Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 26 Mai 2021.
Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth bod gan ein cwricwlwm newydd y potensial i drawsnewid dysgu, ond dim ond os ydym ni'n cefnogi ein hathrawon ni i'w wneud yn llwyddiant. Rhaid i ni wella a diwygio, ac rwy'n benderfynol ein bod yn adeiladu ar y pwyslais ar les a hyblygrwydd a welwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn agos â'r cwricwlwm newydd. Mae ein system addysg wedi dangos cadernid a hyblygrwydd rhyfeddol, ac mae'n rhaid i ni ddysgu o hynny.
Rwy'n bwriadu cymryd camau ar unwaith i gefnogi'r proffesiwn a rhoi lle iddyn nhw ganolbwyntio ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud orau: addysgu. Mae hynny'n golygu ymdrin â biwrocratiaeth ddiangen, ymddiried yn eu barn broffesiynol a chefnogi eu lles. Rwyf eisiau i'r system gyfan ddysgu o'r hyn sydd wedi gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a pharhau i gynyddu gallu i wella.
Dyna pam yr wyf i hefyd yn cyhoeddi £6.25 miliwn i helpu athrawon mewn ysgolion i ehangu eu gallu a'u medrusrwydd i gefnogi lles dysgwyr o fewn addysgu, hyrwyddo arfer gorau a rhannu hynny ar draws ysgolion, fel ein bod ni'n helpu ysgolion i feithrin cadernid rhag COVID ac ehangu'r newidiadau cadarnhaol i ffyrdd o weithio. Daw hyn â'n buddsoddiad ni i dros £150 miliwn mewn cymorth addysgu mewn ysgolion a cholegau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Byddaf i'n gweithio mewn partneriaeth â'r proffesiwn, ein partneriaid addysg, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau ein bod ni'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau cyffredin hyn ac yn symud tuag atyn nhw gyda'n gilydd. Byddaf i'n gwrando ar leisiau ein dysgwyr, gan adeiladu ar waith gwerthfawr arolygon 'Coronafeirws a Fi' Comisiynydd Plant Cymru, fel bod gan ein plant a'n pobl ifanc lais yn y polisïau sy'n effeithio fwyaf arnyn nhw.
Mae ein partneriaid eisoes wedi ein helpu ni i ddiffinio'r egwyddorion llywodraethu yr wyf i wedi'u nodi heddiw ar gyfer ein cynlluniau adnewyddu a diwygio. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf i'n cyhoeddi cynllun manwl sy'n adlewyrchu'r egwyddorion hynny ac sy'n adeiladu ar y 1,800 o staff addysgu llawn amser ychwanegol a gafodd eu recriwtio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn eu cefnogi. Bydd y cynllun hefyd yn disgrifio sut y byddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i alluogi dysgwyr i symud ymlaen yn hyderus drwy eu haddysg. Ac yn olaf, byddaf i'n nodi sut y byddwn ni'n gwerthuso'r camau yr ydym ni'n eu cynnig, a sut y byddwn ni'n dangos bod ein cynlluniau'n llwyddo, o ran cefnogi ein dysgwyr a'n hathrawon ac adnewyddu'r sector addysg i symud ymlaen at ddiwygio.
Dirprwy Lywydd, bydd y flwyddyn nesaf hon yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn ni gyflawni ein huchelgeisiau mawr ni ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae'n ddyletswydd arnom ni i beidio â chaniatáu i'r pandemig bylu dyheadau na chulhau gorwelion ein plant a'n pobl ifanc. Mae'r penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yma nawr yn hanfodol i sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael ei gefnogi i fod y gorau y gall fod.
Nid yw COVID-19 wedi diflannu, ac fel Llywodraeth byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i'r pandemig. Ond nawr yw'r amser i gefnogi ein hymarferwyr a'n dysgwyr ni i wneud y cynnydd sydd ei angen arnyn nhw, i adeiladu ar y cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac i edrych ymlaen ac i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ar gyfer addysg yng Nghymru.