Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 26 Mai 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mae'r flaenoriaeth sydd angen sylw ar frys yn glir: sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, er gwaethaf y pandemig. Fe fydd pob penderfyniad y byddaf i'n ei wneud fel Gweinidog yn cael ei lywio gan anghenion dysgwyr a'u lles nhw, gyda ffocws ar leihau anghydraddoldebau addysgol a sicrhau'r canlyniadau gorau i bawb.
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod, yn amlwg, yn un bwysig iawn yn ein hysgolion ni, ein lleoliadau dysgu ni, ein colegau a'n prifysgolion ac yn dangos pa mor bwysig ydyn nhw i'n plant a'n pobl ifanc. Mae ymarferwyr addysg wedi ymateb yn arwrol i heriau'r pandemig, gan arddangos hyblygrwydd, ymrwymiad a gwydnwch trawiadol. Dwi am ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad, eu dyfeisgarwch a'u hymateb cyflym. Mae dysgwyr hefyd wedi gorfod addasu, gan ddysgu a gweithio drwy ddulliau gwahanol iawn. Ond mewn gwirionedd, er gwaethaf hyn oll, mae'r pandemig wedi cael effaith arwyddocaol ar ein pobl ifanc, ar y proffesiwn addysg sy'n eu cefnogi, ac ar eu teuluoedd. Mae llawer o'n plant a'n staff wedi’i chael yn anoddach rheoli eu hiechyd meddwl a'u perthynas gydag eraill, ac mae wedi amlygu'r anghydraddoldebau di-ildio sy'n dal i fodoli mewn rhannau o'n system addysgol, bylchau o ran cyrhaeddiad ac mewn mynediad digidol na ddylai'r un ohonom eu derbyn.
Mae'n rhaid inni sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Fe fydd hyn yn galw am ymdrech aruthrol gan bob rhan o'r Llywodraeth a'r system addysg er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau uniongyrchol a thymor hirach COVID ar addysg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rŷm ni wedi cymryd camau breision o ran cefnogi disgyblion o gefndiroedd difreintiedig. Mae'n rhaid inni adeiladu ar hyn. Allwn ni ddim caniatáu i’r pandemig gyfyngu ar uchelgais pobl ifanc o dan unrhyw amgylchiadau.
Fel Gweinidog a fydd yn gweithio gyda'r proffesiwn, fe fydd pob polisi a phenderfyniad yn cael ei wneud yng ngoleuni pa un ai yw'n cefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Ein nod ni yw sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, dim ots lle maen nhw arni ar hyn o bryd. Ac nid mater yw hyn o ddweud wrth ddysgwyr eu bod nhw 'ar ei hôl hi' neu dreulio oriau yn gweithio ar daflenni gwaith a phrofion. Allwn ni ddim seilio ein hadferiad yn dilyn y pandemig ar fodel o'r hyn sy'n ddiffygiol. Yn hytrach, mae angen inni aildanio brwdfrydedd dros ddysgu a gwneud yn siŵr bod dysgwyr—yn enwedig dysgwyr sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf—yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi bob cam o'r ffordd. Fe fyddwn ni'n rhoi dysgwyr gyntaf felly, gan gefnogi eu hiechyd a'u lles, eu lefelau cymhelliant a'u hyder, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau i ddatblygu'r sgiliau allweddol sy'n eu galluogi i ddysgu. Dyma'r seiliau y bydd ein dysgwyr yn adeiladu arnyn nhw i wneud y cynnydd sydd ei angen.
Mae'r pecynnau cymorth rŷn ni'n eu datblygu yn cael eu dylunio i fynd i'r afael â'r heriau unigryw sy'n wynebu gwahanol ddysgwyr. Mae pob dysgwr wedi bod drwy ei brofiad ei hun o gyfnod COVID, ac fe fydd natur ein cefnogaeth yn adlewyrchu hyn. Bydd ein cefnogaeth yn canolbwyntio ar helpu dysgwyr ôl-16 i symud ymlaen i gamau nesaf eu taith, darparu'r seiliau sy'n galluogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed a difreintiedig i gyflawni eu potensial, a chefnogi datblygiad hollbwysig ymhlith dysgwyr blynyddoedd cynnar.
A bydd y dysgwyr ieuengaf hynny'n cael eu cefnogi gan y £13 miliwn ychwanegol rwy'n ei gyhoeddi heddiw ar gyfer ysgolion a lleoliadau nas cynhelir, i'w helpu i ddarparu capasiti addysgu ychwanegol i gefnogi anghenion unigryw ein dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar. Mae cyfleoedd rhyngweithio ystyrlon o ansawdd yn hanfodol, ac mae galluogi cymarebau gwell o ran ymarferwyr a dysgwyr yn helpu i ddarparu'r cyfleoedd chwarae addysgol, gweithredol, a dysgu drwy brofiadau gyda chymorth ymarferydd, sy'n ofynnol ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf.
Bu heriau penodol i'n dysgwyr ieuengaf sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad gartref. Mae athrawon mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi gweithio'n eithriadol o galed yn ystod y pandemig i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg, ac yn bwysicach, eu cariad at ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn ni'n parhau i gefnogi'r athrawon a'r dysgwyr hynny, gan adeiladu ar gefnogaeth y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, sydd wedi helpu i gynyddu capasiti ac i ddod â dulliau newydd ac arloesol o ddiwallu anghenion ieithyddol ysgolion.