Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 26 Mai 2021.
Diolch i Mike Hedges am hynna, Llywydd. Mae manteision economaidd i fusnesau ac unigolion, gan gynnwys costau is ar gyfer teithio a gorbenion. Gall gweithio o bell yn fwy ddenu mwy o ymwelwyr i ganol trefi lleol hefyd. Dyna pam yr ydym yn treialu canolfannau gwaith lleol ledled Cymru, fel yr ydym newydd ei drafod. Mae manteision pwysig eraill yn cynnwys lleihau allyriadau carbon a gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.