3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Penodiadau i'r Cabinet

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 19 Mai 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:51, 19 Mai 2021

Gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, a hefyd am yr ysbryd o gydweithrediad a oedd yn plethu drwyddo, a dweud y gwir? Roeddech chi'n sôn am y traddodiad corawl Cymreig fel arwydd o'r ysbryd cydweithredol yn hynny o beth, ac wrth gwrs, mae'n rhaid cofio, rwy'n credu, mai'r term gwreiddiol ar gyfer Senedd Cymru, pan oedd Cymru Fydd wrthi, oedd creu cymanfa genedlaethol. Felly, mae'r syniad o geisio harmoni yn hytrach nag anghytgord, rwy'n credu, wastad yn fan cychwyn da yn ein trafodion ni fel Senedd. Gaf i, ar ran Plaid Cymru, groesawu'r cynnig yr oeddech chi, Prif Weinidog, wedi cyfeirio ato? Rŷn ni'n barod, wrth gwrs, bob amser, i geisio ffeindio tir cyffredin rhyngom er mwyn pobl Cymru, yntefe? Er mwyn mynd i'r afael â chynnig datrysiadau i'r problemau y buom ni wrthi yn trafod, wrth gwrs, yn ystod yr etholiad cyffredinol.

Gaf i jest cyffwrdd ar rai o'r rheini nawr, lle gobeithio y bydd modd ffeindio'r tir cyffredin hynny, ond lle rwy'n deall, wrth gwrs, y byddwch chi, maes o law, yn ystod yr wythnosau nesaf, yn cyhoeddi'ch rhaglen lywodraethu? Ond mae rhai o'r meysydd yma yn feysydd lle mae angen gweithredu ar fyrder, ac felly byddai fe'n dda i glywed mwy ynglŷn â bwriadau cychwynnol y Llywodraeth.

Gaf i jest cychwyn drwy gyfeirio at yr argyfwng tai? Dwi ddim yn credu y gallwn ni wadu bod yna argyfwng ym maes tai yng Nghymru erbyn hyn. Rŷch chi wedi addo gweithredu cyn, ar ôl ac yn ystod yr etholiad ynglŷn ag ail gartrefi. Allwch chi roi ychydig mwy o fanylion ynglŷn â'r camau y byddwch chi'n eu cymryd ar unwaith o ran hynny? Mae prisiau tai yng Nghymru yn gyffredinol yn mynd allan o reolaeth, gyda phrisiau tai yn cynyddu fan hyn yn llawer mwy nag ar draws y Deyrnas Unedig. Roedd tair elusen yn dweud dros y penwythnos mai breuddwyd gwrach yw perchen tŷ i nifer o bobl yng Nghymru heddiw, ac nad yw'r cynlluniau a oedd gennych chi fel Llywodraeth flaenorol yn gwneud digon i wneud gwahaniaeth i nifer fawr o bobl. Felly, fyddwch chi yn dod â chynllun gwirioneddol radical i fynd i'r afael â'r broblem hynny, sydd yn gynyddol broblem i gymaint o'n pobl ifanc yn ein cymunedau ni?

Allwch chi ddweud, ynglŷn â thai fforddiadwy, sut ŷch chi'n mynd i ddelifro'r lefel mwy uchelgeisiol ar gyfer adeiladu? Mi oedd fy mhlaid i ac un o'ch grwpiau ymgynghorol yn awgrymu'r angen i greu capasiti newydd gydag asiantaeth benodol. Os nad ŷch chi'n mynd lawr y llwybr yma, sut ŷch chi'n mynd i ddelifro ar hynny?

Gaf i jest cyfeirio wedyn at dlodi plant, ac yn benodol, prydiau ysgol am ddim, a oedd yn thema fawr yn ein hymgyrch ni ym Mhlaid Cymru? Rŷch chi wedi sôn am yr adolygiad ynglŷn â phrydiau ysgol am ddim—allwch chi roi rhagor o fanylion ynglŷn â hynny?

Ym maes yr economi, mi oeddech chi wedi comisiynu—ac mae hwn yn ganolog i bob dim, nag yw e? Dyma'r sylfaen—mi oeddech chi wedi comisiynu adroddiad go swmpus a chynhwysfawr iawn, a dweud y gwir, gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd cyn yr etholiad, a oedd yn awgrymu creu capasiti newydd o ran delifro polisi economaidd yng Nghymru o fewn y gwasanaeth sifil, o fewn eich adran chi fel Prif Weinidog, ond hefyd creu asiantaeth datblygu economaidd. Ydy hynny dal yn rhywbeth rŷch chi'n ei gysidro fel Llywodraeth, achos rŷm ni ym Mhlaid Cymru yn meddwl bod angen capasiti newydd os rŷm ni'n mynd i gynyddu perfformiad economaidd Cymru?

Da gweld cyfeiriad at y Ddeddf amaeth. Wrth gwrs, dŷn ni'n dal yn erfyn arnoch chi i ailystyried o ran y sefyllfa gyda NVZs, sydd yn peri gofid mawr ar gyfnod hynod ansicr i amaethyddiaeth yn gyffredinol. A gaf i ofyn i chi—dwi wedi gweld y sylwadau gan y Gweinidog amaeth—a gaf i ofyn i chi fel Prif Weinidog ymateb i'r drafodaeth sydd wedi bod dros y dyddiau diwethaf ynglŷn â'r posibilrwydd o gytundeb masnach gydag Awstralia, a fydd yn gosod templad peryglus ofnadwy, a dweud y gwir, i holl ddyfodol amaethyddiaeth Cymru? Faint o ymwneud ac ymgysylltu sydd wedi bod gyda Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, ac ydych chi'n rhannu'r un farn â ni bod angen i ni sefyll yn unedig fel cenedl, a dweud y gwir, i wrthsefyll yr awgrym gorffwyll yma sydd yn dod gan Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, mae'n debyg? 

O ran pwerau'r Senedd, mi oeddech chi wedi dadlau yn ystod yr etholiad gyffredinol dros ragor o bwerau, ac wedi awgrymu creu comisiwn ynglŷn â hyn. A fyddech chi'n gallu rhoi mwy o fanylion ynglŷn â hwnna? 

Ac, yn olaf, a gaf i ofyn i chi fel Prif Weinidog wneud datganiad heddiw o ran y sefyllfa ym Mhalesteina ac Israel, a mynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gwneud popeth i sicrhau bod yna gadoediad a bod yna gydymffurfio gyda chyfraith ryngwladol er mwyn gwarchod buddiannau'r bobl sydd yn dioddef yn enbyd yno ar hyn o bryd?