Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 8 Mehefin 2021.
Llywydd, diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Dwi'n cytuno â beth ddywedodd e ar y dechrau a beth a ddywedais i hefyd—pan fydd y Law Commission yn cyhoeddi eu hadroddiad nhw yfory, bydd pobl yn gallu gweld y ffigurau yn yr adroddiad yna, sy'n tynnu sylw at yr effaith y mae llifogydd wedi ei chael yn y Cymoedd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Ac mae'r adroddiad yn tynnu ar wybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf, i'n helpu ni gyda chynllunio yn y dyfodol. Llywydd, dwi wedi gweld y cynlluniau sydd ar gael yn ardal Aberhonddu i blannu mwy o bethau i helpu, ac, fel yr oedd Huw Irranca-Davies yn dweud, attenuation ponds.