Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 19 Mai 2021.
Diolch am y diweddariad, Brif Weinidog ac rwy'n cytuno â'r teimladau yn eich datganiad. Er ein bod yn agosáu at gyfnodau brafiach, mae'n werth cofio bod llawer o deuluoedd ledled Cymru, yn anffodus, wedi colli anwyliaid ac mae llawer o bobl yn hiraethu am yr anwyliaid hynny a theimlir eu colled bob dydd o'r wythnos a phob mis sy'n mynd heibio, yn ogystal â dewrder a chryfder pawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â’r feirws, a'r siwrnai y mae'n rhaid inni barhau i fynd arni i drechu’r feirws hwn, fel y nodwyd yn eich datganiad, gyda’r amrywiolynnau newydd sy’n ein hwynebu. Bron yn fisol, bellach, ymddengys bod yna amrywiolynnau sy’n peri pryder.
Fe sonioch chi am amrywiolyn India, a chredaf ichi roi rhai ffigurau i ni mewn perthynas â'r cyfraddau yng Nghymru. Credaf ichi ddefnyddio'r rhif 25 fel nifer yr achosion sy'n peri pryder yng Nghymru. A oes unrhyw amrywiolynnau eraill sy'n dechrau cael eu bwydo i gyngor y Llywodraeth a allai beri problemau sylweddol posibl wrth inni nesu at fisoedd yr haf? Oherwydd, gyda feirws, rydym yn deall y bydd yn mwtadu, ac mewn gwirionedd, bydd yn rhaid inni ddechrau byw gyda'r amrywiolynnau newydd sy'n ein hwynebu wrth iddynt ddod i’r amlwg. Ond ymddengys bod amrywiolyn India wedi cael gafael ar y wlad ar hyn o bryd, dros y penwythnos, gyda'r sylw a gafodd, a chredaf ei bod yn bwysig ystyried sut y mae hynny wedi effeithio ar rai o'r safbwyntiau ynglŷn â’r rheoliadau hyn y mae'r Llywodraeth yn gweithio arnynt gyda'i chynghorwyr i ddod â hwy ger bron y Cynulliad i'w cymeradwyo.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at fethiant y Llywodraeth i ôl-ddyddio ei chymorth i fusnesau. Er bod croeso mawr i’r £66 miliwn sydd ar gael, Brif Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, yn amlwg, fod yna gyfnod yn ystod yr ymgyrch etholiadol pan nad oedd cymorth ariannol ar gael i fusnesau. A gwn eich bod wedi nodi bod cyfanswm o £200 miliwn ar gael i fusnesau. Pan gaiff yr arian hwnnw ei ddyrannu yn y pen draw, a fydd cyfle i'r Llywodraeth ystyried ceisiadau a hawliadau am iawndal a chymorth wedi’i ôl-ddyddio i fusnesau yn y cyfnod hwnnw pan ddaeth cymorth i fusnesau i ben ar 31 Mawrth, gan y credaf fod hwnnw'n gyfnod pwysig iawn i ariannu ar ei gyfer, gan fod y cyfyngiadau wedi effeithio ar y busnesau hynny? Ac wrth gwrs, yng Nghymru, nid yw’r cymorth i fusnesau wedi cynnwys grantiau adfer i fusnesau newydd fel mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, os gallwch roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am y cymorth i fusnesau lle mae'r rheoliadau hyn wedi atal busnesau rhag masnachu, byddai hynny’n ddefnyddiol.
Ar brofi yn benodol, mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae'n llawer haws sicrhau bod gwasanaethau a chitiau profi ar gael ar gais neu ar alw’n rhithwir, ond mae pethau'n fwy rhagnodol yma yng Nghymru. A oes unrhyw fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cyflwyno i sicrhau bod mwy o gitiau profi ar gael yma yng Nghymru, a fydd yn hwyluso’r broses o lacio cyfyngiadau mewn modd mwy amserol, a'r normalrwydd y cyfeirioch chi ato yn eich datganiad y mae pob un ohonom yn ysu amdano? Brif Weinidog, cawsoch eich cofnodi'n dweud y bydd angen masgiau a mesurau cadw pellter cymdeithasol yng Nghymru tan ddiwedd y flwyddyn yn ôl pob tebyg. Ai dyna yw eich asesiad o hyd, gan fod rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn sôn am gymryd camau, yn amlwg, a fyddai'n llacio mesurau cadw pellter cymdeithasol a masgiau, neu a fyddwn—[Torri ar draws.] Rwy'n clywed sylwadau. Credaf ei fod yn gwestiwn cwbl synhwyrol i'w ofyn, er tegwch, oherwydd yn amlwg, bydd pobl yn awyddus i ddeall y rheolau a fydd yn berthnasol i’w bywydau yma yng Nghymru.
Hefyd, ar deithio rhyngwladol, rwyf newydd gael e-bost gan etholwr sy'n derbyn mai cyngor yn unig sydd ar gael ar hyn o bryd, ac nid yw hynny o gymorth iddynt mewn perthynas â hawliadau yswiriant i gwmnïau teithio. Ac mae pobl yn dymuno cadw at y cyngor y mae'r Llywodraeth yn ei roi, ond nid yw hynny'n arwain at iawndal wrth fynd at y cwmnïau teithio. Felly, a yw'r Llywodraeth mewn sefyllfa i gynnig mwy o gyngor a chymorth i unigolion sy’n gaeth i ymrwymiadau teithio ond sy'n dal i fod yn awyddus i gadw at y cyngor y mae'r Llywodraeth yn ei roi, ond yn ariannol, byddent ar eu colled yn ddifrifol?
Ac yn olaf, os caf ofyn, fe dynnoch chi sylw at lwyddiant y rhaglen frechu, sy’n llwyddiant gwych i’r DU yn fy marn i, ac sydd wedi arwain at lacio cyfyngiadau’n gyflymach nag mewn rhannau eraill o'r byd, ond mae sôn y bydd brechiadau atgyfnerthu’n ofynnol yn yr hydref. A oes gennych unrhyw wybodaeth ar gyfer y cofnod yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma ynghylch brechiadau atgyfnerthu a allai fod yn ofynnol ar ddiwedd yr haf/dechrau'r hydref, a fyddai, unwaith eto, yn atal y cyfyngiadau a allai fod wedi'u gosod ar ein bywydau bob dydd pe na bai'r rhaglen frechu wedi bod mor llwyddiannus? Diolch, Brif Weinidog.