Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 19 Mai 2021.
Heddiw, Lywydd, wrth inni ddechrau'r chweched Senedd hon, mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac rydym bellach ar lefel rhybudd 2. Mae gwaith caled pawb ledled Cymru, ynghyd â'n rhaglen frechu lwyddiannus, yn golygu ein bod yn parhau i fod â'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y Deyrnas Unedig, sef oddeutu 10 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth, a chyfradd profion positif sy’n 1 y cant heddiw.
Ar yr un pryd, mae nifer y bobl yn yr ysbyty â COVID ar ei lefel isaf ers dechrau'r pandemig fwy na 15 mis yn ôl, a dim ond tri pherson â COVID sydd mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru. Mae ein GIG yn dychwelyd i lefelau mwy normal o weithgarwch ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gan drin mwy o bobl ag ystod ehangach o salwch, anafiadau a chyflyrau iechyd. Diolch byth, mae llawer llai o farwolaethau yn cael eu cofnodi, er y gwn y bydd pawb yn y Siambr hon, ac sy’n cymryd rhan o bell, yn parhau i feddwl am yr holl bobl sydd wedi colli rhywun annwyl yma yng Nghymru i'r feirws ofnadwy hwn.
Y penwythnos hwn, cyraeddasom garreg filltir gyda 2 filiwn o bobl bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn yng Nghymru—dyna 2 filiwn o bobl yng Nghymru sydd wedi dweud 'ie' i gael eu brechu. Mae mwy nag 80 y cant o'r holl oedolion yng Nghymru bellach wedi cael y dos cyntaf, fan lleiaf, o'r brechlyn. Mewn ffigurau a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, mae 80 y cant o bobl yn eu 40au, 62 y cant o bobl yn eu 30au, a 43 y cant o bobl rhwng 18 a 29 oed bellach wedi cael brechlyn cyntaf yma yng Nghymru. Yn ystod yr wythnosau nesaf, rydym yn gobeithio pasio’r garreg filltir pan fydd miliwn o bobl wedi cwblhau'r cwrs brechu dau ddos—ac mae hyn oll wedi digwydd mewn cwta chwe mis.
Gwn y bydd pob Aelod o'r Senedd yn awyddus i ddiolch i'r rheini sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu, o’r holl bobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i gynllunio a chydlynu’r gwaith cymhleth o ddarparu’r brechlynnau, i'r miloedd o bobl—staff y GIG, staff milwrol, a'r llu o wirfoddolwyr—am y llwyddiant anhygoel hwn. Eu hymdrechion hwy sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i hynt y pandemig hwn.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddarparu dosau cyntaf, er mwyn sicrhau ein bod yn brechu cymaint o bobl â phosibl. Bydd grwpiau oedran iau yn cael cynnig brechlynnau Pfizer a Moderna, yn unol â'r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Lywydd, y ffaith bod gennym lefelau mor isel o’r coronafeirws a lefelau uchel o frechu yw’r rheswm pam ein bod wedi gallu symud i lefel rhybudd 2 mewn un cam—un cam arall tuag at normalrwydd.