn yn dysgu a yw'n gweithio, neu'n cyflawni'r hyn sy'n cael ei honni yn ei gylch.
Ac o ran dyfodol y Senedd, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, mae’n sicr yn fater i'r Senedd yn bennaf, nid i'r Llywodraeth. Bydd cefnogaeth sylweddol ar yr ochr hon i’r Siambr, fel y bydd yr Aelodau wedi’i glywed yr wythnos diwethaf yn yr areithiau gan fy nghyd-Aelodau David Rees a Hefin David, wrth i’r ddau ohonynt gyfeirio at yr angen i fwrw ymlaen â'r cynigion yn adolygiad Laura McAllister, ac y byddai hynny'n rhan o'r hyn y byddent yn ceisio'i wneud pe byddent yn cael eu hethol yn Ddirprwy Lywydd. Felly, bydd cefnogaeth sylweddol ar y meinciau hyn i'r ymdrech honno, ond yn y pen draw, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, mater i'r Senedd ei hun, yn hytrach na'r Llywodraeth, yw arwain ar hyn.