Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 19 Mai 2021.
Lywydd, diolch i Adam Price am y cwestiynau hynny. Y maes dealltwriaeth mwyaf, yn y cyngor a gefais, yw'r tebygolrwydd fod amrywiolyn India 50 y cant yn fwy trosglwyddadwy nag amrywiolyn Kent, ac felly mae'n debygol o'i ddisodli os yw'n datblygu'n lledaeniad cymunedol go iawn. Nawr, nid ydym yn y sefyllfa honno yma yng Nghymru ar hyn o bryd o bell ffordd, ac mae'r enghreifftiau y gwyddom amdanynt i gyd wedi'u nodi eisoes gan dimau iechyd cyhoeddus lleol, a chysylltir â'r holl unigolion y gwyddom amdanynt wrth eu henwau, ac mae eu hamgylchiadau unigol yn hysbys.
Pe byddem yn gweld ton newydd, yna, wrth gwrs, mae'r hyn a ddywedodd Adam Price yn gywir. Hyd yn oed gydag 80 y cant o'r boblogaeth wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru, mae hynny'n dal i olygu nad yw 20 y cant wedi ei gael, ac mae hwn yn feirws sy'n targedu'r bobl fwyaf agored i niwed. Felly, mae'n dal i fod gwendid sylweddol, er bod miloedd yn fwy o bobl yn cael eu brechu bob wythnos. Dywedais yn fy natganiad y byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn cyflymu cymaint ag y gallwn y rhaglen i roi brechiad cyntaf i bobl sy'n is i lawr yr ystodau oedran, oherwydd ceir rhywfaint o dystiolaeth hefyd fod amrywiolyn India wedi'i ganfod yn fwy helaeth mewn poblogaethau iau, o bosibl am nad oes niferoedd mor uchel ohonynt yn cael eu brechu.
Mewn perthynas â'r rhai sy'n gorfod mynd i'r ysbyty, rydym yn dal i weld gostyngiad yn nifer y bobl yn ysbytai Cymru sydd â'r coronafeirws mewn rhyw fodd neu'i gilydd—lle ceir amheuaeth ohono, lle mae wedi'i gadarnhau, neu rai sy'n gwella ohono. Ac mae nifer y bobl y cadarnhawyd bod coronafeirws arnynt—coronafeirws heintus—yn is byth. Rydym yn cadw llygad yn ofalus iawn ar yr hyn sy'n digwydd yn Bolton, yn enwedig, ac mae'r system eisoes yn siarad ac yn paratoi, pe byddem angen gofal ysbyty i fwy o bobl oherwydd effaith amrywiolyn India. Bydd gennym fesurau wedi'u targedu mewn perthynas â brechu. Gan fod gennym niferoedd mor isel yng Nghymru, gallwn dargedu brechlynnau ychwanegol yn y ffordd honno, ac mae'r trafodaethau gyda'r byrddau iechyd eisoes yn digwydd fel y gallant ddefnyddio mwy o ddisgresiwn i sicrhau eu bod yn cyflwyno pobl ar gyfer eu brechu yn y mannau yr effeithir arnynt fwyaf.
I rai dan 18 oed, nid oes brechlyn wedi'i drwyddedu eto, ac ni fyddwn yn brechu pobl o dan 18 oed nes bod trwydded wedi'i rhoi ar ei gyfer. Efallai y bydd ar gael yn yr hydref, ac yna bydd angen inni bwyso a mesur yr achos dros wneud hynny. Rydym wedi siarad llawer ar lawr y Senedd yn y tymor blaenorol am yr angen i sicrhau bod ein plant, staff addysgu ac aelodau eraill o staff yn cael eu diogelu'n briodol rhag y feirws, ac mae'n sicr y bydd achos cryf i'w ystyried dros frechu plant o 12 oed i fyny, pan fydd brechlyn wedi'i drwyddedu ar gyfer gwneud hynny, a byddai hynny wedyn yn effeithio ar fesurau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol sy'n cael eu rhoi ar waith yn yr ysgolion ar hyn o bryd. Rwyf wedi gweld cyngor Sefydliad Iechyd y Byd, ac wrth gwrs byddwn yn ystyried hwnnw hefyd.
Rwy'n deall y pwyntiau a wneir am y pwysau sydd ar ysgolion ac athrawon a myfyrwyr, boed yn asesiadau neu'n arholiadau confensiynol. Mae'r rhain yn aml yn gyfnodau anodd yn y flwyddyn academaidd i fyfyrwyr a staff. Bydd gennym system yng Nghymru lle mae mwy o hyblygrwydd ar lefel ysgol, a byddant yn gallu defnyddio hynny i liniaru peth o'r pwysau. Ac oherwydd mai ni oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gydnabod na fyddai arholiadau confensiynol yn bosibl eleni, ni sydd wedi cael y cyfnod hwyaf o amser i sefydlu system amgen, system a drafodwyd gyda CBAC, gyda Cymwysterau Cymru, gyda phenaethiaid a chynrychiolwyr eraill, i sicrhau bod y system yn deg i bobl ifanc ond yn gredadwy hefyd yng ngolwg y bobl a fydd yn dibynnu ar y tystysgrifau sy'n deillio o'r asesiadau hynny, ac na fydd y bobl ifanc hyn dan anfantais mewn ffyrdd eraill.
Ar gymorth ariannol a diwydiant, mae mwy nag un llais mewn unrhyw ddiwydiant yn aml, ac fe welwch bobl sy'n cytuno â'r hyn sy'n digwydd ac fe welwch bobl sy'n anghytuno â'r hyn sy'n digwydd. Gwn ei bod yn flaenoriaeth gan y Gweinidog newydd ym mhortffolio'r economi i drafod gyda'r diwydiannau sy'n gallu bod yn weithredol eto, ond nid yn llwyr weithredol, fel y clywsom yn gynharach gan Sam Rowlands, er mwyn inni allu gwneud defnydd mor effeithiol â phosibl o'r adnoddau sydd gennym, sy'n anochel yn rhai cyfyngedig.