Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 19 Mai 2021.
Canlyniadau'r adolygiad o'r rheoliadau rydym yn ei ystyried heddiw yw bod lletygarwch dan do yn gallu ailagor ar gyfer grwpiau o chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd, gall llety gwyliau ailagor yn llawn, gall adloniant dan do ac atyniadau ymwelwyr ailagor, a gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi'u trefnu o dan do a hyd at 50 o bobl mewn gweithgareddau wedi'u trefnu yn yr awyr agored, gan gynnwys derbyniadau priodas. Mae teithio rhyngwladol hefyd wedi ailgychwyn. Byddwn yn dilyn yr un system goleuadau traffig coch, oren, gwyrdd a ddefnyddir yn Lloegr a'r Alban, ond gyda rhai mesurau diogelwch ychwanegol i wneud popeth a allwn i atal y coronafeirws rhag cael ei ailgyflwyno i Gymru o dramor. Lywydd, yn sicr, nid yw'r ffaith bod rhywbeth yn cael ei ganiatáu yn golygu ei fod yn orfodol ac nid yw o reidrwydd yn golygu ei fod yn syniad da hyd yn oed. Ailadroddaf farn Llywodraeth Cymru mai hon yw'r flwyddyn i fynd ar wyliau yng Nghymru ac i fwynhau popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.
Fel rhan o'r adolygiad tair wythnos, o ddydd Llun yr wythnos nesaf ymlaen, byddwn hefyd yn codi cyfyngiadau ar gyfanswm yr ymwelwyr sy'n cael ymweld â phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Bydd hynny'n cwblhau penderfyniadau’r adolygiad tair wythnos hwn, a bydd y cylch adolygu tair wythnos nesaf yn dod i ben ar ddechrau mis Mehefin. Wedyn, os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn gadarnhaol, byddwn yn ystyried a allwn symud i lefel rhybudd 1. Byddai hynny'n golygu llacio'r rheolau ymhellach mewn perthynas â phobl yn cyfarfod yn eu cartrefi eu hunain, cynyddu nifer y bobl sy'n cael mynychu derbyniadau priodas, ac ailgychwyn digwyddiadau mwy, gan adeiladu ar brofiad ein rhaglen beilot, sydd bellach ar waith.
Lywydd, er bod hyn oll yn sicr yn gadarnhaol, mae'n rhaid imi argymell gofal. Unwaith eto, mae'r pandemig wedi dilyn trywydd annisgwyl sy’n peri cryn bryder. Ddiwedd yr wythnos diwethaf, roedd mwy na 1,600 achos o'r amrywiolyn India, fel y’i gelwir, yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r nifer hwnnw yn Lloegr yn dyblu bob pump i saith diwrnod. Mae'r rhan fwyaf o'r achosion hynny yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn Llundain ac yn ardal Bedford. Yma yng Nghymru, mae gennym oddeutu 25 o achosion sy’n gysylltiedig ag amrywiolyn India sy'n peri pryder. Mae pob un o'r rheini'n destun ymchwiliad ac mae pawb sydd wedi dod i gysylltiad â'r unigolion hynny, wrth gwrs, yn cael eu holrhain a'u profi.
Mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu y gallai'r amrywiolyn newydd hwn fod yn fwy trosglwyddadwy na ffurf fwyaf cyffredin y feirws ar hyn o bryd—amrywiolyn Caint—a oedd yn gyfrifol am yr ymchwydd mewn achosion yng Nghymru ar ddechrau’r gaeaf y llynedd. Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth eto i ddynodi beth yw effaith amrywiolyn India ar effeithlonrwydd y brechlyn neu a yw'n achosi salwch mwy difrifol. Mae pob un ohonom yn gobeithio, wrth gwrs, y bydd y brechlyn yn amddiffyn rhag yr amrywiolyn newydd hwn ac eraill a allai ddod i’r amlwg, ac mae'r wyddoniaeth yn parhau i archwilio'r sefyllfa, a byddwn yn derbyn cyngor gan ein cynghorwyr gwyddonol wrth i'r dystiolaeth honno ddod yn gliriach.
Yn y cyfamser, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud popeth a allwn i gadw lefelau'r feirws mor isel â phosibl yng Nghymru wrth inni barhau i lacio’r cyfyngiadau mewn ffordd ofalus a gochelgar. Ymdrechion unigolion sy'n cynnig y ffordd orau a mwyaf effeithiol o ymateb i amrywiolynnau newydd. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y cyngor gwyddonol diweddaraf, fel sydd wedi digwydd drwy gydol y pandemig, ac yn sicrhau bod y cyngor hwnnw’n gyhoeddus fel y gall yr Aelodau ei weld. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r newidiadau a nodir yn yr adolygiad hwn o'r rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws pan gânt eu cyflwyno i'w trafod.