Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 19 Mai 2021.
Diolch yn fawr, Lywydd. Roeddwn yn ymateb i gwestiwn arweinydd yr wrthblaid am amrywiolynnau ar wahân i amrywiolyn India sy'n bresennol yng Nghymru. Rwyf newydd esbonio bod gennym enghreifftiau o amrywiolyn De Affrica yng Nghymru. Rydym yn cadw llygad gofalus ar amrywiolyn Brasil, gan ganolbwyntio'n arbennig ar Bortiwgal a theithio i mewn ac allan o'r wlad honno. Mewn perthynas ag amrywiolyn India ei hun, yn ogystal â'r amrywiolyn sy'n peri pryder, mae dau amrywiolyn India arall yn destun ymchwiliad, ac mae gennym nifer o enghreifftiau o'r rheini yng Nghymru hefyd. Felly, mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le, Lywydd: er y sylw a fu yn ystod y dyddiau diwethaf i amrywiolyn India, nid yw ond yn un enghraifft o'r angen i fod yn wyliadwrus drwy'r amser er mwyn sicrhau nad ydym yn ail-fewnforio perygl i Gymru yn y pen draw.
Ar yr hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am gymorth busnes, nid wyf yn derbyn bod y cymorth hwnnw wedi dod i ben yn llwyr ym mis Ebrill; gwnaed llawer iawn o daliadau ym mis Ebrill a lle ceir ceisiadau gan fusnesau y gellir mynd ar eu trywydd, wrth gwrs eu bod yn gallu gwneud hynny. Nid wyf ychwaith yn cydnabod y sefyllfa y credaf ei fod yn ei disgrifio mewn perthynas â phrofion. Mae gennym ddegau o filoedd o brofion bob wythnos yng Nghymru nad ydynt yn cael eu defnyddio, oherwydd bod lefelau presennol y coronafeirws mor isel yng Nghymru. Ar ei anterth, roeddem yn cynnal 120,000 o brofion PCR mewn wythnos, ond 67,000 o brofion a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf. Felly, mae digon o gapasiti yn y system ar gyfer profion PCR, ac rydym yn defnyddio cannoedd o filoedd o brofion llif unffordd yng Nghymru i sicrhau bod ysgolion yn parhau i gael eu diogelu, fod gweithwyr cartrefi gofal yn cael eu diogelu, ac yn wir, fod busnesau'n gallu eu defnyddio hefyd.
Rydym yn rhan o'r adolygiad o'r mesurau cadw pellter cymdeithasol y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnal yn yr ystyr fod swyddogion yn cymryd rhan ynddo, ac rydym yn aros i weld beth fydd ei ganlyniad. Rwy'n credu bod yr adolygiad hefyd yn gorfod ystyried amrywiolyn India, ac a fyddai'n newid unrhyw agwedd ar y dadansoddiad y maent wedi'i gyflawni hyd yn hyn.
Ar deithio rhyngwladol, cyngor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n penderfynu mewn perthynas ag yswiriant, ac rwy'n credu bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi cyhoeddi cyngor ddoe yn dweud wrth bobl na ddylent fynd ar wyliau mewn gwledydd ar y rhestr oren, a bydd pobl yn gallu defnyddio hynny i'w ddangos i'w cwmnïau yswiriant lle maent yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen yn awr ac angen hawlio yswiriant.
Ac yn olaf, y cwestiwn pwysig am frechlynnau atgyfnerthu. Cytunaf yn llwyr, fel y gwneuthum o'r cychwyn, fod Llywodraeth y DU wedi cael llwyddiant yn sicrhau'r cyflenwad brechiadau—mae 50 miliwn o ddosau ychwanegol wedi'u harchebu ar gyfer rhaglen atgyfnerthu bosibl yn yr hydref. Rydym wedi cytuno ar gyfran poblogaeth o hynny i Gymru. Bydd y brechlynnau atgyfnerthu hynny wedi'u llunio gan ystyried yr amrywiolynnau sy'n dod i'r amlwg ac rydym eisoes yn cynllunio yng Nghymru sut y gallem gynnal rhaglen atgyfnerthu yn ystod yr hydref, os bydd angen.