Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 19 Mai 2021.
Mewn perthynas ag amrywiolyn India, yr amrywiolyn India sy'n peri pryder, fe ddywedoch chi fod yna nifer o feysydd lle nad oes gennym dystiolaeth bendant o hyd ynglŷn â'i effaith o ran effeithiolrwydd brechu a hefyd a yw'n achosi math mwy difrifol o'r clefyd. A allech ddweud ychydig am y meysydd lle mae gennym rywfaint o ddealltwriaeth? Felly, yn arbennig, rwyf wedi darllen casgliad yn rhai o bapurau'r grŵp cynghori gwyddonol ar argyfyngau, er enghraifft, y gallai'r amrywiolyn hwn fod 50 y cant yn fwy trosglwyddadwy—ai dyna yw eich dealltwriaeth chi? Ac o ddilyn y rhesymeg i'r pen, felly, maent yn dadlau bod posibilrwydd realistig y gallai hyn arwain at don newydd—ton newydd sylweddol—o achosion, yn rhannol oherwydd, hyd yn oed gyda'r lefel uchel iawn o frechu sydd gennym yng Nghymru—ni wn a ydym bellach yn dal i fod yn Rhif 2 yn y tabl cynghrair ar gyfer pigiadau cyntaf, ac mae hynny'n glod enfawr yn fy marn i i'r gwaith tîm ardderchog—ond hyd yn oed gyda hynny, nid yw'n rhoi lefel ddigonol o amddiffyniad yn y gymuned. O dan yr amgylchiadau hynny, os dilynwch y rhesymeg i'r pen, felly, a oes perygl y gallai llacio'r cyfyngiadau ymhellach heb ymyriadau parhaus neu ymyriadau nad ydynt yn rhai fferyllol arwain at fwy o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty a lefel uwch o farwolaethau hyd yn oed?
A yw Llywodraeth Cymru yn hyderus fod gan ein gwasanaethau iechyd gapasiti i ymdopi â senario o'r fath, yn seiliedig ar yr elfennau lle mae gennym rywfaint o dystiolaeth ar hyn o bryd? A pha gynlluniau wrth gefn sy'n cael eu gwneud ar y sail honno, yn enwedig ar gyfer mesurau wedi'u targedu wrth ymdrin â lledaeniad yr amrywiolyn newydd hwn? Felly, rwy'n credu eich bod wedi siarad o'r blaen am y posibilrwydd o frechu rhagor o bobl mewn ardaloedd lle ceir lefelau uwch o achosion a hynny'n gynharach, neu hyd yn oed gyfyngiadau symud lleol. Credaf y byddai'n arbennig o ddefnyddiol clywed beth rydych chi'n ei ddeall am lefelau'r feirws a'i botensial, mewn perthynas â daearyddiaeth Cymru, i ledaenu, yn y bôn, i ogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Cymru. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hynny?
Hefyd, gwelais eich sylwadau ddoe, Brif Weinidog, ynglŷn â brechu pobl dan 18 oed. A oes mwy o frys ynghylch hynny yng nghyd-destun feirws mwy trosglwyddadwy? Beth yw eich cyngor diweddaraf ar hynny? Ac yn y cyd-destun hwnnw hefyd, beth yw eich ymateb i sylwadau Sefydliad Iechyd y Byd heddiw, yn annog Llywodraeth Cymru i beidio â brechu pobl ifanc dan 18 oed ac i flaenoriaethu camau i rannu brechiadau gydag oedolion risg uwch mewn gwledydd incwm is?
O ran ysgolion hefyd, roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am eich safbwynt ar hyn o bryd ar wisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth, ac yn wir sut y mae'r hyn rwyf newydd gyfeirio ato yn awr, yr amrywiolyn newydd sy'n peri pryder, yn effeithio ar yr ystyriaeth honno. Mynegwyd pryder mewn ysgolion mewn cyd-destun gwahanol, sef y pwysau y mae ysgolion ac athrawon yn ei deimlo ynghylch cymedroli asesiadau, a bod hyn, yn ei dro, yn peri pryder i fyfyrwyr. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi myfyrwyr ac athrawon i geisio lliniaru hyn?
Yn olaf, ar gymorth ariannol, os wyf yn eich deall, Brif Weinidog, fe ddywedoch chi fod pobl yn y sector yn cefnogi eich penderfyniad i gadw rhywfaint o'r £200 miliwn yn ôl ar gyfer cymorth wedi'i dargedu'n well yn nes ymlaen. Rwyf newydd gael rhywun o Gydweithfa Bwytai Annibynnol Cymru yn dweud eu bod yn dadlau'r gwrthwyneb llwyr i hynny. Dywedodd eraill yn UKHospitality eu bod yn cefnogi dull wedi'i dargedu, ond nad yw'r arian a ddarperir yn awr yn ddigon. Y lefel—. Rwy'n credu, os oes gennych lai na 10 o weithwyr, mae'r cymorth oddeutu £5,000. Mae'n ymddangos bod hyn yn llawer is na'r cymorth uniongyrchol, y grantiau ailgychwyn, sy'n cael eu darparu yn Lloegr a'r Alban. Felly, a gaf fi annog y Prif Weinidog i drafod hyn gyda swyddogion? Oherwydd efallai eich bod wedi cael darlun nad yw'n adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yn y sector, sydd mewn sefyllfa eithriadol o anodd.